Neidio i'r prif gynnwy

Claf canser yr ysgyfaint yn dechrau taith feicio o Gaerdydd i Baris i godi arian er mwyn gwella diagnosis i eraill

24 Gorffennaf 2023

Ym mis Medi 2022, yn 40 oed, cafodd Craig Maxwell ddiagnosis o fath prin o ganser yr ysgyfaint, EGFR+. Dywedwyd wrth Craig fod y canser Cam 4 wedi lledu i'w esgyrn ac nad oedd gwellhad iddo. Yn wynebu salwch angheuol, dechreuodd ganolbwyntio ar ffyrdd y gallai gyfrannu at wella diagnosis a thriniaeth canser i gleifion eraill ledled Cymru, ac ers hynny mae wedi bod yn cwblhau nifer o heriau corfforol i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer treial Clinigol Biopsi Hylifol QuicDNA.  

Heddiw, 24 Gorffennaf, mae Craig yn cychwyn o Gaerdydd ar daith feicio a fydd yn mynd ag ef a'i dîm codi arian yr holl ffordd i Baris, gan deithio tua 320 milltir i'w cyrchfan olaf ddydd Iau 27ain. Drwy wneud hyn, mae'n gobeithio symud yn agosach at ei nod o godi cyfraniad o £300,000 tuag at y treial clinigol arloesol sy'n edrych ar sut y gall defnyddio prawf gwaed biopsi hylifol syml yn gynharach yn y broses ddiagnostig ar gyfer canser yr ysgyfaint wella a chyflymu'r diagnosis, lleihau'r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, ac yn y pen draw, lywio sut y gellir defnyddio'r dechnoleg hon ar gyfer mathau eraill o ganser. 

Mae’n bosibl cynnal y treial clinigol biopsi hylifol QuicDNA o ganlyniad i Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Illumina Technology, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a nifer o sefydliadau partner. Disgwylir i fiopsi hylifol fel offeryn mewn meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a darparu gwell dealltwriaeth o afiechydon, gwella canlyniadau i gleifion a thrawsnewid bywydau. Yn y dyfodol mae ganddo'r potensial i ddarparu dull syml, hygyrch a dibynadwy o ymchwilio i achosion o ganser a amheuir a defnyddio dull monitro llai ymledol ar gyfer achosion o ganser sy’n dychwelyd. 

Mae mwy o wybodaeth am stori Craig ar gael yma

Dilynwch ni