Neidio i'r prif gynnwy

Canser y Coluddyn – rôl Nyrsys Clinigol Arbenigol a pha arwyddion a symptomau i gadw llygad amdanynt

Nyrsys Clinigol Arbenigol Bwrdd Iechyd Caerdydd a

15 Gorffennaf 2024

Oeddech chi'n gwybod bod 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os cânt ddiagnosis ar y cam cynharaf? Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn taflu goleuni ar rai aelodau o’r tîm rhyfeddol sy’n gofalu am gleifion pan fyddant yn derbyn y newyddion hynny sy’n newid bywydau a’r arwyddion a’r symptomau i gadw llygad amdanynt.

Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol (CNS) Clare, Caroline ac Angel, sydd wedi’u lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn byw bywydau prysur y tu allan i’r swydd bob dydd ac wedi dilyn llwybrau gyrfa amrywiol, ond mae eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u hangerdd ar y cyd wedi dod â nhw ynghyd i ddarparu gofal a chymorth i gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser y coluddyn.

“Ni yw’r gweithwyr allweddol a enwyd ar gyfer cleifion yng Nghaerdydd a’r Fro sy’n cael diagnosis o ganser y coluddyn ac rydym yn darparu cyswllt hanfodol rhwng cleifion a’r system gofal iechyd. Rydym yn gallu darparu cymorth ac arweiniad tosturiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth iddynt hwy a'u teuluoedd trwy gydol eu taith canser.

“Gan ddefnyddio’r Llwybr Canser Optimaidd Cenedlaethol ar gyfer Canser y Colon a’r Rhefr a Amheuir ac a Gadarnhawyd (Llwybr SCP), rydym yn cydlynu triniaeth a gofal ein cleifion o’r diagnosis cychwynnol a thrwy gydol eu triniaeth a’u dilyniant.”

Mae rolau Clare, Caroline ac Angel yn hollbwysig i gleifion yng Nghaerdydd a’r Fro sy’n wynebu cyfnod anoddaf eu bywydau o bosibl;

“Mae nyrsys CNS fel ni yn chwarae rhan ganolog yn y Tîm Amlddisgyblaethol (MDT) Canser y Colon a’r Rhefr trwy olrhain atgyfeiriadau canser y colon a’r rhefr a amheuir ar frys (USC), cefnogi clinigau cleifion allanol, hwyluso diagnosis a chynlluniau triniaeth dilynol gyda’r nod o sicrhau llwybr di-dor ac amserol.

“Rydym yn rhedeg ac yn cydlynu’r rhaglen Gwyliadwriaeth canser y colon a’r rhefr a arweinir gan Nyrsys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae gennym dri chlinig lle rydym yn gweld cleifion ar ôl llawdriniaeth, cleifion gwyliadwriaeth a chleifion canser y rectwm cynnar sy'n cael eu monitro'n agos.

“Fel pwynt cyswllt ar gyfer ein cleifion a’u hanwyliaid, rydym yn deall y gallai fod cwestiynau’n codi. Rydym yn cynnig llinell gymorth i gleifion a’u hanwyliaid sy’n cynnwys gwasanaeth negeseuon, i gysylltu â ni am gymorth a chyngor am eu taith canser.”

Nid yw'r gefnogaeth yn dod i ben wedyn. Mae Clare, Caroline ac Angel hefyd yn edrych ar y darlun ehangach ac yn darparu cymorth pellach i'w cleifion sydd wedi profi canser y coluddyn;

“Gan y gall canser effeithio ar bron bob agwedd ar fywyd person ac nid dim ond eu hiechyd corfforol, rydym yn gweithio’n agos gyda Macmillan, Bowel Cancer UK, Tenovus ac elusennau tebyg eraill a sefydliadau trydydd sector, a gallwn gyfeirio ein cleifion at amrywiaeth o wasanaethau amhrisiadwy ar gyfer cyngor a chymorth.

“Mae’r holl bethau uchod yn bwysig, ond weithiau y pethau mwyaf gwerthfawr rydyn ni’n eu darparu yw clust i wrando, ysgwydd i wylo arni a llaw i’w dal.”

Gyda chleifion yn ganolog i bopeth y mae CNS yn ei wneud, mae Clare, Caroline ac Angel yn dweud ei bod yn 'fraint' gwneud yr hyn a wnânt orau;

“A ninnau’n nyrsys, rydym mewn sefyllfa freintiedig ac weithiau unigryw o fod yn aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol y mae cleifion a’u teuluoedd yn ymddiried fwyaf ynddynt.

“Canser y Coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin, ac er bod gennym nifer fawr o atgyfeiriadau, rydym yn sicrhau bod pob claf yn cael ei drin yn gyfannol. Rydyn ni’n rhoi’r claf wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud ac yn datblygu perthynas bersonol â phob un o’n cleifion trwy un o gyfnodau mwyaf llethol a dirdynnol eu bywyd.”

Yn ôl Cancer Research UK, mae dros 42,000 o achosion newydd o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio bob blwyddyn, ac mae 2,600 o achosion newydd yn cael eu diagnosio ymhlith pobl dan 50 oed. Mae hyn ond yn atgyfnerthu pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth am y math hwn o ganser;

“Er bod pobl, yn gyffredinol, yn fwy cyfforddus  bellach yn siarad am ganser, i lawer mae’n dal yn bwnc anodd, a gyda chanser y coluddyn, mae rhai o’r arwyddion a’r symptomau cynnar yn amlygu eu hunain trwy weithredoedd corfforol y byddai’n well gan y rhan fwyaf ohonom eu cadw’n breifat.

“Mae modd trin a gwella canser y coluddyn yn enwedig os caiff ei ddiagnosio’n gynnar. Mae bron pawb yn goroesi canser y coluddyn os cânt ddiagnosis ar y cam cynharaf. Fodd bynnag, mae'r siawns o frwydo yn ei erbyn yn gostwng yn sylweddol wrth i'r afiechyd ddatblygu.

“Mae ymchwil yn dangos y gall pobl o rai cefndiroedd ethnig, economaidd neu ddiwylliannol fod yn llai parod i geisio cyngor a chefnogaeth ac felly gall codi ymwybyddiaeth o fewn y cymunedau hyn fod yn bwysicach fyth.”

Po gynharaf y caiff canser y coluddyn ei ganfod, y mwyaf yw’r tebygolrwydd y gellir ei drin.

Gall symptomau gynnwys:

  • Newid yn arferion y coluddyn (gall hyn gynnwys mynd i’r tŷ bach yn amlach, pŵ mwy rhydd, mwy meddal, ac weithiau poen yn yr abdomen)
  • Gwaed yn y pŵ heb symptomau eraill (peils/hemoroidau)
  • Poen yn yr abdomen, anghysur neu chwyddo a achosir bob amser gan fwyta

Os oes gennych un neu fwy o symptomau canser y coluddyn sydd wedi parhau am fwy na thair wythnos, ewch i weld eich meddyg teulu.

Os ydych rhwng 51 a 74 oed byddwch yn derbyn pecyn prawf yn awtomatig bob dwy flynedd o ddyddiad eich canlyniad diwethaf.

Dilynwch ni