Rydym wrth ein bodd bod cydweithwyr yn BIP Caerdydd a’r Fro wedi cael eu cydnabod am eu model adsefydlu “arloesol” yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2023.
Enillodd tîm model adsefydlu BIP Caerdydd a’r Fro — dan arweiniad Dr Emma Cooke, Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Gofal Iechyd, wobr Llywodraeth Cymru am ofal yn seiliedig ar werth yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2023.
Nod y model adsefydlu sy’n canolbwyntio ar adferiad yw gwella iechyd a chefnogi hunanreolaeth, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, trwy ystod gynyddol o ymyriadau cymunedol wedi’u cyd-gynhyrchu a’u cyd-gyflwyno sydd ar gael mewn sawl fformat.
Gyda’i gilydd, mae’r tîm yn darparu gofal iechyd anfeddygol, yn agosach at y cartref gyda phontio i atebion hirdymor cynaliadwy a arweinir gan y gymuned.
Cynhaliwyd seremoni Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU yn Park Plaza Victoria, Llundain ar 21 Ebrill. Roedd y seremoni’n dathlu llwyddiannau’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a chlywodd y mynychwyr gan lawer o siaradwyr ysbrydoledig drwy gydol y prynhawn.
Wrth siarad am y model adsefydlu, dywedodd y beirniaid: “Darn o waith arloesol, a oedd nid yn unig wedi cael effaith fawr ar gleifion, ond hefyd yn cynnig syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu meysydd ymarfer eraill.”
Dywedodd Dr Emma Cooke, Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Gofal Iechyd: “Rwy’n falch iawn bod ein tîm wedi ennill gwobr Llywodraeth Cymru am ofal yn seiliedig ar werth yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2023. Mae’n deyrnged wirioneddol i angerdd ac ymroddiad y tîm cyfan i wella gofal cleifion trwy gyd-gynhyrchu trwy raglenni gwaith arloesol.
“Mae’r model sy’n canolbwyntio ar adferiad yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio yn sylweddol; mae’n creu ac yn darparu ymyriadau cymunedol wedi’u cyd-gynhyrchu a’u cyd-gyflwyno sy’n diwallu anghenion y bobl yr ydym yn gofalu amdanynt.
“Mae’r canlyniadau a’r manteision eisoes yn bellgyrhaeddol. Ers cyflwyno’r model, bu 5,241 yn llai o ymweliadau â safleoedd ysbytai acíwt drwy ymyriadau yn y gymuned, byddai 92% o’r cyfranogwyr yn argymell y gwasanaeth yn gryf i ffrindiau a theulu ac mae 85% wedi nodi newidiadau cadarnhaol sylweddol yn glinigol.”
Dywedodd Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Llongyfarchiadau i holl aelodau Tîm Model Adsefydlu BIP Caerdydd a’r Fro am eu buddugoliaeth haeddiannol iawn. Roedd mwy na 170 o geisiadau ar gyfer Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU eleni ac mae hyn yn brawf gwirioneddol o waith a chyflawniadau anhygoel ein staff.
“Mae ennill gwobr Llywodraeth Cymru am ofal yn seiliedig ar werth hefyd yn tynnu sylw at fanteision anhygoel ein model adsefydlu sy’n canolbwyntio ar adferiad a’i effaith ar gleifion.”
Ym mis Rhagfyr 2022, y tîm model adsefydlu oedd yr enillwyr cyffredinol yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru 2022, yn ogystal â derbynwyr y wobr am Ragoriaeth mewn Adsefydlu.