Neidio i'r prif gynnwy

Chwaraewyr Rygbi Caerdydd yn dod â hwyl yr ŵyl i'r ysbyty plant

Gwnaeth teuluoedd a staff ar y wardiau yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru fwynhau ymweliad gan garfan y tîm cyntaf a oedd yn cynnwys Taulupe Faletau, Ellis Jenkins, Uilisi Haaholo a Rhys Carre.

Cafodd y plant, y bydd rhai ohonynt yn treulio’r Nadolig yn yr ysbyty, anrhegion amrywiol a’r cyfle i sgwrsio gyda’u harwyr Rygbi Caerdydd.

Dywedodd Alison Oliver, Arweinydd Gwasanaeth Clinigol Ysbyty Plant Cymru: “Diolch i dîm Rygbi Caerdydd a wnaeth roi o’u hamser i ymweld ag Ysbyty Plant Cymru eleni.

“Ymwelodd y tîm â phedair o’r wardiau gan godi calonnau’r plant a’u rhieni tra’n sgwrsio am y Nadolig a’u diddordebau, a darparu anrhegion iddynt.

“Rydym yn ddiolchgar iawn eu bod wedi cymryd amser o’u hamserlen brysur i wneud gwahaniaeth i’r teuluoedd ar yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Dywedodd Owen Lane, a fynychodd Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru: “Mae ein hymweliadau Nadolig bob amser yn uchafbwynt yn nhymor Nadoligaidd y garfan ac yn rhywbeth rydyn ni wir yn mwynhau ei wneud.

“Mae’n amlwg yn adeg o’r flwyddyn lle gall y rhan fwyaf ohonom fwynhau’r dathliadau gyda theulu a ffrindiau, ond nid yw pawb mor ffodus. Bydd rhai o’r plant y gwnaethom ymweld â hwy, yn yr ysbyty drwy gydol y Nadolig, felly os gallwn gynnig ychydig o ddihangfa iddynt a rhoi gwên ar eu hwynebau, boed hynny ar gyfer y claf, eu teulu neu staff gwych y GIG, yna mae’n fwy na gwerth chweil.  

“Roedd gennym lawer o anrhegion i’w rhoi diolch i bobl fel Macron a Gilbert, posteri wedi’u llofnodi, a gwnaethom dynnu llawer o luniau gyda phawb. Roedd yn anhygoel gweld yr ymateb i’r rhodd fach hon gennym.  Mae hefyd bob amser yn rhyfeddol i ni weld beth mae teuluoedd eraill yn mynd drwyddo, a'r frwydr a'r gwydnwch y maent yn ei ddangos bob dydd. 

“Mae wir yn rhoi pethau mewn persbectif pan rydyn ni’n wynebu cyfnodau anodd ar y cae neu gydag anafiadau. Mae’r teuluoedd hyn yn yr ysbyty a’r staff anhygoel yn ysbrydoliaeth enfawr i ni i gyd.”

Dilynwch ni