Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn penodi Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Gwyddor Bywyd a Meddygaeth Fanwl newydd

01 Gorffenaf 2024

Mae’n bleser gennym gyhoeddi yn ffurfiol bod Dr David Fluck wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol newydd. Yn dilyn proses gadarn, dewiswyd David yn unfrydol gan y panel o ganlyniad i’w brofiad amlwg a sylweddol fel Cyfarwyddwr Meddygol a chlinigydd.

Mae David yn ymuno â ni o Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Ashford a St Peter’s yn Surrey, lle mae wedi cyflawni nifer o swyddi gan gynnwys rôl Prif Weithredwr Dros Dro a Chyfarwyddwr Meddygol am y 28 mlynedd diwethaf.

Enillodd David ei gymwysterau proffesiynol: MBBS, BSc (Biocemeg) a Doethuriaeth Feddygol (MD) o Brifysgol Llundain ac mae’n Gymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon, MRCP (UK), FRCP (UK). Mae wedi gweithio mewn nifer o ysbytai yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr, gan gynnwys Ysbyty St Bartholomew, Ysbyty Guys Llundain, ac Ysgol Feddygol Hammersmith. Bu’n Gofrestrydd yn Ysbyty Whipps Cross a’r London Chest Hospital a bu’n Gymrawd Ymchwil yn Ysbyty St Mary’s.

Mae David wedi cael gyrfa feddygol ddisglair, sy’n rhychwantu dros bedwar degawd. Fe’i penodwyd yn Gardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty St George’s ac Ysbyty St Peter’s ym 1996, yn Uwch Ddarlithydd Clinigol Anrhydeddus yng Ngholeg Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth Imperial yn 2001, ac yn Diwtor Ôl-raddedig o 2002 - 2006. Ef oedd yr Arweinydd Clinigol ar Rwydwaith Cardiaidd Gorllewin Surrey, rhwng 2005 a 2008.

Dywedodd David: “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol un o ganolfannau addysgu proffesiynol meddygol a gofal iechyd gorau Cymru. Mae hwn yn Fwrdd Iechyd uchelgeisiol ac mae’r strategaeth ar ei newydd wedd, ‘Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol’, a datblygu Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn gyfle gwych i lunio’r ffordd y mae gwasanaethau gofal iechyd yn datblygu, yn arloesi ac yn ehangu i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol a’r rhai ledled Cymru sy’n angen y gwasanaethau trydyddol a ddarperir, gan leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda thîm gweithredol a Bwrdd mor ddeinamig ac mae safon y cydweithwyr meddygol yr wyf wedi dod ar eu traws hyd yn hyn wedi creu argraff arnaf. Dyma’r tro cyntaf i mi weithio mewn sefydliad cwbl integredig ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at gyflawni’r manteision amlwg i’r ffordd honno o weithio.

“Nid yw GIG Cymru yn anghyfarwydd i mi gan fy mod yn ymwelydd cyson, gyda theulu agos yn byw heb fod yn rhy bell o Gaerdydd, ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at dreulio mwy o amser yma a byw yng Nghymru.”

Dywedodd Suzanne Rankin, y Prif Weithredwr: “Mae David a minnau wedi gweithio gyda’n gilydd yn y gorffennol mewn gwahanol rolau, ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi gwneud cais i ddod i ymuno â thîm Caerdydd a’r Fro. Aeth David drwy broses recriwtio drylwyr a chystadleuol a oedd yn cynnwys trafodaethau gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr, lle gwnaeth argraff ar bawb. Mae David yn ymuno â ni ar adeg o her sylweddol, ond hefyd ar adeg o gyfleoedd gwych wrth i ni symud ymlaen â’n taith ddigideiddio, dechrau deall

manteision meddygaeth fanwl a therapïau uwch i gleifion ac i’r GIG yn llawn, ac rydym yn rhoi’r triniaethau a’r therapïau hynny ar waith.

“Ar ôl gweithio gyda David, rwy’n gwybod ei fod yn chwaraewr tîm gwych, yn eiriolwr angerddol dros y tîm aml-broffesiynol a dros ddysgu a datblygu. Mae wedi’i gyffroi gan ddatblygiadau arloesol sy’n cael eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn, ymchwil o ansawdd uchel a ffyrdd o weithredu sy’n ceisio gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyfyngedig a dileu amrywiadau a niwed diangen. Yn bennaf oll, mae David yn arweinydd caredig a thosturiol a’i flaenoriaeth bob amser yw ei glaf, ei gydweithiwr neu ei dîm.”

Mae disgwyl i David ymuno â’r Bwrdd Iechyd yn gynnar ym mis Hydref 2024. Yn y cyfamser, bydd Dr Richard Skone yn parhau fel y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro.

Dywedodd Suzanne, “Mae arweinyddiaeth, ymrwymiad a phroffesiynoldeb Richard, wrth iddo ymgymryd â’r rôl heriol hon dros y misoedd diwethaf, wedi bod o’r radd flaenaf ac mae’r Bwrdd yn parhau i gefnogi ac ymddiried yn llwyr yn Richard tra bod ei ddyletswyddau yn y rôl hon yn parhau."

Dywedodd Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Mae David yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i BIP Caerdydd a’r Fro ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth iddo hybu ein harferion clinigol a’n harloesi er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau teg i’n poblogaeth.

"Mae David yn ymuno â ni ar adeg lle rydym yn wynebu heriau sylweddol ond gyda’i sgiliau arwain a’i arbenigedd clinigol rwy’n hyderus y bydd y penodiad hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r arweinyddiaeth glinigol i helpu i lunio ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.”

Dilynwch ni