Bob gwyliau'r Pasg rydym yn gweld mewnlifiad o gleifion i'n Huned Achosion Brys gydag anafiadau fel toriadau, ysigiadau a llosgiadau.
Mae'n hawdd cyffroi am fod allan yn haul y gwanwyn (rydym ni’n gwneud hefyd), ond rydym yn eich annog i gymryd gofal, ac i ddewis yn dda os ydych chi'n meddwl bod angen cymorth iechyd brys arnoch chi neu rywun arall. Isod mae rhai o'n hawgrymiadau ar gyfer cadw'ch hun yn iach y Pasg hwn.
Gellir delio â llawer o fân anafiadau a chyflyrau cyffredin gartref.
Mae awgrymiadau cymorth cyntaf ar-lein ac yn GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Damweiniau a chymorth cyntaf gan gynnwys triniaethau ar gyfer ysigiadau, cleisiau a mân friwiau a chrafiadau.
Gall cadw pecyn cymorth cyntaf cyflawn wrth law helpu i drin unrhyw fân friwiau, crafiadau, ergydion neu salwch yn gyflym ac yn hawdd.
Dylai eich pecyn cymorth cyntaf gynnwys clytiau alcohol, plastrau, rhwymynnau, pliciwr, siswrn, hufen antiseptig, cyffuriau lladd poen a gwrth-histaminau ymhlith pethau eraill. Mae’r wefan GIG hon yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer llenwi pecyn cymorth cyntaf.
Mae gofal sylfaenol yn cynnwys ymarfer cyffredinol, fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau deintyddol ac optometreg (iechyd y llygaid).
Mae gan bob aelod o'r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd. Gall gwybod eich Dewis Sylfaenol a gweld y person iawn ar yr amser iawn eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn.
Cyn ceisio cyngor gofal iechyd mae'n bwysig dewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eich anghenion.
Mae gan GIG 111 Cymru gyfoeth o wybodaeth am wahanol gyflyrau gofal iechyd a gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich cymuned. Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf os yw'ch plentyn yn teimlo'n sâl a'ch bod yn ansicr beth i'w wneud.
Yng Nghaerdydd a’r Fro, rhaid i chi ffonio GIG 111 Cymru yn gyntaf i gael mynediad at yr Uned Achosion Brys neu’r Uned Mân Anafiadau, neu os oes angen gofal brys arnoch y tu allan i oriau.
Drwy ffonio 111 yn gyntaf, bydd swyddog galwadau yn asesu eich cyflwr ac yn eich helpu i gael y cymorth iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae'r Uned Mân Anafiadau yn wasanaeth a arweinir gan nyrsys yn Ysbyty'r Barri, y tu allan i Gaerdydd.
Mae'r gwasanaeth apwyntiad yn unig hwn wedi'i gynllunio i drin amrywiaeth o fân anafiadau neu salwch. (Er enghraifft; toriadau, briwiau a chrafiadau).
Nid gwasanaeth cerdded i mewn yw hwn.
Ar ôl ffonio 111, os yw'n briodol, byddwch yn cael slot amser ar gyfer apwyntiad. Mae hyn yn atal cleifion rhag aros yn rhy hir mewn ystafell aros am driniaeth.
Os yw'n argyfwng sy'n bygwth bywyd, ffoniwch 999.
Os yw’n fater brys, ond nid yw’n peryglu bywyd, defnyddiwch wefan GIG 111 Cymru, neu ffoniwch 111.
A chofiwch y gallwch nawr ffonio 111 a phwyso 2 am gyngor iechyd meddwl brys.