20 Ionawr 2025
Mae cardiolegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro wedi gosod rheolydd calon di-wifr am y tro cyntaf yng Nghymru. Dim ond 50 munud a gymerodd y llawdriniaeth arloesol, a wnaed ar glaf 63 oed, a chafodd ei chyflawni o dan anesthetig lleol gan un gweithredwr. Nid oedd unrhyw gymhlethdodau, a rhyddhawyd y claf y diwrnod canlynol.
Dyfais fach hunangynhwysol yw rheolydd calon di-wifr a fewnblannir yn uniongyrchol i'r galon trwy wythïen yn y forddwyd neu'r gwddf. Yn wahanol i rheolyddion calon traddodiadol, sydd â gwifrau a chynhyrchydd pwls wedi'u mewnblannu o dan y croen, mae rheolyddion calon di-wifr wedi'u cynnwys yn gyfan gwbl yn y galon. Maent yn fach iawn, heb adael unrhyw arwyddion gweladwy, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wifrau.
Mae gan y ddyfais oes gwasanaeth o 17 mlynedd neu fwy - dwywaith oes batri rheolydd calon confensiynol. Yn ogystal, oherwydd nad oes ganddo wifrau ac nad oes angen poced lawfeddygol ar gyfer y cynhyrchydd pwls, mae bron yn dileu cymhlethdodau mwyaf cyffredin rheolyddion calon traddodiadol - haint a materion yn ymwneud â gwifrau.
Dywedodd yr Electroffisiolegydd Cardiaidd Ymgynghorol Dr Fong Leong, a gyflawnodd y llawdriniaeth: “Hoffwn i a’m claf ddiolch i bawb a gymerodd ran am wneud i’r llawdriniaeth hon ddigwydd. Mae’r achos cyntaf hwn yng Nghymru hwn o fewnblannu rheolydd calon newydd di-wifr yn garreg filltir arwyddocaol yn y ffordd y caiff cleifion â chyfraddau calon araf eu trin. Mae'r ddyfais yn llai na chap pen, ond mae ganddi oes batri a allai bara mwy nag 20 mlynedd i rai. Nid oes craith ar y frest, a dim gwifrau yn y galon. Mae’n dechnoleg gyffrous, ac rwyf wrth fy modd ei bod bellach ar gael yn Ysbyty Athrofaol Cymru.”
Mae rheolydd calon di-wifr yn costio tua £5,000 yn fwy na dyfais gonfensiynol. Er mwyn cael mynediad at y dechnoleg, gwnaeth y tîm gais llwyddiannus am £50,000 o gyllid gan Raglen Gwerth mewn Iechyd BIP Caerdydd a'r Fro. Er gwaethaf y gost gychwynnol uwch, mae’r tîm o’r farn y bydd y ddyfais arloesol hon yn diwallu anghenion cleifion na allant gael rheolyddion calon confensiynol, gan leihau’r angen am arosiadau hir yn yr ysbyty a therapïau cymhleth. Mae disgwyl i'r dechnoleg arbed dros £650,000 y flwyddyn.
Nod y tîm Gwerth mewn Iechyd, a sefydlwyd yn 2023, yw helpu timau Byrddau Iechyd i wneud gwell defnydd o adnoddau presennol a darparu gwerth i gleifion. Ym mis Gorffennaf 2024, gwnaethant lansio’r rownd gyntaf o ddyfarniadau gwerth i ariannu prosiectau sy'n gwella gofal ac yn cyflawni arbedion ariannol ar gyfer nodau'r bwrdd iechyd. Mae'r tîm yn cynnig cymorth personol, gan gynnwys arweiniad un-i-un, mapio prosesau, hyfforddiant, a chyngor rheoli prosiect.
Dywedodd Sophia Jones, Rheolwr Rhaglen Gwerth mewn Iechyd, “Fel Rheolwr Rhaglen Gwerth mewn Iechyd, rwy’n hynod falch o gefnogi ein timau ledled Caerdydd a’r Fro i wella iechyd cleifion tra’n gwneud y gorau o’n hadnoddau GIG cyfyngedig. Drwy'r prosiect hwn, rydym yn helpu i ddarparu mynediad at driniaethau sy'n newid bywydau, gwella amseroedd adfer, gwella canlyniadau hirdymor, a lleihau arosiadau yn yr ysbyty—gan ryddhau capasiti i fwy o gleifion elwa. Mae’n fraint bod yn rhan o dîm sy’n gyrru newid mor ystyrlon, a gobeithio bod y gwaith hwn yn gosod esiampl barhaol i eraill ei dilyn, gan sicrhau gwelliannau cynaliadwy ymhell y tu hwnt i’r cyllid hwn.”
Mae'r cyflawniad hwn yn nodi cynnydd sylweddol mewn gofal cardiaidd yng Nghymru, gan ddangos potensial technolegau meddygol arloesol a gefnogir gan fentrau Gwerth mewn Iechyd.