Neidio i'r prif gynnwy

Canser y Geg: Yr arwyddion allweddol, symptomau ac achosion

13 Tachwedd 2023

Mae mwy na 300 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y geg bob blwyddyn, ac yn anffodus canfyddir bod y rhan fwyaf ohonynt ar gam diweddarach o’r clefyd pan fydd yn anoddach ei drin.

Mae nifer y bobl sy’n cael canser y geg bob blwyddyn yng Nghymru wedi dyblu ers 2002, gan roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau canser a GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.

Mae'r ffigurau hyn yn amlinellu pam ei bod mor bwysig bod yn gyfarwydd ag arwyddion a symptomau canser y geg, yn ogystal â'r ffactorau risg mwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig â'r cyflwr.

Nod Mis Gweithredu ar Ganser y Geg, a gynhelir trwy gydol mis Tachwedd, yw hyrwyddo, diogelu ac addysgu'r cyhoedd am ganser y geg fel y gallwn ei ddal yn gynt a lleihau nifer yr achosion o’r canser.

Beth sy'n achosi canser y geg?

Tybaco: Mae ysmygu yn dal i gael ei ystyried fel prif achos canser y geg. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, bydd hyd at hanner yr ysmygwyr presennol yn marw o salwch sy'n gysylltiedig â thybaco - gan gynnwys canser y geg. Mae defnyddwyr tybaco chwe gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu canser y pen a'r gwddf na gweddill y boblogaeth, ac mae tua thri chwarter o achosion canser y geg a'r gwddf yn digwydd ymhlith defnyddwyr tybaco.

Alcohol: Mae alcohol yn achos cyffredin arall o ganser y geg. Gall yfed yn ormodol gynyddu'r risg o ganser y geg bedair gwaith.

Deiet gwael: Mae deiet gwael yn gysylltiedig â thraean o'r holl achosion o ganser y geg.

HPV: Oeddech chi'n gwybod y gall papilomafeirws dynol (HPV) gynyddu eich risg o ganser y geg? Mae HPV yn gyffredin iawn ac i nifer fach gall y feirws achosi newidiadau yn y geg a'r gwddf a all arwain at ganser. Mae plant 12 i 13 oed, a phobl sydd â risg uwch o HPV, yn cael cynnig y brechlyn HPV sy'n cynnig amddiffyniad cryf yn erbyn y feirws.

Beth yw symptomau canser y geg?

Gall symptomau canser y geg effeithio ar unrhyw ran o'ch ceg gan gynnwys y deintgig, y tafod, y tu mewn i'r bochau, neu'r gwefusau.

Gall y symptomau gynnwys:

  • wlser yn eich ceg sy'n para mwy na thair wythnos
  • darn coch neu wyn y tu mewn i'ch ceg
  • lwmp y tu mewn i'ch ceg neu ar eich gwefus
  • poen yn eich ceg
  • cael trafferth llyncu
  • anhawster siarad neu lais cryg
  • lwmp yn eich gwddf neu'ch llwnc
  • colli pwysau heb geisio gwneud.

Ewch i weld meddyg teulu os bydd gennych:

  • wlser ceg sydd wedi para mwy na thair wythnos
  • lwmp yn eich ceg, ar eich gwefus, ar eich gwddf neu yn eich llwnc
  • darn coch neu wyn y tu mewn i'ch ceg
  • poen yn eich ceg nad yw'n diflannu
  • yn cael trafferth llyncu neu siarad
  • llais cryg nad yw'n mynd i ffwrdd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr arwyddion a'r symptomau ar y wefan GIG 111 yma.

Hunan-wiriad Canser y Geg

Mae gan Sefydliad Canser y Geg hunan-wiriad canser y geg sy’n cymryd dwy funud, a allai achub eich bywyd. Y cyfan sydd ei angen yw drych, golau da a bysedd glân.

1. Wyneb

Edrychwch ar y wyneb cyfan. A oes unrhyw chwyddiadau nad ydych wedi sylwi arnynt o'r blaen? Archwiliwch eich croen. A oes unrhyw beth wedi newid yn ddiweddar? Ydy mannau geni wedi mynd yn fwy neu wedi dechrau cosi neu waedu? Trowch eich pen o ochr i ochr. Mae hyn yn ymestyn y croen dros y cyhyrau gan wneud lympiau yn haws i'w gweld.

2. Gwddf

Rhedwch y bysedd o dan eich gên a theimlo ar hyd y cyhyr mawr bob ochr i’ch gwddf gan ddefnyddio blaenau eich bysedd. A oes unrhyw chwydd? Ydy popeth yn teimlo'r un peth ar y ddwy ochr?

3. Gwefusau

Defnyddiwch eich mynegfys, eich bysedd canol a'ch bawd i deimlo'r tu mewn i'ch ceg. Tynnwch eich gwefus uchaf i fyny a’ch gwefus waelod i lawr i edrych y tu mewn am unrhyw ddoluriau neu newidiadau mewn lliw. Defnyddiwch eich bawd a'ch bys blaen i deimlo o gwmpas ac o fewn eich gwefusau gan wirio am unrhyw lympiau neu newidiadau mewn gwead.

4. Deintgig

Defnyddiwch eich bawd a'ch bys blaen y tu mewn a'r tu allan i'r deintgig, gan weithio'ch ffordd o amgylch y deintgig i deimlo am unrhyw beth anarferol.

5. Bochau

Agorwch eich ceg a thynnwch eich bochau i’r ochr gyda'ch bys, un ochr ar y tro, i edrych y tu mewn. Chwiliwch am unrhyw ddarnau coch neu wyn. Defnyddiwch eich bys yn y boch i wirio am wlserau, lympiau neu dynerwch. Ailadroddwch ar yr ochr arall. Gall eich tafod fod yn ddefnyddiol i ddod o hyd i ddoluriau, wlserau neu ddarnau garw.

6. Tafod

Tynnwch eich tafod allan yn ofalus ac edrychwch ar un ochr yn gyntaf ac yna'r ochr arall. Chwiliwch am unrhyw chwydd, wlser neu newid mewn lliw. Archwiliwch ochr isaf eich tafod trwy godi blaen eich tafod i do eich ceg.

7. Llawr y geg

Codwch eich tafod ac edrychwch oddi tano ac edrychwch ar lawr eich ceg am unrhyw newidiadau lliw sy'n anarferol. Pwyswch eich bys yn ysgafn ar hyd llawr eich ceg ac o dan eich tafod i deimlo am unrhyw lympiau, chwydd neu wlserau.

8. Taflod y geg

Gogwyddwch eich pen yn ôl ac agorwch eich ceg yn llydan i wirio taflod eich ceg. Edrychwch i weld a oes newidiadau mewn lliw neu wlserau. Gwiriwch am newidiadau mewn gwead gyda'ch bys.

Sylwch ar unrhyw beth anarferol. Os ydych wedi cael annwyd, dolur gwddf, wlser neu chwarennau chwyddedig yn ddiweddar, wedi brathu neu losgi eich hun er enghraifft, dylai'r rhain wella o fewn tair wythnos. Os oes gennych unrhyw bryderon ewch i weld eich deintydd neu feddyg i weld a oes angen cyngor arbenigol arnoch.

Mae Sefydliad Canser y Geg yn argymell bod pawb dros 16 oed yn cael archwiliad proffesiynol am arwyddion cynnar canser y geg, unwaith y flwyddyn, yn eu deintydd.

* Mae cymorth am ddim ar roi’r gorau i ysmygu ar gael gan y Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yma neu drwy ffonio 0800 085 2219.

Dilynwch ni