Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw newydd i helpu i leihau'r risg o ddementia

19 Mehefin 2024

Mae adnodd newydd i helpu preswylwyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddeall sut i leihau eu tebygolrwydd o ddatblygu dementia wedi cael ei lansio, yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia.

Mae'r canllaw - 'Lleihau'ch risg o ddatblygu dementia', yn rhoi gwybodaeth am rai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â datblygu dementia a sut y gall gwneud newidiadau nawr helpu i gadw'ch corff yn iach ac atal niwed i'ch ymennydd.

Lansiwyd y canllaw, a gynhyrchwyd mewn partneriaeth gan Gaerdydd sy'n Deall Dementia, Y Fro Dementia-Gyfeillgar a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mewn Gŵyl Caerdydd sy'n Deall Dementia arbennig yn Neuadd Llanofer.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Caerdydd: "Mae ymchwil yn dangos ei bod hi'n bosibl lleihau eich tebygolrwydd o ddatblygu dementia ac nad yw hi byth yn rhy gynnar na'n rhy hwyr i weithredu.

"Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw hwn yn helpu i godi ymwybyddiaeth y gall gwneud newidiadau bach i ffordd o fyw nawr gael effaith tymor hwy ar debygolrwydd pobl o ddatblygu dementia. Mae'r canllaw hefyd yn cyfeirio at gymorth a gwybodaeth leol a all helpu pobl i gymryd y camau gweithredu a awgrymir."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg: "Mae dementia yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ar draws y DU - gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg.

"Mae hwn yn adnodd gwych yr ydym wedi cydweithio arno ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn werthfawr i drigolion ledled Caerdydd a'r Fro wrth ddangos y gall hyd yn oed y newidiadau lleiaf mewn ffordd o fyw gael effaith fawr ar eich iechyd yn y dyfodol."

Bydd y canllaw ar gael mewn Hybiau a Llyfrgelloedd, yn ogystal â lleoliadau cymunedol eraill, ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus BIP Caerdydd a'r Fro: "Mae mor bwysig gofalu am eich iechyd. Mae'r adnodd hwn yn tynnu sylw at sut y gallwn ni i gyd leihau ein risg o ddementia yn y dyfodol hyd at 40 y cant trwy gymryd y camau syml yn y canllaw hwn."

Mae'r adnodd hwn wedi bod yn bosibl drwy gyllid grant Llywodraeth Cymru a chefnogaeth Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro.

I ddarllen y llyfryn ewch yma.

Dilynwch ni