Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno ap cofnodion mamolaeth digidol newydd

24 Gorffennaf 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno system ddigidol newydd i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy cyfleus i gael gafael ar gofnodion mamolaeth, cynlluniau gofal a gwybodaeth bwysig.

Ar 29 Gorffennaf 2025 bydd y Bwrdd Iechyd yn lansio System Mamolaeth BadgerNet, system cofnodion iechyd electronig sy'n caniatáu i fydwragedd, meddygon ymgynghorol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ddiweddaru cofnodion mamolaeth yn ddi-dor mewn amser real.

Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cyflwyno ap a phorth ar-lein Badger Notes ddydd Mawrth 29 Gorffennaf, sy'n golygu y bydd gan fenywod beichiog a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'u gofal fynediad amser real i'w cofnodion mamolaeth. Byddwch yn dal i gael cofnod llaw gan y bydd rhai agweddau ar ofal yn parhau ar bapur, cofiwch ddod â hwn i'ch apwyntiadau.

Bydd Badger Notes yn galluogi menywod beichiog i gael gafael ar eu cofnodion mamolaeth, gwybodaeth bwysig fel apwyntiadau sydd ar ddod a chynlluniau geni, a mewnwelediadau i ddatblygiad eu babi yn ddiogel gan ddefnyddio ap Badger Notes neu borth ar-lein.

Yn ogystal, bydd menywod yn gallu cyfrannu at eu cofnod eu hunain, a gellir trafod unrhyw beth ychwanegol yn eu hapwyntiad cynenedigol nesaf.

Mae'r holl wybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel a dim ond gyda manylion mewngofnodi diogel y gellir cael mynediad ati, yn debyg i fancio ar-lein. At ddibenion gofal, bydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol fel meddygon teulu fynediad 24 awr at yr wybodaeth hefyd.

Dywedodd Abigail Holmes, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Newyddenedigol: “Rydym wrth ein bodd i gyflwyno System Mamolaeth BadgerNet a Badger Notes, a fydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn cefnogi menywod beichiog a phobl sy'n geni ledled Caerdydd a Bro Morganwg ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu gofal arloesol sy'n canolbwyntio ar y claf.

“Bydd y system ddiogel ac arloesol hon yn grymuso menywod drwy ddarparu mynediad ar unwaith i’w cofnodion mamolaeth a gwybodaeth allweddol, gan eu helpu i deimlo’n hyderus eu bod yn cael eu cefnogi’n dda drwy gydol eu beichiogrwydd.”

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am lawrlwytho a defnyddio ap Badger Notes.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni