3 Tachwedd 2023
Yr adeg hon o’r flwyddyn, wrth i lawer ohonom fynd allan i ddathlu Noson Tân Gwyllt, cynhelir llawer iawn o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd tân gwyllt. Pan fyddwch allan gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch anwyliaid, cofiwch am beryglon tân gwyllt hefyd.
Wrth fentro allan, cofiwch wneud y canlynol:
- Osgoi gwisgo dillad llac neu fflamadwy a allai fynd ar dân pan fyddwch yn agos at goelcerthi neu wrth ddefnyddio ffyn gwreichion
- Gwisgo menig i gadw’n gynnes ac i amddiffyn eich hun wrth drin ffyn gwreichion a thân gwyllt
- Osgoi yfed unrhyw alcohol wrth drin ffyn gwreichion neu dân gwyllt
- Prynu tân gwyllt cyfreithlon gan werthwr trwyddedig yn unig fel eich bod yn hyderus eu bod yn rhai o ansawdd
Pan fyddwch allan yn dathlu, peidiwch ag anghofio:
- Goruchwylio plant o amgylch tân gwyllt a choelcerthi. Cadwch olwg arnynt drwy’r amser a’u cadw i ffwrdd o unrhyw beth poeth
- Sicrhau fod gennych fwced o ddŵr yn barod i oeri ffyn gwreichion neu ddiffodd tanau bach
- Peidio â dychwelyd at dân gwyllt wedi’i gynnau, gadewch ef i weithiwr proffesiynol neu symudwch i bellter diogel
- Defnyddio bwced o dywod i ddiffodd ffyn gwreichion ar ôl eu defnyddio yn lle eu rhoi mewn dŵr neu eu taflu ar y ddaear
Os oes gennych bryder meddygol brys, ewch i GIG 111 neu ffoniwch 111 yn gyntaf, a ffoniwch 999 mewn argyfwng yn unig.