30 Mehefin 2025
Mae canllaw newydd wedi'i lansio i helpu rhieni i deimlo'n fwy hyderus pan fydd eu plentyn yn sâl a gwybod ble i fynd am y cymorth iawn ar yr amser iawn.
Mae’r Canllaw i Deuluoedd i Gadw'ch Plentyn yn Iach a Salwch Plentyndod Cyffredin yn llyfryn rhad ac am ddim, hawdd ei ddefnyddio, sy’n llawn cyngor syml ac ymarferol. Mae ar gael mewn 10 iaith gymunedol i helpu cymaint o deuluoedd â phosibl i gael mynediad at gyngor iechyd dibynadwy mewn iaith maen nhw'n ei deall.
Mae'r llyfryn yn esbonio sut y gellir delio ag afiechydon plentyndod cyffredin fel peswch, annwyd, twymyn a brech gartref a phryd y dylai rhieni geisio cyngor gan fferyllfa gymunedol, meddyg teulu, GIG 111 Cymru neu'r Uned Achosion Brys.
Mae hefyd yn ymdrin â phynciau pwysig gan gynnwys cysgu’n ddiogel, lles emosiynol ac ymddygiad heriol a gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau lleol a all gynnig cefnogaeth.
Mae'r canllaw wedi'i ddatblygu gan Wasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a'r Fro (CAVHIS), mewn partneriaeth â nifer o wasanaethau a sefydliadau partner gan gynnwys y Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol, Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr Ayla Cosh, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a'r Fro (CAVHIS): “Mae’r llyfryn hwn yn adnodd defnyddiol i deuluoedd sy’n cynnig cyngor clir ac ymarferol a all helpu rhieni a gofalwyr i deimlo’n hyderus ac yn barod, hyd yn oed cyn i’w plentyn fynd yn sâl.
“Mae ar gael ar-lein mewn sawl iaith, a rhoddir fersiynau y gellir eu hargraffu hefyd i bobl sydd newydd gyrraedd Caerdydd sydd wedi cofrestru gyda CAVHIS. Gobeithiwn y bydd y llyfryn hwn yn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd gael mynediad at ganllawiau dibynadwy mewn fformat ac iaith sy'n fwy hygyrch gyda gwybodaeth leol berthnasol.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, y Cynghorydd Julie Sangani: “Rydym yn falch o gefnogi’r fenter bwysig hon sy’n grymuso teuluoedd gyda chyngor iechyd hygyrch a dibynadwy.
“Drwy sicrhau bod y canllaw hwn ar gael mewn sawl iaith, rydym yn helpu i sicrhau y gall rhieni ledled y ddinas deimlo'n hyderus wrth ofalu am iechyd eu plentyn. Mae hwn yn enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau."
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Wasanaethau Plant:“Rydym am sicrhau bod y cyngor a gynigiwn yn glir ac yn hygyrch, fel y gall rhieni a gofalwyr wneud dewisiadau gwybodus, fel bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd.
“Nid adnodd iechyd yn unig yw’r canllaw newydd hwn – mae’n offeryn i feithrin hyder a gwydnwch yn ein cymunedau fel y gallwn gyflawni hyn.”
Mae'r llyfryn digidol ar gael ar wefan CAVHIS a gwefan Teuluoedd Caerdydd. Mae ysgolion a sefydliadau trydydd sector hefyd yn cael eu hannog i gynnal a hyrwyddo'r canllaw er mwyn helpu i'w rannu'n eang.
Mae'r adnodd ar gael yn: Cymraeg, Saesneg, Albaneg, Amhareg, Arabeg, Dari, Ffarsi, Cwrdeg, Pashto a Tigrinya.
—
Gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau:
Bronte Howard
Uwch Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro