17 Awst 2023
Ar 14 Awst, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddigwyddiad ar gyfer Mis Treftadaeth De Asia (18 Juli - 17 Awst), i ddathlu diwylliannau a hanesion India, Pacistan, Bangladesh, Sri Lanka, Nepal, Bhutan, a'r Maldives.
Gwnaeth Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Charles "Jan" Janczewski, agor y digwyddiad gan roi croeso cynnes i bawb a siarad am bwysigrwydd dathlu treftadaeth De Asia. Canmolodd Jan gydweithwyr am eu cyfraniadau i'r Bwrdd Iechyd a rhoddodd drosolwg o Fis Treftadaeth De Asia.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiad gan griw o ddawnswyr o Deml y Shree Swaminarayan. Perfformiodd y dawnswyr ddau ddarn traddodiadol o ddawns a cherddoriaeth, Udi Udi Jaye ac yna darn hirach, Chalti, dawns garba gyflym sy'n tarddu o Gujarat yn India.
Ochr yn ochr â bwyd diwylliannol a diodydd o'r rhanbarth, rhoddodd y dathliad gyfle i gydweithwyr sydd â threftadaeth y tu allan i Dde Asia ddysgu mwy am eu cydweithwyr.
Gwnaeth Parchedig Sangkhuma Hmar, caplan yn y Bwrdd Iechyd, fyfyrio ar ei daith i'r DU ac i weithio yn y GIG; gan roi hanes diddorol ei gefndir yng Ngogledd-ddwyrain India.
Yn ogystal, gwnaeth Tayyeb Tahir, seiciatrydd cyswllt, rannu ei brofiad o weithio o fewn y GIG, gan dynnu sylw at ei waith gyda ffoaduriaid a meddygon tramor sy'n dod i'r DU i ddatblygu eu hyfforddiant.
Sefydlwyd y digwyddiad hwn gan Rwydwaith Un Llais BIP Caerdydd a'r Fro, sy'n cynrychioli staff o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig. Nod digwyddiadau o'r fath yw tynnu sylw at bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y GIG, a chyfraniad gwerthfawr cydweithwyr ar draws pob ethnigrwydd. Bydd y rhwydwaith yn parhau i drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.