Cafodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd eu brechu rhag feirysau a allai fod yn niweidiol mewn gêm gartref yn erbyn Derby County yn ddiweddar.
Ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ag Ambiwlans Sant Ioan Cymru i roi brechlynnau mewn uned symudol newydd a oedd wedi’i pharcio y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, 25 Ionawr.
Cynigiodd tîm o frechwyr y brechlynnau ffliw, COVID-19, RSV ac MMR i bawb a oedd yn gymwys yn ardal maes parcio B, rhwng gatiau 3 a 4.
Rhoddwyd cyfanswm o 17 o frechlynnau i’r cefnogwyr ar y diwrnod, gan gynnwys pedwar o bobl o'r un teulu. Bu'n rhaid troi sawl person i ffwrdd hefyd gan eu bod naill ai'n anghymwys i gael brechlyn penodol, neu'n byw y tu allan i Gaerdydd a Bro Morgannwg.
Dywedodd Charis Joyce, Cydlynydd Imiwneiddio BIP Caerdydd a’r Fro: “Roedd y sesiwn yn llwyddiant mawr, ac fe ddiolchodd rhai cefnogwyr i ni am fod yno hyd yn oed os nad oedden nhw i fod i gael brechiad. Hoffem ddiolch i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd am fod mor gefnogol - roedd eu tîm diogelwch yn arbennig ar y diwrnod.
“Roedd yn gyfle gwych i wella mynediad pobl at frechiadau, ac rydym yn gobeithio cynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol agos.”
Dywedodd Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chris Johnson: “Profwyd mai brechlynnau yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn llawer o afiechydon difrifol. Rydyn ni i gyd yn byw bywydau prysur, ac mae gwasanaethau fel y fan brechu y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd yn ffordd gyfleus i gefnogwyr pêl-droed ddal i fyny â'u brechiadau wrth ddal i fyny â'u hoff dîm.
“Mae feirysau fel y ffliw ar gynnydd yn ystod misoedd y gaeaf, felly mae cael brechiad os ydych chi’n gymwys nid yn unig yn eich amddiffyn chi, ond eich anwyliaid hefyd.”
Mae feirysau anadlol fel y ffliw yn cylchredeg ar draws de Cymru ar lefelau cynyddol, gan roi pwysau aruthrol ar ein hysbytai a’n gwasanaethau gofal sylfaenol.
Cael eich brechu yw'r ffordd orau o’ch amddiffyn eich hun - a'r rhai o'ch cwmpas - rhag mynd yn ddifrifol wael rhag yr heintiau hyn.
Roedd fersiwn heb gelatin o'r brechlyn ffliw hefyd ar gael i'r rhai nad ydynt yn bwyta cynhyrchion porc.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlynnau ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, neu ffoniwch Dîm Diogelu Iechyd ac Imiwneiddio BIP Caerdydd a’r Fro ar 07974 115707.