Pam mae’r unedau mamolaeth a newyddenedigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru (POW) yn cau a phryd mae’n digwydd?
O ddydd Llun 2 Medi 2024, bydd yr unedau'n cau dros dro am 12 wythnos er mwyn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sicrhau bod eu systemau trin aer a'u cyflenwad trydan yn cyrraedd y safonau gofynnol. Mae hwn yn fuddsoddiad o £1m mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar y safle.
Diweddariad (29.10.2024)
Mae'r gwaith adnewyddu yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn mynd rhagddo fel y cynlluniwyd. Fodd bynnag, ni fydd yr unedau mamolaeth a babanod newydd-anedig yn ailagor tan ddechrau 2025 oherwydd rhaglen waith frys i ailosod y to ar y prif adeilad.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Ble gallaf gael fy mabi pan fydd uned famolaeth Tywysoges Cymru ar gau?
Bydd menywod a phobl sy’n geni o fewn ardal Cwm Taf yn gallu dewis Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Singleton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae Canolfan Geni Tirion, yr uned bydwreigiaeth annibynnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg hefyd ar gael. Byddem yn eich annog i drafod eich dewis gyda'ch bydwraig gymunedol fel y gallant wneud y trefniadau angenrheidiol. Fe'ch anogir i gadarnhau eich dewis o uned gyda'ch bydwraig gymunedol erbyn i chi gyrraedd 36 wythnos.
Bydd yr holl enedigaethau toriad Cesaraidd dewisol sydd wedi’u cynllunio yn cael eu cynnal yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Bydd eich bydwraig gymunedol yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Sut gallaf drafod fy anghenion unigol/materion sy'n ymwneud â'm cynllun geni?
Mae pob menyw a pherson geni yn cael cynnig gofal cynenedigol rheolaidd a thrafodaethau cynllunio geni gyda'u bydwraig gymunedol benodol. Gall eich bydwraig gymunedol gynnig cymorth unigol a phersonol a gwybodaeth am eich amgylchiadau unigol.
Byddem yn eich annog i ofyn am y drafodaeth hon ar y cynllun geni i wneud yn siŵr bod eich bydwraig yn gallu rhoi cyngor ac esboniadau i unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych, ac i leddfu unrhyw bryderon.
A allaf ymweld â'r Uned dan Arweiniad Bydwragedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru cyn i mi roi genedigaeth?
Mae'r tîm yn cynnig teithiau o amgylch yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd bob dydd yn dibynnu ar y gweithgarwch yn yr uned. Os ydych yn fwy na 36 wythnos yn eich beichiogrwydd a hoffech ddod i weld yr uned, cysylltwch â'n Huned dan Arweiniad Bydwragedd ar 02920 745196 a bydd y tîm yn hapus i siarad â chi.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Mamolaeth o fewn BIP Caerdydd a'r Fro, cliciwch yma.
I ddilyn tudalen Facebook Gwasanaeth Mamolaeth CAF, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
A all fy mhartner(iaid) geni fod gyda mi yn ystod yr enedigaeth os wyf yn Ysbyty Athrofaol Cymru?
Gallant, gall menywod a phobl sy'n geni gael dau bartner geni/cymorth yn bresennol ar gyfer pob cam o'r esgor yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hyn yn cynnwys pan fyddant ar yr uned dan arweiniad Meddygon Ymgynghorol a’r uned dan arweiniad Bydwragedd.
Beth os caf fy nghynghori i roi genedigaeth o fewn uned dan arweiniad obstetreg, a oes gennyf ddewis ble i fynd?
Bydd pob menyw a pherson sy’n geni yn gallu gwneud y dewis sy'n iawn iddyn nhw. Yn ogystal â Chwm Taf sy’n cynnig gwasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, mae Ysbyty Singleton ac Ysbyty Athrofaol Cymru hefyd wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i reoli’r galw ychwanegol yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn ar eu hunedau. Mae hyn yn cynnwys lefelau priodol o staff a lle i letya a gofalu am y niferoedd cynyddol.
Rydym yn eich annog i drafod eich opsiynau ar gyfer man geni a threfnu trafodaeth cynllun geni gyda'ch bydwraig gymunedol benodol. Gall eich bydwraig gymunedol gynnig cymorth unigol a phersonol a gwybodaeth am eich amgylchiadau unigol, a gwneud trefniadau gyda’r uned o’ch dewis, os mai dyna fyddai orau gennych.
Ble byddaf yn cael fy ngenedigaeth toriad cesaraidd wedi'i chynllunio?
Os ydych yn cael eich argymell i gael, neu'n cynllunio cael genedigaeth cesaraidd ddewisol, bydd hyn yn digwydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Bydd eich bydwraig gymunedol yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ble byddaf yn cael fy apwyntiad prysuro’r geni a argymhellir?
Os ydych yn cael eich argymell i gael, neu'n cynllunio cael apwyntiad i brysuro’r geni, bydd hyn yn digwydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Ni chynigir apwyntiadau i brysuro’r geni yn Ysbyty Tywysoges Cymru tra bod y gwaith adnewyddu yn cael ei wneud.
Rwy’n cynllunio neu’n ystyried genedigaeth gartref, sut allai’r newid dros dro hwn effeithio arnaf i?
Os ydych yn byw yn ardal Cwm Taf bydd y gwasanaeth geni yn y cartref yn parhau i fod ar agor ac ar gael yn ystod y cyfnod hwn gyda rotas bydwragedd cymunedol a fydd yn gallu darparu gwasanaeth 24/7 i fenywod sy’n geni gartref.
Os oes angen eich trosglwyddo ar gyfer monitro ychwanegol, lleddfu poen neu adolygiad gan feddyg, bydd hyn yn cael ei drefnu yn yr uned obstetreg agosaf —Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Singleton neu Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd y rhan fwyaf o drosglwyddiadau’n cael eu cefnogi gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru gan ddilyn y llwybrau a’r canllawiau arferol oni bai ei bod yn glinigol ddiogel i argymell eich trosglwyddo yn eich cludiant personol eich hun.
Beth os daw fy mabi yn gynharach na 37 wythnos, neu os yw'n annisgwyl o sâl?
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn parhau i gynnig gofal newyddenedigol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae llwybrau a chanllawiau sefydledig ar gyfer babanod sy'n cael eu geni cyn 32 wythnos. I'r rhai sy'n bwriadu rhoi genedigaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Singleton, mae unedau newyddenedigol ar gael yn y ddau ysbyty.
A fydd unrhyw newidiadau i fy ngofal cynenedigol/gofal ôl-enedigol?
Ni fydd unrhyw newid i'r trefniadau presennol ar gyfer gofal cynenedigol ac ôl-enedigol a ddarperir gan eich bydwraig/tîm cymunedol ac ni chaiff unrhyw apwyntiadau eu trosglwyddo i Gaerdydd nac Abertawe.
Bydd pob apwyntiad clinig cynenedigol arferol gydag obstetrydd yn parhau i gael ei gynnal fel arfer drwy glinig cynenedigol ar safle POW.
Byddwch yn dal i ymweld â POW ar gyfer pob prawf gwaed arferol. Er enghraifft, bydd y rhai a gymerir ar gyfer sgrinio cyn geni, a phrofion goddefgarwch glwcos (os nodir) yn parhau i gael eu cynnig fel arfer trwy glinig cynenedigol/patholeg ar safle POW.
Bydd yr holl sganiau rheolaidd ac wedi'u hamserlennu sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn parhau fel arfer trwy glinig cynenedigol ar safle POW, gan gynnwys sganiau dyddio, sgan anomaledd (20 wythnos) a sganiau twf yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.
Ni fydd unrhyw newid i wasanaethau uned beichiogrwydd cynnar yn POW yn ystod y cyfnod cau dros dro hwn.
Beth os oes gennyf broblemau ynghylch mynediad i gar/teithio/treuliau?
Os ydych chi'n poeni am deithio i'ch man geni arfaethedig, siaradwch â'ch bydwraig gymunedol.
 phwy y bydd angen i mi gysylltu os wyf/yn meddwl fy mod yn esgor, neu os yw fy nŵr wedi torri?
Os yw eich dŵr wedi torri, neu os ydych yn meddwl eich bod yn esgor, fel arfer, byddem yn eich annog i gysylltu â'ch man geni arfaethedig i wneud trefniadau i gael eich asesu gan fydwraig.
Os mai Canolfan Geni Annibynnol Tirion yw hwn: 01443 443524
Os mai PCH (MPU) yw hwn: 07442 865989 / Ward Esgor – 01785 728890
Os mai Ysbyty Singleton yw hwn: 01792 530862
Os mai Ysbyty Athrofaol Cymru yw hwn: Uned Asesu Obstetrig - 02920 744658 / Ward Esgor – 02920 748565 / 02920 742679 / 02920 742686
Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth neu drafod fy anghenion unigol ymhellach?
Byddem yn eich annog i gysylltu â’ch bydwraig/tîm cymunedol penodol yn y lle cyntaf a fydd yn gallu darparu gwybodaeth, esboniadau a’ch cyfeirio at wybodaeth ychwanegol os bydd ei hangen arnoch.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Mamolaeth o fewn BIP Caerdydd a'r Fro, cliciwch yma.
I gael rhagor o wybodaeth, a gwybodaeth am ofal newyddenedigol, cliciwch yma.