Neidio i'r prif gynnwy

Claf canser yr ysgyfaint, Craig Maxwell, i rwyfo 72 milltir i ddod â gobaith i gleifion canser ledled Cymru

13 Mai 2025

Ar 19 Mai, bydd Craig Maxwell yn cychwyn ar daith rwyfo anhygoel a fydd yn mynd ag ef o Ddinbych-y-pysgod i Gaerdydd, gyda'r nod o godi £250,000 ar gyfer QuicDNA Max. 

Mae'r rhaglen QuicDNA Max yn adeiladu ar lwyddiant treial clinigol biopsi hylif QuicDNA, sy'n ceisio gwella’r broses o wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint i gleifion yng Nghymru drwy ddefnyddio prawf gwaed syml. Nod y fenter newydd yw ehangu'r dull arloesol i wahanol fathau eraill o diwmorau dros y tair blynedd nesaf, ac mae arweinwyr y prosiect yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn gobeithio y bydd yn rhoi mynediad i fwy o gleifion at brofion sydd nid yn unig yn gyflymach ond hefyd yn llai mewnwthiol. 

Cafodd Craig ddiagnosis o ffurf brin, genetig o ganser yr ysgyfaint yn 2022, ac ers hynny mae wedi llwyddo i godi dros £1.6 miliwn ar gyfer Cronfa Genomeg Teulu Maxwell, a gedwir gan Ganolfan Ganser Felindre; a defnyddiwyd £430,000 ohono i gyd-ariannu treial clinigol QuicDNA yn uniongyrchol. Yn wyneb ei ddiagnosis terfynol, dechreuodd Craig godi arian yn y gobaith o wella teithiau diagnostig pobl eraill a rhoi cyfle iddynt gael rhagolygon gwell na'i rhai ei hun. 

Mae taith anhygoel Craig hyd yn hyn wedi ei weld yn cymryd rhan mewn nifer o heriau corfforol ysbrydoledig, a hynny i gyd wrth gael triniaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cwblhau Marathon Llundain, beicio o Gaerdydd i Baris, ac yn fwyaf diweddar, Her Llwybr Arfordir Cymru, lle cerddodd ef a thîm o gefnogwyr hyd cyfan Llwybr Arfordir Cymru – 780 milltir i gyd – mewn dim ond 26 diwrnod. 

Yn ei her rwyfo sydd ar ddod, bydd Craig yn teithio i’r cyfeiriad arall, i’r gwrthwyneb i’r un a deithiodd ar hyd Llwybr yr Arfordir, gan ddechrau yn Ninbych-y-pysgod a gorffen yng Nghaerdydd, mewn pryd ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 24 Mai. Bydd Craig yn cario pêl y gêm gydag ef ar hyd ei daith, a bydd wedyn yn ei rhoi i glaf presennol yng Nghanolfan Ganser Felindre i'w chludo i'r stadiwm ar gyfer dechrau'r gêm. 

Bydd tri chyd-rwyfwr yn ymuno â Craig, gan gynnwys cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Rhys Williams, i'w gefnogi wrth iddo deithio dros 17 môr-filltir y dydd. Bydd ffrindiau, teulu, cydweithwyr ac ambell i wyneb adnabyddus yn eu hannog a’u cefnogi’n frwdfrydig yn eu hymdrechion. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://velindre-campaignhub.blackbaud-sites.com/maxwell-family-fund/ a gallwch ddarganfod mwy am QuicDNA yma: Gwerthusiad byd go iawn ar gyfer biopsi hylif QuicDNA | Gwyddorau Bywyd 

Dilynwch ni