Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) ochr yn ochr â sefydliadau eraill GIG Cymru, fel addewid ffurfiol i weithio gyda’r cwmni technoleg gwyddoniaeth Illumina i barhau i ddatblygu genomeg gofal ataliol yng Nghymru.
Mae’r cydweithrediad strategol yn dynodi ymrwymiad cadarn i hyrwyddo strategaeth genomeg Llywodraeth Cymru trwy gydweithredu ac arloesi gwell, a bydd yn adeiladu ar amcanion a amlinellir yng Nghynllun Cyflawni Cymru ar Genomeg (2022-2025).
Ar 7 Tachwedd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles ymweld â Chanolfan Iechyd Genomig Cymru yng Nghaerdydd i gwrdd â phartneriaid sydd wedi llofnodi'r cytundeb cydweithredol a gweld yn uniongyrchol sut mae Cymru yn arwain y ffordd yn y maes hwn.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi'i lofnodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Illumina, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac wedi ei hwyluso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Bydd y cytundeb yn adeiladu ar ymchwil gydweithredol bresennol i ddiagnosteg canser yr ysgyfaint, gyda'r uchelgais o ehangu ymhellach i fathau eraill o ganser, ac i feysydd ehangach o genomeg gyda'r nod o atal, rhoi diagnosis cynharach a darparu triniaethau personol.
Bydd yn cefnogi ymdrechion i gydweithio i wella’r broses o ddatblygu technolegau newydd, dulliau clinigol a thriniaethau, meddyginiaethau, brechlynnau a gwasanaethau i gefnogi gofal ataliol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Mae gan y cytundeb ymchwil hwn y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i ofal canser ataliol ar gyfer cleifion yng Nghymru.
"Ein huchelgais yw i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang mewn genomeg ac mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn adlewyrchu ein hymdrechion i fynd ati’n strategol i bartneru talent a dyfeisgarwch cynhenid â diwydiant i helpu i gyflawni hyn a chryfhau ein gwytnwch ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn credu y bydd gweithio gyda'n gilydd yn cyfuno gwybodaeth ac arbenigedd, yn ogystal â gwneud gwell defnydd o'r adnoddau prin sydd ar gael, yn hybu ymchwil i'r sector."
Dywedodd Suzanne Rankin, Uwch Swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru:
"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i faes meddygaeth genomeg, a chredaf fod cydweithrediad strategol y sefydliadau hyn yn gyfle gwych i Gymru barhau i gryfhau eu safle yn y maes hwn.
"Bydd llofnodi'r cytundeb hwn yn cefnogi pob partner i weithio ochr yn ochr â'i gilydd tuag at set o amcanion a rennir, gan wneud y gorau o ofal i gleifion tra'n gwella lles y boblogaeth ehangach."
Dywedodd Mark Robinson, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Illumina, y DU ac Iwerddon, a Gogledd Ewrop:
"Mae Illumina wedi ymrwymo i gydweithio i hyrwyddo maes meddygaeth genomeg.
"Ein gobaith gyda'r Memorandwm hwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yw y bydd yn ein galluogi i ymwneud yn ddyfnach â gweithgareddau ymchwil cydweithredol a threialon clinigol sydd â'r potensial i achub bywydau trwy ymgorffori profion genomig o fewn gofal rheolaidd."