Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymateb i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i Hafan y Coed

Delwedd o Hafan y Coed a

23 Hydref 2024

"Mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod pa mor bwysig yw hi bod y cyhoedd a chleifion yn hyderus yn y gwasanaethau a ddarparwn a'r rôl annatod y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ei chwarae wrth ddarparu'r sicrwydd hwn ynghylch ansawdd a safonau gofal a ddarperir gan sefydliadau gofal iechyd. Fel sefydliad dysgu, rydym yn agored ac yn gwbl barod i dderbyn unrhyw feysydd i'w gwella fel y cydnabyddir yn ein cynllun gwella. 

Mae'n gadarnhaol gweld bod nifer o'r argymhellion a nodwyd eisoes wedi'u cwblhau ers cynnal yr ymweliad cychwynnol â'r Uned Asesu Argyfwng (Ward Cedar) a'r Uned Gofal Dwys Seiciatrig (PICU) (Ward Alder) ym mis Gorffennaf ac y cytunwyd ar gynllun gwella cadarn gydag AGIC i fynd i'r afael ag unrhyw feysydd sy’n weddill.

Mae cydweithwyr ym maes Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau yn ymgymryd â rhaglen gynhwysfawr o waith archwilio gyda chontractwyr i fynd i'r afael â'r problemau cynnal a chadw y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Er mwyn hwyluso'r gwaith atgyweirio, mae cleifion wedi cael eu trosglwyddo i ward amgen o fewn gwasanaethau iechyd meddwl oedolion er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau a gofal barhau yn ystod y cyfnod hwn.

Er ein bod yn cydnabod y pryder a godwyd mewn perthynas â Therapi Galwedigaethol, mae'r Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio'n llawn â'r 'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dwys Seiciatrig mewn Gwasanaethau Oedolion Cyffredinol'.  Mae trefniadau interim yn parhau i gael eu darparu ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol tra bod recriwtio yn parhau i'r swyddi hyn, gan gydnabod bod prinder cenedlaethol yn y grŵp proffesiynol hwn.

Mae lles, diogelwch ac ansawdd gofal cleifion bob amser wedi parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Er mwyn mynd i'r afael â mater y clychau galw, mae gan bob claf yn Hafan y Coed gynllun gofal cynhwysfawr ac unigol sy'n cael ei asesu o ran risg, a lle ystyrir ei fod yn briodol yn glinigol, rhoddir pwynt galw cymorth brys iddynt yn unol â safonau cenedlaethol. 

Hoffem roi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd bod cydweithwyr iechyd meddwl yn gwbl gymwys ac yn gallu rheoli problemau ymddygiad sy’n gofyn am atal pobl, ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwneud ymdrech ar y cyd a rhagweithiol i wella cydymffurfiaeth o ran hyfforddiant a datblygiad, yn enwedig o ran gwella cymwyseddau diwylliannol o fewn hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Hoffem sicrhau defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, er ei bod yn angenrheidiol weithiau i atal pobl yn gorfforol er mwyn sicrhau eu diogelwch, gwneir hyn yn gymesur a bob amser mewn ffordd sy’n parchu urddas yr unigolyn ac yn ystyriol o drawma. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn falch o ddarllen yn yr adroddiad bod cydweithwyr o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn frwdfrydig ac yn angerddol am ddarparu gofal i gleifion, a dywedodd cleifion eu bod yn cael eu trin â pharch a charedigrwydd. Byddwn yn parhau i ystyried arbenigedd a phrofiad bywyd cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth i gyd-gynhyrchu atebion pellach sy'n gwella'r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus.

Os oes unrhyw gleifion neu aelodau o'r cyhoedd yn pryderu am unrhyw wasanaethau neu agweddau ar y gofal a ddarperir, cysylltwch â'r tîm pryderon penodedig".

 

Dilynwch ni