Mae’r bwyty newydd Bwyd Blasus wedi agor ei ddrysau'n swyddogol yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) gan gynnig gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Wedi'i leoli yng nghyntedd yr ysbyty, mae Bwyd Blasus yn darparu lle croesawgar i bobl ymlacio, bwrw eu blinder, a mwynhau ystod eang o brydau bwyd a lluniaeth wedi'u paratoi’n ffres.
O brydau poeth blasus a byrbrydau cyflym i goffi barista ac opsiynau bwyd planhigion, mae’r fwydlen wedi’i chynllunio i fod at ddant pawb, gan ddiwallu eich holl anghenion deietegol.
Drwy fod ar agor 24/7, mae Bwyd Blasus yn sicrhau bod pawb, beth bynnag yw eu patrwm shifftiau neu amser ymweld, yn gallu cael gafael ar fwyd maethlon, fforddiadwy a lle cyfforddus i gael seibiant.
Mae'r bwyty wedi'i gynllunio'n ofalus ac yn rhoi sylw i gynhwysiant, cynaliadwyedd a chysur cwsmeriaid.
P'un a ydych chi'n dechrau shifft hir, yn ymweld â rhywun annwyl, neu'n treulio amser fel claf, bydd Bwyd Blasus ar agor i'ch gwasanaethu ddydd a nos.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.