28 Ebrill 2025
Ddydd Mercher, 28 Rhagfyr, newidiodd bywyd y teulu Nokes am byth.
Gwnaeth Claire Nokes, a ddisgrifiwyd fel menyw ifanc llawn bywyd, doniol a gweithgar, lewygu’n sydyn yn nhŷ ffrind ar ôl dioddef trawiad ar y galon.
Er gwaethaf ymdrechion diflino’r ymatebwyr cyntaf yn y fan a’r lle, ac yna staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC), nid oedd digon o ocsigen yn mynd i’w hymennydd ac, yn drasig iawn, ni fyddai byth yn gwella. Ar ôl treulio naw mis yn derbyn gofal parhaus yn Ysbyty Rookwood, bu farw Claire yn 26 oed.
“Mae gen i wên ar fy wyneb yn meddwl amdani,” meddai ei thad, Len Nokes, sy'n gweithio fel Cyfarwyddwr Meddygol Clwb Pêl-droed Caerdydd. “Mae pawb rydw i'n siarad â nhw'n dweud ei bod nhw’n ei chofio hi’n llawn bywyd. Roedd hi’n ferch hyfryd, anhygoel a dwi’n ei cholli bob dydd.”
Canfuwyd yn ddiweddarach bod gan Claire gyflwr o'r enw myocarditis, a rhoddwyd meddyginiaeth iddi fel bod ei chalon mewn rhythm 'ysgytwol'; fodd bynnag, erbyn hynny, roedd y difrod eisoes wedi'i wneud ac roedd hi mewn cyflwr diymateb.
Dywedodd Len, a fabwysiadodd “ymagwedd meddyg” i geisio ymdopi â’r sioc a’r galar cychwynnol, ei bod yn anodd iawn rheoli ei deimladau mewn amgylchiadau mor erchyll.
“Rwy’n meddwl mai’r rhan waethaf oedd y gobaith y byddai’n gwella, ond ni ddigwyddodd erioed. Y cyfan a ddywedwyd wrthon ni oedd mai 'amser a ddengys'.” “Fe wnes i alw’r nyrsys yn 'fy angylion' oherwydd hebddynt, nid wyf yn meddwl y gallai fy ngwraig Sarah a minnau fod wedi goroesi. Roedden nhw yno i ni bob amser.”
Dywedodd Len fod Claire a’r teulu’n cael eu cefnogi’n fawr gan Apêl Prop, cronfa a reolir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi cleifion a theuluoedd sy’n wynebu adsefydlu yn dilyn anaf i’r ymennydd.
“Bu Apêl Prop o gymorth i brynu pethau ar gyfer y ward na fyddech yn disgwyl i’r GIG dalu amdanynt,” ychwanegodd Len, sydd bellach yn noddwr ar gyfer yr apêl. “Fe ddaethon nhw â thechnoleg i mewn i ddarparu ysgogiad gweledol a chlyw, yn ogystal â helpu’r ffisiotherapyddion. Y pethau bach a wnaethant a wnaeth wahaniaeth mawr.”
Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Claire, penderfynodd Len ryddhau llyfr o'r enw 'Only Time Will Tell: A Father's Journey,' yn manylu ar hanes amrwd a gonest ei daith tra bod Claire yn yr ysbyty.
“Wrth eistedd yn gafael yn llaw Claire yn yr ysbyty, fe wnes i addo y byddwn i’n ysgrifennu llyfr am yr hyn roedd hi’n ei brofi a beth oeddwn i’n ei brofi, ychwanegodd. “Fy nhaith i ydy hi, neb arall. Nid taith Sarah, fy ngwraig na Chris, fy mab. Mae ganddyn nhw eu persbectif eu hunain.”
Mae Len hefyd wedi helpu i gadw cof Claire yn fyw mewn sawl ffordd arall. Mae bellach yn gadeirydd annibynnol Save a Life Cymru, corff a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella ymwybyddiaeth pobl o ataliadau ar y galon a sgiliau cynnal bywyd sylfaenol fel CPR a diffibrilio.
Ac mae ei fenter nesaf yn argoeli i fod yn achlysur cofiadwy – gêm bêl-droed elusennol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Nos Wener, 9 Mai (yn cychwyn am 6.30pm), bydd tîm XI Dethol Dinas Caerdydd, dan arweiniad Joe Ledley, yn wynebu tîm XI All Stars rhyngwladol dan arweiniad cyn-aelod arall o’r Adar Gleision, David Marshall.
Mae wynebau enwog eraill fydd yn chwarae yn cynnwys Craig Bellamy, Sean Morrison, Gavin Rae, Kevin McNaughton, Scott Young, Lee Tomlin, Lee Peltier, Craig Conway, Robert Earnshaw, Jay Bothroyd, Michael Chopra, Fraizer Campbell, Darren Purse, Ben Turner, Lee Camp, Chris Burke, Andy Legg, Damon Searle, Jason Fowler, Lee Trundle ac Anthony Pilkington.
Bydd yr holl arian a godir ar y diwrnod yn mynd tuag at Apêl Prop.
“Rydw i wastad wedi caru’r chwaraewyr [Dinas Caerdydd]; rydw i’n eu galw nhw’n blant i mi, hyd yn oed y rhai hŷn,” meddai Len yn gellweirus. “Bellach mae gennym ni Gymdeithas Cyn Chwaraewyr, a rhoddais neges ar y grŵp WhatsApp yn gofyn a fyddai gan unrhyw un ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gêm elusennol. Cyn i mi wybod, whoosh - agorodd y llifddorau. Cawsom ymateb mor wych.
“Mae mor bwysig parhau i godi arian ar gyfer Apêl Prop. Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi bod yn wych er mwyn gwneud hyn i gyd yn bosibl. Mae cymaint o bobl yn rhoi o’u hamser a’u hymdrechion am ddim ac ni allaf ddiolch digon iddynt.”
Mae tocynnau i City XI vs All Stars XI ar werth nawr ac ar gael yma.
I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Prop, a reolir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, edrychwch yma.