29 Ebrill - 5 Mai yw Wythnos Ymwybyddiaeth Methiant y Galon.
Yng Nghymru, mae problemau'r galon a chlefyd cylchrediad y gwaed yn un o brif achosion afiechyd a marwolaeth. Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon mae tua 39,000 o bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn byw gyda chlefydau sy'n gysylltiedig â'r galon.
Mae nifer sylweddol o'r problemau hyn, gan gynnwys trawiadau ar y galon a strôc yn digwydd pan fydd deunyddiau brasterog yn cronni yn y rhydwelïau sy’n golygu nad ydynt yn gallu cario digon o waed i'r galon a'r ymennydd.
Mae llawer o ffyrdd o leihau eich risg o ddatblygu clefyd y galon a chlefyd cylchrediad y gwaed.
Dyma rai newidiadau iach y gallwch eu gwneud er mwyn caru a gofalu am eich calon: