Neidio i'r prif gynnwy

Cau Uned Mamolaeth Ysbyty Tywysoges Cymru am 12 wythnos

05.08.2024

Ddydd Llun 2 Medi, bydd yr unedau mamolaeth a newyddenedigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru (POW) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) yn cau am 12 wythnos er mwyn caniatáu i waith adnewyddu brys a hanfodol gael ei wneud.  

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan fenywod a phobl sy’n geni o ardal CTM yr opsiwn i ddewis geni eu babanod yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Singleton yn Abertawe, neu Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Mae Canolfan Geni Tirion, yr uned bydwreigiaeth annibynnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg hefyd ar gael. Bydd y rhai sy'n bwriadu cael genedigaeth toriad Cesaraidd dewisol o fewn CTM yn parhau i gael eu gofal yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. 

Os ydych chi'n feichiog ar hyn o bryd a bod disgwyl i'ch babi gael ei eni yn ystod y cyfnod hwn, fe'ch anogir i gadarnhau eich dewis o uned gyda'ch bydwraig gymunedol erbyn i chi gyrraedd 36 wythnos. Mae hyn yn sicrhau bod yr uned dderbyn yn ymwybodol ac y gellir trosglwyddo nodiadau clinigol yn briodol.  

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd, ac eithrio os ydych yn y cyfnod esgor actif. Rhowch wybod i'ch bydwraig gymunedol os ydych am newid eich dewis o uned.  

Mae uned famolaeth Ysbyty Athrofaol Cymru yn paratoi i ddarparu gwasanaeth ar gyfer 40 i 70 o enedigaethau ychwanegol y mis yn ystod y cyfnod o 12 wythnos. Bydd cydweithwyr ychwanegol o'r gwasanaeth mamolaeth yn CTM yn cael eu hadleoli i Gaerdydd i sicrhau bod yr uned wedi'i staffio'n briodol ac yn ddiogel. 

Os ydych chi dan ofal CTM ar hyn o bryd ni fydd unrhyw newid i'ch trefniadau presennol ar gyfer gofal cynenedigol ac ôl-enedigol a ddarperir gan eich bydwraig gymunedol a'ch tîm. Ni fydd yr un o'r apwyntiadau hyn yn cael eu symud i Gaerdydd. 

Os ydych chi dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, bydd eich gofal a’ch triniaeth yn parhau fel arfer, ac ni fydd cau Ysbyty Tywysoges Cymru dros dro yn effeithio arnoch chi. Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg ac wedi dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru, byddwch yn gallu dewis eich uned.  

I gael diweddariadau gan Wasanaeth Mamolaeth CAF, gan gynnwys cyngor a chymorth, gwybodaeth am deithiau sydd ar ddod o amgylch yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd a straeon geni, gallwch ddilyn eu tudalen Facebook a thudalen Instagram.  

Cwestiynau Cyffredin
Dilynwch ni