Yn ddim ond pedair oed, cafodd Emma Davies-McIntosh glwy'r pennau - salwch nad oedd ei theulu byth yn dychmygu y byddai’n gadael creithiau parhaol.
Ond y tu ôl i'r pen tost a'r blinder, roedd rhywbeth mwy sinistr yn datblygu. Heb yn wybod i'w rhieni, gwnaeth y feirws achosi iddi golli ei chlyw mewn un glust, gan newid cwrs ei bywyd am byth.
Mae Emma bellach yn aelod gwerthfawr o Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro, ac mae wedi rhannu ei stori i annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela ar y cyfle cynharaf.
“Os bydd cyfraddau brechu yn dechrau gostwng, byddwn yn dechrau gweld achosion o glefydau heintus mewn niferoedd mwy sylweddol - a gall cyflyrau fel y frech goch a chlwy'r pennau fod yn ddifrifol iawn, yn enwedig i blant,” esboniodd.
“Rwyf wedi cael colled clyw parhaol o ganlyniad i glwy'r pennau, ac wrth i mi feddwl am heneiddio, rwy'n ofni colli fy nghlyw yn llwyr.”
Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, dechreuodd rhieni Emma sylwi ei bod hi bob amser yn rhoi'r ffôn i'w chlust chwith yn lle ei chlust dde.
“Ond nid nes i mi fynd i'r ysgol - a dechrau cael profion clyw mewn amgylchedd ysgol - y cafodd fy rhieni wybod fy mod i'n fyddar ar fy ochr dde,” ychwanegodd Emma, a gafodd ddiagnosis o golled clyw yn saith oed.
“Efallai nad oeddwn wedi sylwi ar fy mhroblem clyw yn y ffordd y gallai fy rhieni fod wedi disgwyl i mi wneud hynny.”
Ar ôl ei diagnosis, cynghorwyd Emma i eistedd ym mlaen yr ystafell ddosbarth yn yr ysgol i wneud yn siŵr ei bod yn ddigon agos i glywed yr athrawon.
“Ond wrth i mi fynd yn hŷn - ac eisiau bod yn fwy cŵl a chymysgu mwy gyda fy ffrindiau - roeddwn i'n rhoi fy hun mewn mannau lle nad oeddwn i'n gallu clywed beth oedd yn digwydd,” cyfaddefodd.
“Efallai roeddwn i’n teimlo ychydig o gywilydd oherwydd fy ‘anabledd’ fel yr oedd yn cael ei alw, ac roeddwn i weithiau'n tynnu'n ôl o sgyrsiau ac yn sefyll yn dawel yn y gornel oherwydd roeddwn i'n ofni peidio â chlywed pethau'n iawn.”
Pan adawodd Emma yr ysgol uwchradd, ymunodd â Chorfflu Hyfforddi Swyddogion y Brifysgol, uned hyfforddi wrth gefn y Fyddin Brydeinig sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau arwain a phrofiad milwrol.
“Agorodd y cyfle i mi ymuno â'r Fyddin. Roeddwn i bob amser yn gwybod y byddai’r nam ar fy nghlyw yn rhwystr i hynny, ond roeddwn yn benderfynol ac yn ystyfnig,” ychwanegodd.
“Ar ôl tair blynedd, fe wnes i gais i Fwrdd y Comisiynau Rheolaidd sy'n penderfynu a ydych chi'n iawn i fynd i Sandhurst ar gyfer Hyfforddiant Swyddogion y Fyddin - ac fe wnes i basio. Ar y pwynt hwnnw efallai yr es i ychydig yn rhy gyffrous amdano a dechreuais gynllunio fy nyfodol.
“Yna cefais i’r prawf meddygol - ac fe wnes i fethu. Cafodd fy mreuddwydion eu chwalu mewn un eiliad. Roedd yn ddinistriol.”
Ailhyfforddodd Emma ac arweiniodd at ddilyn gyrfa lwyddiannus ym maes iechyd y cyhoedd. Bellach mae hi'n gweithio fel Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn Nhîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro sy'n arbenigo mewn imiwneiddiadau plentyndod.
Mae'n credu bod ei diagnosis o glwy'r pennau a'i cholled clyw dilynol wedi ei denu tuag at y llwybr gyrfa gwahanol hwn.
“Fel oedolyn dwi wedi dod yn fwy hyderus wrth ddweud wrth bobl fy mod i'n fyddar, ond nawr fy mod i’n gweithio yn y Tîm Iechyd y Cyhoedd, rwy'n dweud wrthyn nhw fy mod i'n fyddar oherwydd fy mod i wedi cael clwy'r pennau yn blentyn,” esboniodd.
“Ond ymunais â'r tîm hefyd ar gyfer penderfynyddion ehangach iechyd; y pethau mewn bywyd nad oes gennym reolaeth drostynt megis cyflwr ein hamgylchedd ffisegol, ein geneteg, ein lefel incwm ac addysg, a'n cydberthnasau.
“Yr hyn a sylweddolais yw bod brechu yn ddewis y gallwch ei wneud. Mae'n rhad ac am ddim, mae'n hygyrch a gallwn ei ddefnyddio i atal ein plant rhag dioddef niwed difrifol.”
Y brechlyn dau ddos o'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn yn erbyn pob un o'r tri haint. Maent yn cael eu rhoi fel mater o drefn i fabanod a phlant bach mewn practisau meddygon teulu - ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny.
Mae achosion o'r frech goch wedi digwydd ar draws sawl rhan o'r DU yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd bod nifer y bobl sy’n manteisio ar y brechlyn MMR wedi gostwng. Bu babi bach farw yng Nglannau Mersi ym mis Gorffennaf 2025 oherwydd hyn hefyd.
Ychwanegodd Emma: “Fel cymdeithas, rwy'n credu ein bod ni wedi anghofio'r cymhlethdodau difrifol a all ddod gyda'r cyflyrau hyn, ac rydym bron yn meddwl bod y clefydau heintus hynny wedi'u dileu. Y ffaith yw, cawsant eu dileu oherwydd brechu ac maent bellach yn dod yn ôl.
“Mae gennym y pŵer i amddiffyn ein plant rhag y risgiau hyn.”
Yn 2026, mae cynlluniau i ychwanegu varicella (brech yr ieir) at y brechlyn ar gyfer plant ifanc, gan ei wneud yn frechlyn MMRV.
Ar hyn o bryd, mae meddygon teulu yn gwahodd plant i dderbyn y brechlyn MMR dau ddos yn 12 mis oed (dos cyntaf) a 3 blwydd a 4 mis oed (ail ddos), ond o Ionawr 1, 2026, bydd plant yn cael cynnig eu hail ddos yn 18 mis oed.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR, cysylltwch â'r Tîm Iechyd Plant Lleol ar 02921 836926 neu 02921 836929. Am ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ychydig o bwyntiau pwysig am y frech goch
Ychydig o bwyntiau pwysig am glwy’r pennau
Ychydig o bwyntiau pwysig am y brechlyn MMR
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.