Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Opera Cenedlaethol Cymru yn dod ynghyd i helpu gydag adferiad COVID Hir

15 Awst 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gweithio ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) i helpu cleifion COVID Hir i wella o’u symptomau trwy gân. 

Yn ystod y sesiynau ar-lein mae arbenigwyr lleisiol WNO yn addysgu technegau anadlu a diaffragmatig i helpu gyda diffyg anadl, gorbryder ac effeithiau hirdymor eraill y feirws. 

Hyd yn hyn, mae canlyniadau’r cwrs chwe wythnos ar-lein wedi bod yn galonogol gyda chleifion yn nodi gwelliant yn eu symptomau ac mae dosbarthiadau’n cael eu hystyried fel ffordd o drin afiechydon hirdymor eraill. 

 
Dilynwch ni