Neidio i'r prif gynnwy

Cadwch yn ddiogel yn ystod Noson Tân Gwyllt a cheisiwch osgoi taith ddiangen i'r ysbyty

A close up image of group of sparklers

Cynhelir dathliadau noson tân gwyllt dros y penwythnos. Mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o amgylch coelcerthi, tân gwyllt a ffyn gwreichion, er mwyn lleihau anafiadau.  

Peidiwch ag anghofio: 

🎆 Cadw pellter diogel oddi wrth dân gwyllt a choelcerthi. 

🎆 Goruchwylio plant bob amser. 

🎆 Defnyddio tân gwyllt cyfreithlon, cymeradwy yn unig.️ 

🎆 Defnyddio bwced o dywod i ddiffodd ffyn gwreichion. 

🎆 Peidio byth â dychwelyd at dân gwyllt wedi’i gynnau. 

Byddwch yn wyliadwrus i gadw’ch hun a’ch anwyliaid yn ddiogel. 

Rydym fel arfer yn gweld cynnydd mewn anafiadau yn ymwneud â llosgi yn agos at Noson Tân Gwyllt, ond gellir trin y rhan fwyaf o fân losgiadau gartref. 

Ar gyfer mân losgiadau, cadwch y llosg yn lân, peidiwch â byrstio unrhyw bothelli sy’n ffurfio a dilynwch gyngor cymorth cyntaf: 

  1. Stopio’r llosgi - Tynnu’r person o’r ardal, rhoi dŵr ar y fflamau neu fygu’r fflamau gyda blanced. 

  1. Tynnu dillad / gemwaith sy’n agos at y llosg. 

  1. Oeri’r llosg gyda dŵr rhedeg oer neu lugoer am 20 munud. 

  1. Gorchuddio’r llosg gyda cling film. 

  1. Trin y boen o’r llosg gyda pharacetamol neu ibuprofen. 

  1. Codi’r ardal yr effeithiwyd arni, os yn bosibl. 

Bydd angen sylw meddygol proffesiynol ar losgiadau mwy difrifol. 

➡️ Os oes gennych bryder meddygol brys ar Noson Tân Gwyllt, ewch i GIG 111 Cymru neu ffoniwch 111. 

➡️ Cofiwch fynd i’r Uned Achosion Brys mewn sefyllfa sy’n bygwth bywyd neu aelod o’r corff yn unig. 

Dilynwch ni