Neidio i'r prif gynnwy

Caerdydd a'r Fro ymhlith y rhai sydd â'r lefelau isaf o ordewdra plant yng Nghymru

Mae plant yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ymhlith y rhai â’r cyfraddau gordewdra isaf yn unrhyw le yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Bu’r Rhaglen Mesur Plant, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dadansoddi cyfran y plant pedair a phump oed sydd â phwysau iach mewn gwahanol rannau o’r wlad yn 2022-23.

Ledled Cymru, ystyriwyd bod bron i dri chwarter (74.3%) o blant â phwysau iach, gyda 13.4% yn cael eu disgrifio fel rhai dros bwysau (ac nid yn ordew) ac 11.4% yn ordew. Roedd hwn yn “welliant ystadegol arwyddocaol” ar y data a gyhoeddwyd cyn i bandemig Covid-19 ddechrau.

BIP Caerdydd a’r Fro a gofnododd y ffigurau gorau o unrhyw Fwrdd Iechyd yng Nghymru, gyda 77.5% o blant pedair a phump oed wedi’u categoreiddio fel rhai â phwysau iach – gwelliant ar y 74.6% ers blwyddyn academaidd 2021-22.

Yn yr un modd, 11.9% oedd cyfran y plant yr ystyriwyd eu bod dros bwysau (ac nid yn ordew) yng Nghaerdydd a’r Fro, tra bod lefel gordewdra yn 9.3%. Unwaith eto, dyma oedd y ffigurau gorau o blith unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru.

Dyma ddadansoddiad o’r ffigurau:

Canran y plant pedair a phump oed yr ystyrir bod ganddynt bwysau iach

  • BIP Caerdydd a’r Fro: 77.5%
  • BIP Addysgu Powys: 77.2%
  • BIP Aneurin Bevan: 75.9%
  • BIP Bae Abertawe: 73.8%
  • BIP Betsi Cadwaladr: 73.5%
  • BIP Cwm Taf Morgannwg: 72.0%
  • BIP Hywel Dda: 70.5%

Canran y plant pedair a phump oed yr ystyrir eu bod dros bwysau neu’n ordew

  • BIP Caerdydd a’r Fro: 21.2%
  • BIP Addysgu Powys: 22.0%
  • BIP Aneurin Bevan: 23.0%
  • BIP Bae Abertawe: 25.5%
  • BIP Betsi Cadwaladr: 25.9%
  • BIP Cwm Taf Morgannwg: 26.9%
  • BIP Hywel Dda: 28.9%

Ar lefel yr awdurdod lleol, daeth Caerdydd (77.7%) a Bro Morgannwg (76.9%) yn ail ac yn drydydd yn y drefn honno o ran cyfran y plant pedair a phump oed yr ystyrir eu bod â phwysau iach. Dim ond Sir Fynwy (79.6%) a gofnododd ffigurau gwell o’r 22 ardal cyngor.

Ledled Cymru, mae’r plant sy’n byw yn y pumed lleiaf difreintiedig o’r boblogaeth - yn ôl cod post preswylio - yn llai tebygol o fod dros bwysau neu’n ordew o gymharu â’r holl bumedau difreintiedig eraill.

Yn galonogol, yn BIP Caerdydd a’r Fro mae’r bwlch yn y lefelau o fod dros bwysau ac yn ordew rhwng y pumed mwyaf difreintiedig a’r pumed lleiaf difreintiedig wedi lleihau ychydig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, dywedodd awduron yr adroddiad y dylid dehongli’r canfyddiad hwn “yn ofalus”.

O ran rhyw, ym Mro Morgannwg roedd cyfran uwch o ferched gordew (9.2%) o gymharu â bechgyn (7.4%) a oedd yn groes i duedd Cymru gyfan o fechgyn yn bod yn fwy gordew na merched. O ran cefndir ethnig, y rhai a nododd eu bod yn Asiaidd neu’n Asiaidd Prydeinig oedd â’r cyfraddau uchaf cyfunedig o bwysau iach neu o dan bwysau, tra bod y lefelau isaf mewn cymunedau wedi’u nodi fel Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd.

Cyfrifwyd cyfraddau’r niferoedd gan ddefnyddio canraddau mynegai màs y corff (BMI) penodol i oedran a rhyw a gyfrifwyd gan ddefnyddio cyfeirnod twf Prydain 1990 (UK90) (o ddull a gynigiwyd gan Cole et al 1995, a ddyfynnwyd yn Dinsdale et al, 2011).

Mae Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi gwneud lleihau lefelau gordewdra ymhlith plant yn un o’i phrif flaenoriaethau ers ymgymryd â’r rôl ym mis Ionawr 2024.

“Mae gordewdra yn gost sylweddol i’r GIG, yr economi a chymdeithas, ac mae’n effeithio ar ansawdd bywyd a disgwyliad oes,” meddai. “Rwyf wedi fy nghalonogi gan ganfyddiadau’r adroddiad ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg, ac mae’n destament i’r amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud ar draws y bwrdd iechyd ar y cyd â’n partneriaid niferus.

“Serch hynny, mae cyfran y plant sy’n ordew yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na’r rhai a adroddwyd ar gyfer Lloegr a’r Alban, ac mae hynny’n destun pryder. Mae angen mawr o hyd i weithio ar atal gordewdra a gordewdra difrifol, gan dargedu’r blynyddoedd cynnar ac ardaloedd o anfantais economaidd-gymdeithasol.”

Un o’r ffyrdd y mae Caerdydd a'r Fro yn ceisio lleihau ac atal gordewdra ymhlith plant yw trwy gyflwyno Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi lleoliadau cyn-ysgol i nodi a gweithredu camau iechyd a lles.

Mae lleoliadau sy’n croesawu’r cynllun yn cael eu hachredu a’u cydnabod am eu cyfraniadau i hybu iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Yn y rhanbarth, mae cyllid ychwanegol wedi’i ddarparu drwy’r grant Atal a Blynyddoedd Cynnar i ehangu’r cynllun.

Prosiectau eraill sydd wedi’u hanelu at leihau cyfraddau gordewdra ymhlith plant yn y rhanbarth yw NewidCyflym, animeiddiad arobryn a gynlluniwyd i gael plant ifanc i symud yn eu hystafell ddosbarth, a chyrsiau Dechrau Coginio sy’n dysgu rhieni sut i wneud prydau maethlon ar gyllideb i’w teuluoedd.

I ddarllen adroddiad y Rhaglen Mesur Plant yn llawn, ynghyd â’r data allweddol, ewch yma.

Dilynwch ni