Neidio i'r prif gynnwy

Cartref yn Gyntaf: Lleihau arosiadau ysbyty a gwella lles cleifion

5 Rhagfyr 2025

I lawer o bobl, mae derbyn triniaeth gartref neu yn y gymuned yn hytrach nag mewn ysbyty yn arwain at ganlyniadau gwell, ac mae dychwelyd adref cyn gynted â phosibl ar ôl triniaeth feddygol yn arwain at adferiad cyflymach. Gelwir hyn hefyd yn ddull Cartref yn Gyntaf.

Gall treulio gormod o amser yn yr ysbyty arwain at ddatgyflyru – colli annibyniaeth a dirywiad mewn iechyd a lles cyffredinol. Gall datgyflyru gynnwys colli cryfder a chydbwysedd, ond hefyd sgil-effeithiau meddyliol fel dryswch ac iselder.

Mae tystiolaeth fod bod gartref a pharhau â gweithgareddau arferol, fel gwisgo a gwneud paned o de, yn helpu cleifion i gadw’u hannibyniaeth ac yn hybu lles. Mae hefyd yn cyfyngu ar y risg o ddatblygu haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cefnogi’r dull Cartref yn Gyntaf drwy fentrau fel Diogel yn y Cartref, a’r ymgyrch Lleihau Amser yn yr Ysbyty.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni