Neidio i'r prif gynnwy

'Ceisiais roi'r gorau i smygu ar ben fy hun sawl gwaith heb lwyddiant. Yna rhoddais gynnig ar Helpa Fi i Stopio ac roedd yn newid byd'

12 Mawrth 2025

Dechreuodd Eloise Robertson, o Dremorfa, Caerdydd, smygu fel cogydd ifanc ar ei phrentisiaeth.

“Dechreuais smygu un sigarét ar egwyl sydyn yn y gwaith, ac yna daeth yn un ar y bws i mewn, un ar y bws adref - ac yna cyn hir roeddwn yn dweud wrthyf fy hun 'mae angen torri lawr'. Ond dydych chi byth yn gwneud hynny," meddai.

“Ac yna 10 mlynedd yn ddiweddarach rwy’n smygu 20 y dydd ac yn meddwl beth ar y ddaear ddigwyddodd.”

Sylweddolodd y ddynes 27 oed am y tro cyntaf bod ganddi broblem smygu pan gafodd drafferth i gwtogi ar ei smygu.

“Fe wnes i gysylltu sigarét â chael ychydig funudau i mi fy hun, i ffwrdd o sefyllfa neu i dawelu fy hun,” cyfaddefodd. “Ceisiais roi’r gorau iddi dair neu bedair gwaith ar fy mhen fy hun ond yn ofer.”

Yn ystod haf 2024, gwelodd Eloise bod ei hiechyd yn dirywio ac roedd ganddi broblemau ariannol hefyd a gwnaeth hyn ei darbwyllo o’r diwedd i geisio cymorth am ddim gan Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu sy’n cael ei redeg gan y GIG.

Ychwanegodd: “Symudais i ardal newydd, a phan gofrestrais gyda'r meddyg teulu fe ofynnon nhw a oedd angen cymorth arnaf gydag unrhyw beth - a dywedais yr hoffwn roi'r gorau i smygu. Dyna pryd y newidiodd y cyfan.”

Derbyniodd Eloise saith wythnos o gymorth wedi’i deilwra gan ymarferwr Helpa Fi i Stopio arbenigol a chafodd 12 wythnos o gynnyrch disodli nicotin gwerth £250 am ddim.

“Roeddwn i’n teimlo’n galonogol iawn ar ôl y sesiwn gyntaf. Fe wnaethon ni osod dyddiad rhoi'r gorau iddi yn gynnar iawn ac roeddwn i'n ansicr yn ei gylch i ddechrau, ond fe wnes i gwtogi'n araf ac erbyn i'm dyddiad rhoi'r gorau iddi gyrraedd roeddwn i'n barod wedi cwtogi i un neu ddau y dydd yn unig.

“Roedd yn ddefnyddiol iawn mynd yn ôl at rywun bob wythnos i ddweud ‘Rwyf wedi llwyddo’.”

Dywedodd Eloise ei bod hi hefyd yn gweld y darllenydd carbon monocsid, a ddefnyddir i ganfod cyfraddau smygu, yn ddefnyddiol iawn.

“Yn fy sesiwn gyntaf un fe chwythais i mewn i’r anadlydd, ac roedd maint y carbon monocsid yn fy nghorff yn uchel iawn,” cyfaddefodd.

“Ond roedd yn teimlo fel gêm. Roeddwn yn ysu i wella ar fy sgôr yr wythnos flaenorol, a llwyddais i ostwng fy lefelau bob wythnos, a oedd yn galonogol iawn.”

Pan roddodd y gorau iddi am byth, dywedodd Eloise ei bod yn teimlo fel petai wedi cael codiad cyflog gan nad oedd hi bellach yn gwario “ffortiwn” ar sigaréts.

“Mae fy ysgyfaint yn teimlo cymaint yn gliriach nawr. Rwy'n gwneud chwaraeon ac yn mwynhau’r awyr agored, felly gallaf weld y gwahaniaeth.

“Y prif gyngor y byddwn i’n ei roi i unrhyw un sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi yw i ddweud wrth bawb - bydd yn eich gwneud yn atebol. Yn gyffredinol, mae pobl yn gefnogol iawn, ac mae’n rhoi hwb gwirioneddol i ddweud wrth rywun nad ydych wedi smygu ers X o ddyddiau.”

I gael rhestr lawn o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn lleol, ac i gael gwybod a oes angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw, cysylltwch â thîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio drwy:

  • Ffonio rhadffôn 0800 085 2219
  • Tecstio HMQ at 80818 (cost neges destun yw un neges cyfradd safonol)
  • Mynd i’r wefan Helpa Fi i Stopio  a gofyn am alwad yn ôl

Gall smygwyr hefyd gael eu cyfeirio at Helpa Fi i Stopio gan eu meddyg teulu neu nyrs practis, neu os ydyn nhw'n cael eu hunain yn yr ysbyty, gallant gael mynediad at Wasanaeth Rhoi’r Gorau i Smygu yr ysbyty a chynhyrchion disodli nicotin ar y safle cyn cael eu trosglwyddo'n ôl i'r gymuned. Mae rhai fferyllfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnig cyngor Helpa fi i Stopio a chynhyrchion disodli nicotin.

Dilynwch ni