Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Pobl ag Epilepsi – Dathlu Diwrnod Porffor 2025

26 Mawrth 2025

Mae 26 Mawrth yn nodi Diwrnod Porffor, dyddiad penodol i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o epilepsi a'r ymchwil i drin y cyflwr. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn arwain yr ymchwil yn Ne Cymru gydag uned bwrpasol a llawer o dreialon clinigol parhaus.

Beth yw Epilepsi?

Mae epilepsi yn gyflwr cyffredin, sy'n effeithio ar dros 600,000 o bobl yn y DU a 50 miliwn o bobl yn fyd-eang. Mae'n gyflwr niwrolegol lle mae pobl yn cael trawiadau sy'n dechrau yn yr ymennydd.

Mae’r ymennydd yn defnyddio signalau trydanol i reoli sut rydym yn symud, yn meddwl ac yn teimlo, ac mae’n amharu ar y signalau trydanol hyn sy’n achosi trawiad. Mae epilepsi yn effeithio ar bob unigolyn yn wahanol ac mae llawer o wahanol ffyrdd y gall person gael trawiad. Mae llawer o ffactorau yn gallu arwain at epilepsi, o achosion genetig i achosion mae pobl yn eu cael megis ar ôl strôc, anaf i'r ymennydd, neu haint.

Mae iechyd meddwl gwael, fel straen, pryder neu iselder yn gallu effeithio’n anghymesur ar bobl ag epilepsi. Gall hunan-barch gwael oherwydd y cyflwr a'r stigma sy'n amgylchynu'r cyflwr gael effaith fawr ar les meddyliol ac emosiynol.

Treialon clinigol

Mae’r Uned Ymchwil Niwrowyddoniaeth (NRU) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gyfleuster ymchwil 4 gwely sy’n cynnal treialon clinigol ar y cyd â’r Ganolfan Niwrotherapiau Uwch.

Mae 6 o dreialon clinigol neu astudiaethau ymchwil yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar gyfer pobl ag epilepsi ac mae’r Bwrdd Iechyd yn annog pobl sy’n gymwys i gymryd rhan drwy ymgysylltu â’u clinigwyr a gofyn a oes unrhyw dreialon y gallent fod yn addas ar eu cyfer.

Mae'r treialon clinigol presennol yn

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Dilynwch ni