Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dathlu Mis Treftadaeth De Asia  

15 Awst 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro yn falch o gefnogi Mis Treftadaeth De Asia, sy'n cael ei gynnal rhwng 18 Gorffennaf ac 17 Awst.    

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae Mis Treftadaeth De Asia yn coffáu, yn nodi ac yn dathlu diwylliannau cenhedloedd De Asia - Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, India, Maldives, Nepal, Pacistan, a Sri Lanka.   

Drwy gydol y mis rydym wedi bod yn dathlu ac yn anrhydeddu ein holl gydweithwyr o dras De Asiaidd am eu cyfraniadau i'r Bwrdd Iechyd a'n cymunedau ehangach.   

Mae'r Parchedig Sangkhuma Hmar, un o Gaplaniaid ein Bwrdd Iechyd o fewn Tîm Profiad y Claf, wedi siarad am ei dras De Asiaidd a pham mae’n rhaid i'n Bwrdd Iechyd a'n cymunedau ehangach barhau i hyrwyddo cynwysoldeb a chydraddoldeb.   

 

Dywedodd Sangkhuma: "Mae Mis Treftadaeth De Asia yn bwysig i mi oherwydd er nad yw'n gyfyngedig i'm ffordd o fyw fel Cristion, dyma lle cefais fy ngeni a'm magu ac rwy'n falch o’m treftadaeth.     

"Cefais fy ngeni yn Mizoram, un o'r gwladwriaethau yng Ngogledd-ddwyrain India sy'n gorwedd rhwng Myanmar a Bangladesh. Symudais i Abertawe yn 1998 ac i Gaerdydd ym mis Gorffennaf 2021 pan ymunais â'r Adran Gaplaniaeth a Gofal Ysbrydol, ac mae fy nhreftadaeth a'm diwylliant yn dal i fod yn hynod bwysig.     

“Un o’m hoff bethau am fy niwylliant yw’r gwisgoedd brodorol rydyn ni’n eu gwisgo, gyda’r lliwiau niferus yn cynrychioli llwythau a chymunedau gwahanol. Mae’r ffabrig yn cael ei wehyddu a’i weu gyda’i gilydd, gan gynrychioli undod ac amrywiaeth ac integreiddio cenedlaethol.   

"I lawer o bobl, mae bwyd yn aml yn rhan bwysig o hunaniaeth ddiwylliannol, ond i mi, fy nillad sy’n bwysig, a'r hyn maen nhw'n ei gynrychioli."   

Wrth siarad am bwysigrwydd cydraddoldeb, dywedodd Sangkhuma: "Mae cynrychiolaeth a chynwysoldeb yn hynod bwysig ac rwy'n credu mai dim ond pan fyddwn ni i gyd yn ystyried ein gilydd yn fodau dynol cyfartal y gellir cyflawni cydraddoldeb.    

"Rwy'n falch bod ein Bwrdd Iechyd yn hyrwyddo cynwysoldeb i bobl sydd â phob nodwedd warchodedig, yn cynnwys ethnigrwydd, crefydd, rhyw neu rywioldeb a does gen i ddim amheuaeth y byddwn yn parhau i wneud cynnydd mawr. Fodd bynnag, mae cynwysoldeb yn arbennig o bwysig i mi'n bersonol, ac yn fy rôl fel Caplan.   

"Gwneud person yn gyfan yw fy angerdd mewn bywyd, a gwelais mai'r ysbyty yw'r lle gorau i gyfarfod, rhyngweithio, annog a chefnogi pobl yn eu hangen mwyaf — waeth beth yw eu crefydd. Fel Caplan, rwy'n gofalu am bobl o bob ffydd a’r rhai sydd heb unrhyw ffydd."   

Mae Athika Ahmed yn aelod o Fwrdd Ieuenctid Iechyd Caerdydd a'r Fro a dywedodd mai ei threftadaeth Fangladeshaidd a'i gwerthoedd traddodiadol a'i hysbrydolodd yn rhannol i ymwneud â'r Bwrdd Ieuenctid ac i ddyheu at fod yn feddyg.   

Athika Ahmed  

Dywedodd: "Cefais fy ngeni yma yn y DU, ond dyw hynny ddim wedi atal fy niwylliant rhag bod yn agwedd mor amlwg ar fy mywyd.   

"Mae 'na gymaint o bethau dwi'n eu caru am fy niwylliant a'm treftadaeth, gan gynnwys ein hanes ni. Mae'r ffordd yr ymladdodd ein cyndeidiau a brwydro dros ryddid a hawliau cyfartal yn fy ngwneud yn falch o fod yn Fangladeshaidd.    

"Yr hyn rwy'n ei garu hefyd yw natur gymwynasgar ein pobl. Dyma’n rhannol a wnaeth i mi fod eisiau bod yn feddyg a hefyd pam dwi'n gwirfoddoli.    

"Yn ddiweddar, ymwelais â Bangladesh, sydd wedi dioddef llifogydd ofnadwy. Ymunodd fy nheulu â chymaint o bobl eraill i helpu i baratoi pecynnau gofal a gafodd eu hanfon at bobl sy'n byw yn rhai o'r ardaloedd sydd wedi dioddef fwyaf. Gwnaeth rhai o'r gwirfoddolwyr hefyd sefyll yn y dŵr oedd yn mynd i fyny at eu cluniau i helpu i arwain eraill oedd yn ceisio cyrraedd man diogel."   

Mae Athika yn credu bod Mis Treftadaeth De Asia yn gyfle i ni i gyd ddathlu a dysgu am wahanol ddiwylliannau a threftadaeth fel y gallwn helpu i feithrin amrywiaeth a chynhwysiant.   

Dywedodd: “Mae Mis Hanes De Asia yn fis i ddysgu am wahanol ddiwylliannau a deall, er gwaethaf ein holl wahaniaethau, ein bod ni i gyd yr un peth yn y bôn.”    

"Dyma’r hyn sy'n gwneud i mi deimlo mor ddiogel yn y Bwrdd Ieuenctid a bod croeso mawr i mi yno. Rydyn ni i gyd mor wahanol ac yn dod o gefndiroedd gwahanol, ond rydyn ni i gyd yn uno i helpu i wella gofal iechyd i'r cenedlaethau iau a fydd yn ein dilyn.  

"Mae amrywiaeth, cynhwysiant a chynrychiolaeth yn bwysig i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro oherwydd mae'n helpu i adeiladu cymuned a gwneud i bawb deimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod yn cael eu cefnogi. Mae hefyd yn dangos y bydd pawb — waeth beth yw eu cefndir, lliw eu croen neu grefydd — yn cael eu trin â pharch a thosturi.    

  

Dilynwch ni