Mae Gwobrau GIG Cymru, a drefnir gan y gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella, ar ran Perfformiad a Gwella GIG Cymru, yn dathlu rhagoriaeth mewn ansawdd a gwelliant ar draws iechyd a gofal yng Nghymru.
Gyda chategorïau wedi'u halinio â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023,mae'r prosiectau ar y rhestr fer yn arddangos y timau ymroddedig sy'n gyrru gwelliannau mewn ansawdd a diogelwch i drawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer:
- Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru - Cychwyn Offer Asesu Diagnosteg yn y Cartref ar gyfer Cynnal Profion yn y Man Lle y Rhoddir Gofal ar Gleifion Gofal Cefnogol a Gofal Lliniarol yn y Gymuned, i Hwyluso Gofal yn y Cartref ar gyfer cyflyrau Diwedd Oes sy'n Cyfyngu ar Fywyd - Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru - Datblygu Tîm Diabetes Amlddisgyblaeth Cymunedol sy’n Seiliedig ar Werthoedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru - Data wedi'i Ddatgloi: Mewnwelediadau Amser Real sy’n Grymuso Pob Nyrs - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru - Ymestyn Effaith Ymyrraeth Seicolegol a Ddarperir drwy Fideo Gynhadledd ar gyfer Cyflyrau Iechyd Meddwl Amenedigol ar draws GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru - Datblygu Arolwg Profiad Pobl GIG Cymru - CEDAR, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru - Meithrin Diwylliant o Waith Tîm i Wella’r Canlyniadau i Blant sydd wedi cael Profiad o fod mewn Gofal - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru - Ailfeddwl Gofal Clwyfau Cronig trwy Bartneriaeth ar draws y System: Model Cydweithredol ANCLE Café - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
- Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru - Mewnwelediadau Cydweithredol ar gyfer Datrysiadau Staffio Cynaliadwy - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Beth nesaf?
Bydd paneli beirniadu nawr yn cyfarfod â'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i archwilio eu prosiectau yn fanylach a deall yn uniongyrchol y manteision y maent wedi'u rhoi i gleifion a gwasanaethau.
Mae digwyddiad dathlu a dysgu newydd wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni i arddangos cyflawniadau'r holl dimau ar y rhestr fer a rhannu mewnwelediadau gwella o bob cwr o Gymru.
Ewch i gwobraugig.cymru i weld y rhestr fer lawn.