Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Clinigol Plant a Menywod | Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff 2025 

22.01.2025

Mae cydweithwyr o bob rhan o’r Bwrdd Clinigol Plant a Menywod wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad eithriadol, eu gwaith caled a’u hangerdd dros gefnogi cleifion a’u teuluoedd yn y Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff blynyddol. 

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 15 Ionawr 2025 gan noddwyr Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro a Nathan Wyburn a Wayne Courtney o Radio Cardiff, a daeth â chydweithwyr a thimau o bob rhan o'r gyfarwyddiaeth ynghyd i gydnabod eu cyfraniadau rhagorol.  

Agorodd y Prif Weithredwr Suzanne Rankin y seremoni, gan dynnu sylw at gyflawniadau diweddar, gan gynnwys MBE Wendy Ansell am ei gwaith yn cefnogi goroeswyr arferion niweidiol, cydnabyddiaeth Rhian Greenslade fel Nyrs Ysbrydoledig y Flwyddyn yng Ngwobrau WellChild, a Kim Baker am gael ei dewis i fod yn rownd derfynol Gwobr Nyrs y Flwyddyn yr RCN

Wrth siarad am y gwobrau, dywedodd Suzanne: “Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr, y rhai a ddaeth yn ail ac enwebeion. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i ofal iechyd, ond mae gwytnwch, tosturi ac ymrwymiad cydweithwyr wedi bod yn ddiwyro. 

“Er gwaethaf y gofynion, bu adegau sy’n ein hatgoffa o’r gwaith rhyfeddol sy’n digwydd ar draws y bwrdd clinigol, ac roedd yn wych cydnabod a dathlu’r cyflawniadau hynny.” 

Cefnogwyd y digwyddiad yn garedig gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a derbyniodd yr enillwyr fagiau rhoddion a thystysgrifau, tra bu’r mynychwyr yn dathlu gyda the, coffi a chacennau. 

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr, y rhai a ddaeth yn ail ac enwebeion!  

Gweithio ar draws Byrddau Clinigol/Gweithio mewn Partneriaeth 

  • Cyd-enillwyr: Tîm Ymwelwyr Iechyd, Tîm Iechyd Plant, Tîm PARIS, a Rheolwyr Gweithredol y Grŵp Gofal Atal ac Ymyrraeth Gynnar a’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ar gyfer Prawf Sgrinio Smotyn Gwaed Babanod Newydd-anedig  

  • Yn ail: Tîm Gweinyddol Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl 

Lles 

  • Enillydd: Emma Morgan, Arweinydd Tîm, Nyrsio Cymunedol Plant 

  • Yn ail: Gemma Williams, Ysgrifennydd y Bwrdd a Swyddog Cymorth Prosiect 

Arweinyddiaeth Ysbrydoledig 

  • Enillydd: Leanne Evans, Arweinydd Tîm Nyrsio Ysgol Arbennig 

  • Yn ail: Paula Cooper, Rheolwr Gweithredol, Nyrsio Cymunedol Plant a Kim Baker, Arweinydd Clinigol ar gyfer y Gwasanaeth Ymataliaeth Pediatrig 

Ymgorffori Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ac Arwain ym maes Cydraddoldeb, Tegwch a Chynhwysiant 

  • Enillydd: Katie Simpson, Dirprwy Reolwr Cyffredinol, Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd 

  • Yn ail: Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol 

Arwr Di-glod 

  • Cyd-enillwyr: Erica Thomas, ANP Llawfeddygaeth Bediatrig ac Emma Bramley, Arweinydd Llywodraethu a Risg, Ysbyty Plant Cymru 

  • Cydradd ail: Elizabeth Bruen, Nyrs Glinigol Arbenigol Endometriosis, Nyrs Sonograffydd a Nyrs Hysterosgopydd ac Alexis Barry, Uwch Nyrs Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl 

Arloesi a Thrawsnewid 

  • Enillydd: Rhian Thomas-Turner, Rheolwr Gweithrediadau, Cyfleuster Ymchwil Pediatrig 

  • Yn ail: Judith Bibby, Bydwraig Arweiniol Meddygaeth y Ffetws, Obstetreg a Gynaecoleg 

Cyfraniad Eithriadol — Gweithlu Meddygol 

  • Enillydd: Dr Callista Hettiarachchi, Seiciatrydd Ymgynghorol, Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd 

  • Yn ail: Yr Athro Orhan Uzun, Meddyg Ymgynghorol Cardioleg Bediatrig 

Cyfraniad Eithriadol — Gweithlu Nyrsio 

  • Cyd-enillwyr: Cerianne Ankin, Rheolwr Gofal Parhaus, Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd a Jen Stucky, Uwch Nyrs Staff Ward Tylluan 

  • Cydradd ail: Claire Logan, CNS Cardiaidd Pediatrig ac Arweinydd Tîm ac Alistair Jensen, Nyrs Staff ac Addysgwr Ymarfer NICU 

Cyfraniad Eithriadol — Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd 

  • Enillydd: Ceri Perkins, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, C1 Gynaecoleg 

  • Yn ail: Amanda Day, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, C1 Gynaecoleg 

Cyfraniad Eithriadol — Staff Gweinyddol 

  • Enillydd: Suzanne Cornish, Ysgrifennydd Meddygol mewn Rhewmatoleg Bediatrig 

  • Yn ail: Zahra Tullet, Arweinydd Tîm Gweinyddol, Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd 

Tîm y Flwyddyn 

  • Enillydd: Tîm Seibiant ICCNS (Nyrsio Plant Cymunedol Integredig) 

  • Yn ail: Tîm Rhyddhau NICU a Thîm Ymwelwyr Iechyd LAC 

Mae'r person hwn yn gwneud fy niwrnod yn well oherwydd... 

  • Enillydd: Rebecca Williams, Rheolwr Ward, SDEC (Morfarch) 

  • Yn ail: Sarah Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Bydwreigiaeth 

 

 

 

Dilynwch ni