Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymuno a'r Lions Barbers Collective a Sefydliad Cymunedol Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd

4 Mawrth 2023

Ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro â Lions Barbers Collective a Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i redeg siopau barbwr dros dro i annog pobl i siarad am iechyd meddwl. 

Gwnaeth The Lions Barbers Collective, elusen iechyd meddwl sy'n gweithio i atal hunanladdiad, agor siop farbwr dros dro yng ngêm Dinas Caerdydd v West Bromwich Albion ddydd Mercher, 16 Mawrth gan gynnig torri gwallt dwsinau o gefnogwyr am ddim i godi ymwybyddiaeth o ffyrdd i atal hunanladdiad. 

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd gyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r risg o hunanladdiad ymhlith dynion ac roedd yn falch iawn o ddod â Lions Barbers Collective i Gaerdydd mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Sefydlwyd The Lions Barbers Collective yn 2015 gan Tom Chapman ar ôl iddo golli ffrind i hunanladdiad ac mae'n cynnwys grŵp o farbwyr rhyngwladol sy'n codi ymwybyddiaeth o ffyrdd o atal hunanladdiad ynghyd ag ymgyrchu dros ymwybyddiaeth o les meddyliol. Mae Tom a'i dîm — ei ‘Haid’ fel maen nhw’n cael eu hadnabod — yn teithio'r byd i hyfforddi gweithwyr trin gwallt proffesiynol ar sut i adnabod symptomau afiechyd meddwl mewn cleientiaid a'u cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol. 

Wrth siarad yn y siop farbwr dros dro yn Stadiwm Dinas Caerdydd, dywedodd Tom: “Mae gan y Lions Barber Collective weledigaeth ar gyfer byd sy'n rhydd rhag hunanladdiad a'n cenhadaeth yw creu mannau diogel anghlinigol ac anfeirniadol lle mae pobl yn teimlo'n gyfforddus i siarad am iechyd meddwl a chyfeirio pobl at gefnogaeth a gwybodaeth.

“Rydym yn addysgu barbwyr ar sut i gael y sgyrsiau hynny am ddiogelwch iechyd meddwl ac rydym yn codi ymwybyddiaeth o ffyrdd o atal hunanladdiad trwy agor siopau barbwr dros dro mewn gwahanol leoedd fel Stadiwm Dinas Caerdydd lle mae dynion yn teimlo y gallant fynegi eu hemosiynau. 

“Mewn stadia pêl-droed rydyn ni'n gweld pobl yn crio a chofleidio a gweiddi ac mae'r lefel honno o agosatrwydd a'r gallu i rannu emosiynau yn eithaf prin, yn enwedig i ddynion. Os gallwn fynd i mewn i'r mannau hyn a chynnig torri gwallt am ddim, gallwn ymgysylltu â mwy o bobl a dechrau sgyrsiau am iechyd meddwl a lles.”

Nid yw tri chwarter y bobl sy'n marw oherwydd hunanladdiad yn adnabyddus i’r gwasanaethau iechyd meddwl a gall siopau barbwr fod yn lle diogel gwych i ddynion siarad. Mae The Lions Barbers Collective yn defnyddio eu siopau barbwr dros dro fel ffordd o ymgysylltu â'r cyhoedd a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol.

Dywedodd Joel Fowler-Williamson, cefnogwr Dinas Caerdydd: “Mae siarad am iechyd meddwl yn cymryd hyder oherwydd mae yna lawer o stigma o'i gwmpas ond mae'r siop farbwr dros dro hon yn dileu'r stigma hwnnw'n llwyr. 

“Rwy'n cael rhai o fy sgyrsiau gorau gyda fy marbwr ac rydym yn sgwrsio am unrhyw beth a phopeth ac mae'n lle perffaith i fod yn onest am eich teimladau. Mae pêl-droed yn wych ar gyfer dod â phobl a diwylliannau at ei gilydd hefyd.”

Wrth siarad yn ystod ei sesiwn torri gwallt, ychwanegodd Nizar: “Mae hwn yn brofiad mor anhygoel oherwydd, i ddynion, yr un lle maen nhw'n gallu cyfleu eu hemosiynau’n agored yw yn y siop farbwr. Rydych chi'n mynd i mewn ac rydych chi'n cwrdd â phobl fel chi eich hun a gallwch chi siarad am unrhyw beth a phopeth.

“Rwy'n credu y bydd cael y siopau barbwr dros dro hyn mewn gwahanol leoedd yn annog mwy o ddynion i siarad yn agored.”

Yn gynharach yn y dydd, ymwelodd Tom a'i dîm â House of Sport a chwrdd â myfyrwyr Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd sy'n gweithio tuag at ennill eu cymwysterau BTEC. Roedd eu siop barbwr dros dro yn gyfle unigryw i ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i godi llais os ydynt yn ei chael hi'n anodd. 

Cynhaliodd y Lions Barbers Collective weithdy hyfforddi hefyd gyda staff Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fel eu bod mewn gwell sefyllfa i adnabod arwyddion y gallai rhywun fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, a chefnogi'r bobl ifanc maen nhw'n gweithio gyda nhw. 

Dywedodd y Nyrs Ymgynghorol Jayne Bell, a helpodd i drefnu'r digwyddiadau: “Fel deiliad tocyn tymor CCFC ers 20 mlynedd a gyda phrofiad o weithio fel nyrs iechyd meddwl yng Nghaerdydd am 34 mlynedd, rwy'n falch iawn o ddod â CCFC, y Bwrdd Iechyd a'r Lions Barber Collective at ei gilydd.

“Rwy'n gwybod am y gwaith trawsnewidiol y mae'r Sefydliad yn ei wneud yn ein cymunedau ac rwy'n gyffrous i weld Tom a'i Haid yn dod â'u dull gweithredu tosturiol i Gaerdydd”.

Dywedodd Dan Crossland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Iechyd Meddwl y Bwrdd Iechyd: “Gall cael y sgwrs gyntaf am iechyd meddwl fod yn heriol a pha ffordd well nag ymgorffori’r sgiliau i wrando, cydymdeimlo a gofyn y cwestiynau cywir o fewn y rhyngweithio dyddiol â barbwyr. 

“Hoffwn estyn fy niolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig y barbwyr a fydd, heb os, yn gwella ac yn achub bywydau i'r bobl hynny sydd mewn angen. “

Ymunodd Rachel Gidman, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant, Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, a'r Athro Ceri Phillips, Is-gadeirydd, â'r gweithdai a siarad â rhai o'r myfyrwyr ac aelodau staff. 

Dywedodd Rachel Gidman: “Mae gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn gyfle unigryw i ymgysylltu â phobl ifanc a chymunedau ledled Caerdydd. Rydym yn gwybod bod gan Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gymuned angerddol ac amrywiol a bod gan chwaraeon y gallu i ddod â phobl at ei gilydd.  

“Rwy'n angerddol am arwain yr agenda pobl a diwylliant i wneud gwahaniaethau gwirioneddol mewn gofal iechyd ac rwy'n falch iawn bod y Bwrdd Iechyd wedi gallu cefnogi'r Lions Barbers Collective i godi ymwybyddiaeth o ffyrdd o atal hunanladdiad. ” 

Ychwanegodd Fiona Kinghorn: “Roedd yn wych gweithio ar y cyd â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a The Lions Barbers Collective i helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a ffyrdd o atal hunanladdiad. Roedd yn wych cael cyfle hefyd i siarad â rhai o'r myfyrwyr am sut y bydd mentrau fel hyn yn annog mwy o bobl ifanc i estyn allan am gymorth os ydynt yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.  

“Mae'r Bwrdd Iechyd a Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn benderfynol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac mae mentrau fel y siopau barbwr dros dro yn ffordd wych i ni wneud hyn. Gwnaethom nodi amrywiaeth o feysydd eraill y gallem weithio gyda'n gilydd arnynt.”

Os ydych chi neu rywun annwyl yn cael trafferth gydag iechyd meddwl, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Mae gwybodaeth am sefydliadau lleol ar gael yma. 

Gellir cysylltu â’r Samariaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch eu ffonio ar 116 123, anfon e-bost at jo@samaritans.org neu fynd i www.samaritans.org.

Dilynwch ni