Neidio i'r prif gynnwy

BIP Caerdydd a'r Fro: Edrych yn ôl ar 2024

29 Rhagfyr 2024

Diolch i'n cydweithwyr am bopeth y maent wedi'i gyfrannu eleni - o'r gweithredoedd bach o garedigrwydd a ddangosir i gleifion mewn angen, i'r datblygiadau arloesol a roddwyd ar waith.

Yn yr erthygl hon rydym yn tynnu sylw at rai enghreifftiau o flwyddyn i fod yn falch ohoni:

Rhoi Pobl yn Gyntaf

Dros chwe phennod awr o hyd a ddarlledwyd ym mis Medi a mis Hydref, gwnaeth Saving Lives in Cardiff ar BBC One ddangos sut mae timau llawfeddygol yn gweithio'n galed i roi pobl yn gyntaf tra’n delio ag amseroedd aros sylweddol. Trwy agor y drysau i griw ffilm Label1, rhoddodd y rhaglen gipolwg ar rai o’r penderfyniadau anodd y mae llawer o'n clinigwyr yn eu gwneud bob dydd a'r ymdrech a wneir i ofalu am iechyd pobl.

Cydnabuwyd nifer o dimau a mentrau yn genedlaethol am eu hymrwymiad i roi pobl yn gyntaf yn ystod y flwyddyn gan gynnwys:

  • Yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain, enillodd y bwrdd iechyd Wobr Menter Amrywiaeth a Chynhwysiant y Flwyddyn am bartneru yn rhaglen DFN Project SEARCH, gan gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu i ymuno â'r gweithle.
  • Derbyniodd y bwrdd iechyd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 gan gyfrannu at ein nod o fod yn lle gwych i hyfforddi.

Anogwyd cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, er mwyn gallu cynnig gofal iechyd i gleifion Cymraeg eu hiaith yn eu hiaith gyntaf, gyda chyrsiau iaith am ddim a gwasanaethau cyfieithu yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd i bob aelod o staff.

Gwnaethom hefyd lansio ein hymgyrch ‘Dan Sylw’ sy’n taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.

Darparu ansawdd rhagorol

Mae gwasanaethau'n parhau i arloesi a gwella er mwyn darparu gofal o safon i gleifion.

  • Cafodd y Llwybr Cyflym ar gyfer Toriad Clun ei weithredu dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi arwain at welliannau sylweddol yn nhaith y cleifion i'r fath raddau fel bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bellach yn un o'r unedau toriadau clun sy'n perfformio orau yn y DU.
  • Cyflwynwyd technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu i roi diagnosis i gleifion strôc yn gyflym ac yn effeithiol.
  • Gwnaeth yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyflwyno ciosgau eTriage i wella profiad y claf, cynyddu effeithlonrwydd ac i gefnogi’r tîm brysbennu clinigol i flaenoriaethu’r cleifion hynny sydd â’r angen mwyaf.
  • Enillodd pedair ward Achrediad Efydd yn y Rhaglen Achredu a Gwella Wardiau am eu hymroddiad i ddarparu safonau uchel o ofal a defnyddio mewnwelediadau wedi'u gyrru gan ddata i weithredu gwelliannau ystyrlon.

Cydnabuwyd nifer o gydweithwyr am eu hymroddiad i ddarparu gofal o ansawdd rhagorol:

  • Dyfarnwyd MBEs i'r meddyg ymgynghorol Dr Hamsaraj Shetty am ei wasanaethau i ofal strôc a'r Athro Antony Johansen, Ortho-Geriatregydd Ymgynghorol, am ei wasanaethau i bobl hŷn.
  • Cafodd Madelaine Watkins, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Seicosis mewn Oedolion Hŷn, ei henwi'n Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2024. Cafodd Lisa Franklin, Tim Nicholls, Julia Somerford, Kim Baker, Jade Cole a Diana Mehrez hefyd eu cydnabod yn y seremoni am eu hymrwymiad rhagorol i ansawdd.
  • Yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2024 cafodd Arweinydd Maeth a Deieteg Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes, Catherine Washbrook-Davies wobr am sicrhau'r arbenigedd mwyaf posibl i wella canlyniadau cleifion. Enillodd Helen Nicholls, sydd bellach wedi ymddeol fel Pennaeth Gwasanaethau Maeth a Deieteg, y Wobr Arweinyddiaeth Glinigol.

Cyflawni yn y mannau cywir

Yn 2024 parhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i addasu ei wasanaethau i ddiwallu anghenion cleifion a hyrwyddo adferiad yn y lleoliadau mwyaf priodol:

  • Gwnaeth y gwasanaeth gofal sylfaenol Diogel yn y Cartref ehangu, gan ddarparu dewis arall diogel i bobl hŷn a bregus yn hytrach na'r ysbyty, trwy ddarparu gofal yn eu cartrefi eu hunain.
  • Lansiwyd cyfleuster argyfwng iechyd meddwl cyntaf Caerdydd a'r Fro yn y gymuned nad yw'n glinigol, gan gynnig lle diogel i unigolion sy'n profi argyfwng iechyd meddwl neu sydd angen cymorth. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan Platfform, elusen iechyd meddwl a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Gan adeiladu ar lwyddiant yr Hangout yng Nghaerdydd, agorwyd ail leoliad yn y Barri, gan ddarparu amgylchedd croesawgar a hamddenol i bobl ifanc 11-18 mlwydd oed i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol.
  • Agorwyd dwy theatr endosgopi newydd o fewn yr adran endosgopi yn Ysbyty Athrofaol Llandochau fel rhan o raglen adfer y Bwrdd Iechyd ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn dilyn y pandemig.
  • Gwnaeth digwyddiad Bywydau Iach, a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mawrth yn ystod Ramadan roi cyfle i fenywod o ffydd Islamaidd ddarganfod mwy am bwysigrwydd sgrinio’r fron, sgrinio serfigol a sgrinio’r coluddyn, yn ogystal â brechiadau yn ystod plentyndod.

Cydnabuwyd nifer o gydweithwyr am eu hymroddiad i ddarparu gofal o ansawdd rhagorol:

  • Enillodd y tîm Gofal Cefnogol Wobr Gofal sy'n Canolbwyntio ar y Person Syr Mansel Aylward yng Ngwobrau GIG Cymru 2024 am ehangu mynediad at ofal diwedd oes, a rhoi cleifion wrth wraidd penderfyniadau, gwasanaethau a'u gofal eu hunain.
  • Cafodd Rhian Greenslade, Nyrs Cyswllt Rhyddhau i Blant ag Anghenion Iechyd Cymhleth WellChild yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, ei henwi’n enillydd yng ngwobrau cenedlaethol mawreddog WellChild 2024.

Gweithredu ar gyfer y Dyfodol

Trwy gydol 2024, bu ein cydweithwyr yn gweithio'n galed i leihau allyriadau carbon y bwrdd iechyd a diogelu'r amgylchedd:

  • Cychwynnodd y tîm Deallusrwydd Iechyd a Digidol brosiect i ddiffodd cyfrifiaduron yn awtomatig dros nos, gan arbed ynni.
  • Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddewis arall ecogyfeillgar ar gyfer 'nwy ac aer', a ddefnyddir fel dull lleddfu poen i fenywod sy’n rhoi genedigaeth, gan leihau allyriadau niweidiol yma a thu hwnt.
  • Parhaodd y paratoadau ar gyfer cyflwyno'r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig (ePMA), sy'n ceisio gwella’r broses o ragnodi a gweinyddu meddyginiaeth ar draws ei safleoedd.

Ym mis Mehefin roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch iawn o gyhoeddi bod tair o'i fentrau amgylcheddol gynaliadwy wedi ennill yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru – y Tîm Ailgylchu Cymhorthion Cerdded, y Tîm ICU Gwyrdd a KidzMedz.

Gwnaeth Ein Dôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus i gydnabod ei safonau amgylcheddol uchel, glendid, diogelwch a chyfranogiad cymunedol.

Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol

Rydym yn edrych ymlaen at y mentrau, y datblygiadau arloesol a'r gofal tosturiol a fydd yn llunio ein llesiant i’r dyfodol yn 2025.

Dilynwch ni