Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn byw yn ardal Caerdydd a'r Fro

Rwyf i fod i roi genedigaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru. A fydd cau uned Tywysoges Cymru yn effeithio ar fy ngofal?  

Ni fydd hyn yn effeithio ar gleifion o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.  

Mae'r tîm mamolaeth wedi bod yn gweithio'n agos gyda CTM i wneud yn siŵr bod lefelau staffio priodol i ymdopi'n ddiogel â'r cynnydd mewn genedigaethau yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Darparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol i bob menyw a pherson sy’n geni yw ein blaenoriaeth bob amser a byddwn yn parhau i wneud hynny yn ystod y cyfnod hwn.  

Bydd eich gofal cynenedigol ac ôl-enedigol hefyd yn parhau fel arfer.  

A fyddaf yn dal i gael apwyntiadau gyda fy mydwraig gymunedol?  

Byddwch, bydd eich bydwraig gymunedol yn parhau i fod yn bwynt cyswllt i chi ar gyfer unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd gennych.  

Bydd unrhyw un sy’n byw yng Nghwm Taf yn parhau i dderbyn gofal a chymorth gan eu tîm bydwreigiaeth lleol.  

Dilynwch ni