Cynhaliodd Dr Susan Allen a Dr Biju Mohamed de prynhawn ‘cwrdd a chyfarch’ ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gydnabod meddygon tramor a recriwtiwyd yn flaenorol ac yn ddiweddar.
Roedd y digwyddiad yn dathlu amrywiaeth a’r broses o recriwtio meddygon rhyngwladol o bob rhan o'r byd sy'n gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd ac yn darparu llwyfan ar gyfer rhwydweithio, cymdeithasu, a sefydlu grwpiau cymorth ymhlith y meddygon. Roedd hefyd yn rhoi croeso cynnes i recriwtiaid newydd i'w gweithle newydd.
Yn ystod y digwyddiad daeth timau clinigol, arweinwyr nyrsio rhyngwladol, cydweithwyr o Dîm Recriwtio Rhyngwladol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a chydweithwyr sydd wedi bod yn rhan o’r broses recriwtio ynghyd i gydnabod cydweithwyr presennol a newydd o dramor.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle hefyd i Dîm Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru weld y cylch recriwtio llawn wrth iddynt ddal i fyny â recriwtiaid newydd a gweld unigolion yn ymgartrefu yn eu rolau yng Nghaerdydd a’r Fro.
Dywedodd Dr Susan Allen: “Mae rhai o’n cydweithwyr rhyngwladol– y rhai yn bennaf o Keralayn India, wedi’u recriwtio drwy gynllun Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei redeg gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gyda chymeradwyaeth y GMC. Mae’n profi i fod yn ffordd boblogaidd ac effeithiol o ddod o hyd i feddygon arbenigol addas.”
“Pwrpas y digwyddiad cwrdd a chyfarch hwn oedd taflu goleuni ar yr holl feddygon hyn, i ddarparu cysylltiadau cymheiriaid, cysylltiadau â staff meddygol/nyrsio, gweithlu ac adnoddau dynol yng Nghaerdydd a’r Fro. Gobeithio ein bod wedi agor sianeli cyfathrebu newydd, a fydd yn helpu cydweithwyr rhyngwladol i deimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi wrth iddynt addasu i’n gwasanaeth iechyd gwladol a bywyd newydd yma yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd modd trefnu digwyddiadau yn y dyfodol, wrth i’r gweithlu hwn ymgartrefu gyda ni.”
Ychwanegodd Dr Biju Mohamed hefyd: “Roedd yn bleser bod yn rhan o ymgyrch recriwtio ryngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer meddygon drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
“Cafodd y rhaglen gyfan ei threfnu’n wych gan dîm a arweiniwyd gan Ruth ac Anna, mewn cydweithrediad agos â’r Bwrdd Iechyd, o’r rhestr fer i gyfweliadau a chefnogaeth i ymgeiswyr ar ôl recriwtio. Roedd y prosesau cyfweld yn drylwyr, gan ganiatáu i ni recriwtio cydweithwyr rhagorol yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (a GIG Cymru).
“Roedd hi’n hyfryd eu gweld nhw yma yng Nghaerdydd ar gyfer y digwyddiad cwrdd a chyfarch, a chefnogi eu cyfnod sefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn ffordd Gymreig draddodiadol!”
Roedd y digwyddiad cwrdd a chyfarch yn arddangos effaith gadarnhaol recriwtio rhyngwladol yn y Bwrdd Iechyd ac roedd yn gyfle i ddiolch i bawb a gymerodd ran.