Dyfarnwyd statws Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell i Ganolfan Niwro-Oncoleg Caerdydd gan Genhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell (TJBCM).
Cafodd Canolfan Niwro-Oncoleg Caerdydd, sy'n cynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Canolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd, ei chydnabod am ei hymrwymiad rhagorol i ddatblygu a gwella gwasanaethau.
Canmolodd y pwyllgor drylwyredd ac ymroddiad y tîm i ddatblygu'r gwasanaeth a chanmolodd ei lwybr adsefydlu a'i frwdfrydedd trawiadol. Mae wedi rhannu ei arferion gorau drwy Academi Tessa Jowell er mwyn i ganolfannau eraill ddysgu ohonynt.
Meddai George Eralil, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Arweinydd Rhwydwaith Canser Cymru ar gyfer yr Ymennydd a CNS: "Mae Oncoleg Niwrolawfeddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi datblygu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf.
"Roedd defnydd strategol o ddyfarniadau cyllid cychwynnol, buddsoddi mewn technoleg i ddiogelu llawdriniaeth tiwmor yr ymennydd yn y dyfodol, a dyfodiad 5-ALA yn paratoi'r ffordd i fuddsoddiad ychwanegol a rheolaidd tuag at bersonél allweddol a thechnoleg o'r radd flaenaf.
"Erbyn hyn mae gennym dîm Llawfeddygaeth Canser yr Ymennydd a CNS is-arbenigol llawn ac mae gennym is-arbenigedd pellach mewn technegau llawfeddygol pediatrig, effro a gwynnin. Mae Cymru bellach ar fap niwro-oncoleg y Deyrnas Unedig wrth i ni ymfalchïo'n fawr mewn croesawu'r treial FUTURE-GB ymhlith eraill i Gaerdydd.
"Mae achrediad Tessa Jowell fel Canolfan Ragoriaeth yn ysbrydoledig ac yn ostyngedig ar yr un pryd. Fodd bynnag, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad, ewyllys da a rhagoriaeth llwyr pob aelod o'n tîm gwirioneddol arbennig a chynhwysol.
"Edrychwn ymlaen at fod yn rhan o fudiad Tessa Jowell."
Ychwanegodd James Powell, Ymgynghorydd Niwro-Oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre a chlinigydd arweiniol ar gyfer cais y Ganolfan Ragoriaeth: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dynodi'n Ganolfan Ragoriaeth i gydnabod ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu ein gwasanaethau i wella profiad a chanlyniadau cleifion.
"Rydym yn gobeithio y bydd statws y Ganolfan Ragoriaeth yn rhoi mwy o hyder i’r holl gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio i'n gwasanaeth eu bod yn derbyn y lefelau uchaf o ofal sydd ar gael."
Mae menter statws Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell yn rhan o genhadaeth genedlaethol TJBCM i sicrhau bod gan bob claf fynediad at ofal rhagorol, waeth ble mae’n byw.
Eleni, dyfarnwyd y statws i chwe chanolfan ymennydd y GIG ledled y DU. Erbyn hyn mae 17 o Ganolfannau Rhagoriaeth ledled y DU ac mae'r genhadaeth yn gobeithio y bydd pob
canolfan tiwmor yr ymennydd yn y DU, dros amser, yn dod yn Ganolfan Ragoriaeth ac yn parhau i godi safonau rhagoriaeth.
Dywedodd Jess Mills, merch Tessa Jowell a Chynghorydd Arbennig TJBCM: "Rydym gam yn nes at gyflawni'r uchelgais anhygoel hon o ragoriaeth i bawb.
"Mae'r rheswm ein bod yn symud ymlaen mor gyflym â hyn yn deillio o ymdrechion ac ymrwymiad cyfunol y meddygon, y nyrsys a'r staff cymorth ym mhob un o'r ysbytai."
Mae'r rhestr o ganolfannau a gafodd statws Rhagoriaeth yn ystod y cylch hwn yn cynnwys: