21 Chwefror 2024
Yn 2017, symudodd Enrique o Sbaen i fyw yng Nghaerdydd. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys coginio, dringo, mynychu Crossfit, cymdeithasu â ffrindiau a manteisio ar bob cyfle i wella ei Saesneg (sydd eisoes yn ardderchog). Mae Enrique yn angerddol am fwyd a choginio a bu’n Brif Gogydd mewn bwyty yng Nghaerdydd. Ym mis Hydref 2023, yn 35 oed, gwnaeth Enrique ddioddef o strôc a newidiodd ei fywyd.
Cafodd Enrique ei dderbyn i’r ward Strôc Acíwt yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yna’i drosglwyddo i’r Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc (SRC) ar gyfer therapi adsefydlu dwys.
Roedd Enrique yn gryf ei gymhelliant a gweithiodd yn galed iawn ar ei broses adsefydlu yn ystod ei amser yn y Ganolfan. Bu’n ymgysylltu â chleifion eraill, yn meithrin cyfeillgarwch gwych ac yn mwynhau mynychu sesiynau therapi grŵp. Yn ystod un o’r sesiynau therapi pobi ym mis Rhagfyr, gwnaeth yr arweinydd Therapi Galwedigaethol, Amy, gynnig y cyfle i Enrique arwain rhai o’r grwpiau coginio nesaf. Cafodd ei synnu gan y cynnig i ddechrau ond, ar ôl cadarnhau bod Amy o ddifrif, dywedodd Enrique y byddai wrth ei fodd yn cael y cyfle i gynnal gwersi coginio.
Yr wythnos ganlynol, cynhaliodd Enrique ei sesiwn gyntaf yn dysgu’r cleifion i wneud ‘Empanadas’ (pasti Sbaenaidd). Ar ôl llwyddiant y grŵp hwn (gan gynnwys adborth gwych gan gleifion a staff), aeth Enrique ymlaen i gynnal tri grŵp arall lle bu’r cleifion yn creu brownis siocled, blondis banoffi a chacennau caws siocled gwyn. Ar gyfer y grŵp olaf cyn iddo gael ei ryddhau, gofynnodd Enrique i’w rieni ddod â’i wisg cogydd iddo, felly roedd Prif Gogydd ar y safle yn swyddogol.
Roedd y sesiynau coginio yn brofiad pleserus iawn, gyda phawb yn gwenu ac yn chwerthin. Roedd y sesiynau’n therapiwtig ac yn weithgaredd ardderchog i gleifion o ran adsefydlu gwybyddol, cyfathrebu ac adsefydlu’r breichiau yn dilyn eu strôc.
Drwy roi’r cyfle hwn i Enrique arwain ar yr hyn y mae’n angerddol yn ei gylch, llwyddodd Amy a’r tîm i leihau ei deimladau o amddifadedd galwedigaethol a’i annog i gymryd rhan mewn gweithgaredd a oedd yn golygu’r byd.
Mae Enrique bellach yn adsefydlu gartref, yn y gymuned gyda’r Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth (ESD) ar ôl Strôc. Wrth fyfyrio ar ei amser yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc, dywedodd Enrique;
“Mae’n bleser gen i ddweud bod arwain y grŵp coginio wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf cyffrous, pleserus a gwerth chweil a gefais fel claf mewnol yng Nghanolfan Adsefydlu ar ôl Strôc, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Nid yn unig am y cyfle i rannu ac addysgu un o’r pethau rwyf fwyaf angerddol yn eu cylch, sef coginio, ond hefyd am gael fy amgylchynu gan yr holl therapyddion sy’n rhoi’r positifrwydd, y cymhelliant a’r anogaeth i ni i gyd barhau i weithio ar ein hadferiad a dychwelyd i normalrwydd ein bywydau cyn effaith enfawr y strôc. Hoffwn sôn yn arbennig am Amy Price, Technegydd Therapi Galwedigaethol, gan mai hi oedd yr un a awgrymodd y syniad o gynnal y dosbarth coginio.
Roedd yn brofiad anhygoel, nid yn unig ar gyfer y therapi a oedd yn rhan ohono, ond hefyd roedd gallu gwenu, chwerthin a rhannu pryd o fwyd blasus gyda gweddill y cleifion yn golygu mai’r dosbarth coginio oedd y profiad gorau i fi ei gael ers y strôc.
Heb sôn am yr holl adborth cadarnhaol a roddwyd gan gleifion a staff a oedd yn parhau i ofyn am fwy o ddosbarthiadau wythnosau ar ôl y cyntaf. Rhoddodd hynny dân yn fy mol ac ysbrydoliaeth i barhau i gynnal mwy a mwy o ddosbarthiadau a cheisio gwasgu cymaint â phosibl i mewn cyn cael fy rhyddhau.
Felly am hynny i gyd a llawer mwy…. Diolch i dîm y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc!!!”