Mae mam i ddau o blant a gafodd niwmonia ar ôl methu ei brechiad ffliw wedi cyfaddef y byddai'n "well ganddi farw" na wynebu’r profiad eto.
Roedd Charlotte Bessent, o Ogledd Llandaf, Caerdydd, yn meddwl ei bod yn gwella o annwyd gaeafol rheolaidd pan ddeffrodd un noson yn crynu gyda thwymyn uchel iawn.
Erbyn y bore roedd hi mor sâl nes i'r meddyg teulu ddod allan i'w thŷ - a chafodd ei hanfon yn syth i ofal brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n boddi,” meddai Charlotte, 38, wrth gofio digwyddiadau Ionawr 2024. “Roeddwn i’n teimlo’n oer fel rhew, ond roeddwn i’n llosgi – roedd fy nhymheredd mor uchel. Digwyddodd y cyfan mor gyflym o fod yn 'annwyd' i fethu yfed, symud nac eistedd i fyny, siarad neu gyflawni swyddogaethau sylfaenol.”
Yn Ysbyty Athrofaol Cymru, cafodd Charlotte ddiagnosis o niwmonia a rhoddwyd gwrthfiotigau mewnwythiennol iddi. Yn anffodus, rhoddodd y rhain adwaith alergaidd iddi, felly cafodd ei newid i wrthfiotigau drwy’r geg a wnaeth gymryd yn hirach i weithio.
Cyfaddefodd Charlotte, cydlynydd prosiect mewn cwmni adeiladu, ei bod hi'n teimlo mor sâl nes ei bod hi'n crio ym mreichiau ei gŵr.
Er iddi wella digon i fynd adref o'r ysbyty ar ôl ychydig ddyddiau, cymerodd chwe mis hir iddi ddechrau teimlo'n normal eto gydag anawsterau anadlu parhaus. Ni allai weithio yr holl amser gan fod yn rhaid iddi ganolbwyntio ar ei hadferiad.
Cafodd ei salwch effaith ar ei theulu cyfan, yn enwedig ei merch a oedd yn wyth oed ar y pryd. “Roedd hi’n dysgu am lowyr a fu farw o niwmonia yn ei gwersi hanes, a wnaeth beri gofid mawr iddi oherwydd ei bod hi wedi gwneud y cysylltiad ac wedi meddwl os oedd gan Mam niwmonia y byddai hi’n marw hefyd,” meddai Charlotte.
Mae gan Charlotte sawl cyflwr iechyd cronig a oedd yn bodoli eisoes gan gynnwys arthritis, ffibromyalgia ac endometriosis, sy'n golygu ei bod hi'n gymwys i gael y brechiad ffliw bob blwyddyn.
Dywedodd ei bod hi bellach yn ddiwyd ynglŷn â chael ei brechiad ffliw ac ychwanegodd: “Byddai’n well gen i farw na bod mor sâl â hynny eto”.
Mae'r brechiad ffliw yn arbennig o bwysig i bobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes gan eu bod yn fwy tebygol o fynd yn sâl iawn a bod angen triniaeth ysbyty.
Os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n iach, rydych chi'n fwy tebygol o gael cymhlethdodau o'r ffliw os byddwch chi'n ei ddal:
Cynghorir y grwpiau canlynol hefyd i gael brechlyn ffliw i'w hamddiffyn nhw a'r bobl o'u cwmpas:
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae'r gaeaf yn dod â risg uwch o afiechydon anadlol, a all arwain at gymhlethdodau difrifol, mynd i'r ysbyty, neu waeth - yn enwedig i oedolion hŷn a'r rhai â systemau imiwnedd gwan.
“Drwy gael eich brechu, nid yn unig rydych chi'n amddiffyn eich hun, ond hefyd rydych yn helpu i leihau'r pwysau ar y GIG ac yn diogelu'r rhai o'ch cwmpas, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
“Mae feirysau fel y ffliw hefyd yn newid dros amser, a dyna pam ei bod hi'n bwysig cael eich brechu bob blwyddyn i aros yn ddiogel. Mae'r brechlyn ffliw yn ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol, a gall leihau difrifoldeb y salwch a'r risg o drosglwyddo'n sylweddol.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael eich brechiad ffliw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ewch i'n tudalen brechiad rhag y ffliw. Mae BIP Caerdydd a'r Fro hefyd wedi creu tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer rhaglen brechlyn ffliw ysgolion a rhaglen brechlyn ffliw staff.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.