Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi pobl ag arthritis i symud a magu hyder

11 Hydref 2024

12 Hydref yw Diwrnod Arthritis y Byd, cyfle i godi ymwybyddiaeth o effaith arthritis ar y cannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru sy’n byw gyda’r cyflwr.

Gall poen arthritis wneud pob agwedd ar fywyd dyddiol yn anodd ar brydiau ac effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn cymryd rhan yn y gweithgareddau y maent yn dymuno eu gwneud.

Mae BIP Caerdydd a’r Fro yn cynnig ystod eang o wasanaethau ar draws y Bwrdd Iechyd i helpu pobl i reoli cymalau poenus, gan gynnwys rhaglen ESCAPE Pain. Mewn canolfannau hamdden ledled Caerdydd, y Barri a Phenarth, mae Hyfforddwyr Adsefydlu yn creu amgylchedd diogel i bobl ymarfer corff a dysgu sut i reoli osteoarthritis eu hunain.

Mae’r Hyfforddwyr Adsefydlu, Marc a Jin (yn y llun), wedi cyflwyno grwpiau ESCAPE Pain yn y Barri a Phenarth am y tair blynedd diwethaf. Maent yn cefnogi pobl sy’n mynychu’r cwrs i symud a magu hyder.

Dywedodd Jin: “Pan fyddwch chi’n byw gyda chlefyd llidiol, rwy’n credu ei fod yn gallu bod yn brofiad unig iawn; dyw pobl ddim yn deall gan nad ydynt yn gallu ei weld. Mae bod yn rhan o rywbeth yn bwysig iawn. Yn y grŵp ESCAPE, mae pawb yn deall ac yn cefnogi ei gilydd. Gall pobl sy’n byw gydag arthritis deimlo’n ynysig a gall hyn roi eu hannibyniaeth yn ôl iddynt.”

Dywedodd Marc: “Gall pobl ag arthritis feddwl ei fod yn well iddynt beidio â symud gan y byddant mewn mwy o boen, ond mewn gwirionedd rydyn ni’n mynd i roi’r hyder iddynt symud yn gywir, eu helpu i drin y symptomau pan fyddant yn gwaethygu, boed yn boen cefn neu’n boen pen-glin, a rhoi ychydig o obaith iddynt. Rydyn ni’n rhoi’r offer iddynt helpu eu hunain sydd, yn ei dro, yn eu helpu i feddwl y gallant wneud ychydig mwy. Mae’n golygu eu bod allan o’r tŷ ac yn gallu cwrdd â’u ffrindiau.”

Mae'r grŵp yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos am chwe wythnos. Ar ddiwedd y cwrs ESCAPE Pain, mae gan bobl yr opsiwn i gymryd rhan mewn sesiynau campfa dilynol, Cerdded Nordig, rhaglenni ymarfer corff yn y dŵr gan Good Boost, Elderfit neu fwy.

Dywedodd Jin: “Mae gobaith. Gallwch ei reoli. Mae’n anodd ond mae’n rhaid i chi ddal ati i symud a cheisio peidio â bod ofn eich corff. Nid oes rhaid i ymarfer corff fod yn gymhleth. Rydym yn dysgu pobl sut i fynd yn ôl eu cyflymder eu hunain. Felly, ar y dechrau, rydyn ni’n gwneud 30 eiliad o ymarfer corff yn unig, felly cyfanswm o 10 munud, a thrwy gydol y rhaglen rydyn ni’n ei gynyddu i 30-40 munud. Ond rydyn ni’n dangos sut i reoli symptomau os ydynt yn gwaethygu.

“Rydyn ni wedi cael llawer o hunanatgyfeiriadau gan fod pobl ar y cwrs yn dweud wrth eu teulu a’u ffrindiau amdano.”

Gallwch hunanatgyfeirio at gwrs ESCAPE Pain y cefn yma ac ar gyfer cwrs ESCAPE Pain y cluniau a phengliniau yma.

I ddarganfod rhagor am yr hyn y mae BIP Caerdydd a’r Fro yn ei gynnig i helpu pobl i reoli arthritis, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff yn y pwll Good Boost, therapi llaw a’r gwasanaethau rheoli pwysau, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach.

Dilynwch ni