Neidio i'r prif gynnwy

'Bu farw ein merch hardd o sepsis yn 29 oed - nid ydym eisiau i unrhyw deulu arall wynebu'r un torcalon'

Disgrifiwyd Rachel Day gan ei rhieni fel “cymeriad cwbl unigryw” a fyddai’n goleuo ystafell gyda’i harddwch, ei hiwmor a’i phersonoliaeth heintus.

Roedd y ffanatig ffitrwydd, a oedd yn bencampwr jwdo Cymru yn ei harddegau, yn achubwr bywydau profiadol ac yn hyfforddwr nofio yng Nghanolfan Hamdden Llanisien ond roedd ganddi gynlluniau i newid gyrfa a sefydlu ei busnes creche cŵn ei hun.

Fodd bynnag, ar anterth ei bywyd, cafodd y fenyw ifanc 29 oed ei llorio gan sepsis a ddifrododd ei chorff yn gyflym. 10 diwrnod yn unig ar ôl ei diagnosis, fe fuodd hi farw.

“Roedd gan Rachel synnwyr digrifwch mor ddrygionus – roedd pawb yn cael eu denu ati,” meddai ei mam, Bernie Day, sydd wedi torri ei chalon. “Roedd hi’n ffit, yn iach ac roedd ganddi syniad clir iawn o’r hyn roedd hi eisiau ei chyflawni gyda’i bywyd, ond yn anffodus ni chafodd y breuddwydion hynny eu gwireddu.”

Ym mis Mai 2017, dywedodd Bernie fod Rachel wedi mwynhau penwythnos Gŵyl y Banc “anhygoel” yn gwylio’r machlud gyda’i ffrindiau yn Aberogwr ac yn mwynhau coctels ym Mae Caerdydd.

Ond ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, bu Rachel yn cwyno wrth ei ffrind, a oedd yn rhannu fflat gyda hi, am ddiffyg anadl, chwydu a “theimlo ei bod yn marw”. Aethpwyd â hi i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru am tua 4am.

Er iddi ddychwelyd adref ychydig oriau yn ddiweddarach, gwaethygodd ei chyflwr yn ddifrifol.

“Roeddwn i wedi ceisio anfon neges destun ati gan ein bod i fod i gwrdd am goffi, ond ni chefais ymateb a oedd yn anarferol iawn,” ychwanegodd Bernie. “Yn y diwedd ceisiais ei ffonio – ac roedd ganddi ddigon o nerth i estyn draw a thapio ei ffôn i’m hateb.

“Roedd hi’n sgrechian yn afreolus mewn poen ar y ffôn. Bydd y sgrechiadau hynny yn aros gyda mi am weddill fy oes. Gadewais y siop goffi, ei chadw ar y ffôn a mynd yn syth i’w fflat.

“Roedd ei chorff wedi chwyddo, ei chroen yn llawn smotiau a’i gwefusau’n las. Roedd hi’n crio ‘Mam, mae’n rhaid i ti fy helpu’. Fe wnaethom ddarganfod yn ddiweddarach fod ei asid lactig wyth gwaith y lefel arferol, a oedd yn achosi’r boen arteithiol yn ei choesau.”

Galwodd Bernie am ambiwlans a aeth â Rachel yn ôl i Ysbyty Athrofaol Cymru ac i’r uned ddadebru. Roedd meddygon ymgynghorol o’r farn bod ei chyflwr mor ddifrifol fel bod angen iddi gael ei rhoi mewn coma anwythol er mwyn i’w chorff orffwys.

Dywedodd tad Rachel, Steve: “Roedden ni’n gallu siarad â Rachel cyn iddi gael ei thawelu a dweud wrthi na fydden ni’n gadael ochr ei gwely yr holl amser. Yna cawsom ein tywys i ystafell ochr gan feddyg ymgynghorol a ddywedodd wrthym ei bod yn debygol na fyddai’n goroesi’r nos.

“Allwn i ddim amsugno’r wybodaeth gan fy mod i mewn cymaint o sioc.”

Yn yr Uned Gofal Dwys, gwaethygodd Rachel dros y dyddiau nesaf. “Dechreuodd hi beidio ag edrych fel Rachel,” cyfaddefodd Steve. “Roedd ei thrwyn wedi troi’n ddu ac roedd ganddi ddripiau ym mhobman. Roedd hyd yn oed ganddi waed yn diferu o’i llygaid, ei thrwyn a’i chlustiau. Roedd sepsis yn effeithio ar bron bob rhan o’i chorff.”

Ar ôl chwe diwrnod mewn coma, cafodd Rachel ei deffro yn araf deg gan y meddygon er mwyn iddynt allu asesu pa niwed a wnaed i’w hymennydd.

Er nad oedd hi’n gallu siarad, roedd hi’n gallu cyfathrebu trwy amrantu - un am ie, dau am na. Roedd hi hefyd yn adnabod lleisiau ffrindiau agos, gan amrantu wrth iddynt ganu caneuon doniol Dr Dre iddi.

“Dechreuais ganu ‘Close to You’ gan y Carpenters, ac rwy’n meddwl iddi amrantu tua 20 o weithiau i ddweud wrtha i am roi’r gorau i ganu,” meddai Bernie gan chwerthin. “Roedd ganddi ei synnwyr digrifwch, hyd yn oed bryd hynny.”

Y bore wedyn, cafodd y teulu lygedyn arall o obaith pan lwyddodd Rachel i agor ei llygaid i weld ei thad. Ond yn anffodus, roedd ei chorff yn rhy flinedig i wneud hynny eto a chafodd ei rhoi o dan dawelydd.

Ar 5 Fehefin, rhannodd y meddygon ymgynghorol y newyddion y byddai angen i Rachel golli ei braich dde a’i dwy goes - ergyd drom i’w siawns o adferiad da.

“Fe wnaethon ni alw’r teulu i mewn i drafod p’un ai i fwrw ymlaen, a’r consensws oedd y byddai Rachel yn ddigon cryf i barhau â’i bywyd gydag un fraich yn unig,” cofiodd Bernie. “Byddai’n rhoi cyfle iddi, a byddai ei phersonoliaeth yn ddigon i’w chario.”

Ond daeth i’r amlwg na allai hyd yn oed ei braich chwith gael ei hachub, ac na allai ei horganau hanfodol oroesi chwaith, wrth iddynt ddechrau rhoi’r gorau i weithio fesul un. Bu farw ar 7 Mehefin, 2017 yn 29 oed.

Dywedodd Bernie: “Ar y pwynt hwnnw roedd hi’n gwybod ei bod hi’n bryd iddi fynd. Roedd yn rhaid iddi gytuno i ddiffodd ei chynhaliaeth bywyd a oedd yn dorcalonnus. Fe lwyddon ni i gyd i ffarwelio â hi, ac fe wnaethon ni addo i beidio byth â’i siomi a gwneud yn siŵr bod y byd i gyd yn gwybod y gair ‘sepsis’.”

Mae sepsis yn gyflwr lle mae’r system imiwnedd yn gorymateb i haint neu anaf ac yn gorweithio, gan effeithio ar feinwe ac organau iach. Gall unrhyw oedolyn fod â sepsis os yw’n dangos unrhyw un o’r chwe arwydd hyn:

  • Siarad yn aneglur neu wedi drysu
  • Crynu eithafol
  • Pasio dim wrin (mewn diwrnod)
  • Diffyg anadl difrifol
  • Teimlo fel eich bod chi’n mynd i farw
  • Smotiau ar y croen neu wedi colli lliw

Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn amcangyfrif bod 48,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o salwch yn ymwneud â sepsis. Fe’i disgrifiwyd fel “bom sy’n tician” oherwydd gall llawer o’r arwyddion cychwynnol fod yn gynnil iawn ac yna datblygu’n gyflym o fewn oriau.

Er bod sepsis yn effeithio’n bennaf ar blant ifanc iawn, oedolion hŷn, a phobl â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, weithiau gall gael ei sbarduno ymhlith y rhai sydd fel arall yn ffit ac yn iach, fel Rachel. Os byddwch chi neu oedolyn arall yn datblygu unrhyw un o’r arwyddion hyn, mae’n bwysig ceisio sylw meddygol brys.

Ers ei marwolaeth, mae teulu Rachel wedi gwneud cynnydd mawr o ran codi ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith y cyhoedd ac aelodau o staff clinigol. Fe wnaethant ariannu’r Llwybr ‘Sepsis Six’ sy’n cael ei ddefnyddio gan gydweithwyr ar draws y GIG i nodi ymyriadau cynnar a thriniaeth wrthfiotig briodol i gleifion.

Dywedodd Bernie: “Pan gefais i ganser y fron, cefais fy sgrinio. Ond pan aeth Rachel i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys y noson honno, nid oedd proses sgrinio ar gyfer sepsis. Credaf y gallai hynny fod wedi achub ei bywyd. Fe wnaethom addo newid hynny nid yn unig ar gyfer yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, ond ar gyfer pob ward.”

Yn ogystal, mae’r elusen ‘Rachel’s Day’ a’i byddin o wirfoddolwyr wedi codi tua £60,000 ar gyfer ymwybyddiaeth sepsis trwy gynnal llu o ddigwyddiadau, dawnsfeydd, marathonau, teithiau cŵn blynyddol a llawer mwy. Mae Bernie, sydd wedi cwblhau chwe hanner marathon ei hun ers marwolaeth Rachel, hefyd wedi siarad yn gyhoeddus am ei phrofiadau â staff y GIG, cwmnïau cyfreithiol a myfyrwyr prifysgol.

Ar Ddiwrnod Sepsis y Byd ddydd Gwener, 13 Medi, bydd Cartrefi Gofal Hallmark yn lansio modiwl e-ddysgu ar gyfer nyrsys a gofalwyr am sepsis, y gwnaeth Bernie a Steve helpu i’w greu. Maen nhw’n gobeithio gweithio gyda GIG Cymru i gynhyrchu rhywbeth tebyg.

Ers blynyddoedd mae’r teulu wedi gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn ariannu arwyddion ymwybyddiaeth o sepsis ar lifftiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Gorffennodd Bernie trwy ddweud: “Rwy’n meddwl bod marwolaeth Rachel yn bendant wedi helpu i godi proffil sepsis, ond mae’n dal i ddigwydd. Mae yna bobl o hyd sydd wedi gorfod wynebu trychiadau - neu sydd wedi colli eu bywydau - gan nad yw’r sepsis wedi cael diagnosis yn ddigon cyflym. Ni allwn dderbyn hynny mwyach. Bydd ein gwaith yn parhau.”

Mae Dr Paul Morgan, arweinydd sepsis Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi gweithio ochr yn ochr â’r teulu Day i helpu i godi ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith cleifion, ymwelwyr a staff.

“Mae sepsis yn effeithio ar filoedd lawer o bobl yn y DU bob blwyddyn, gyda thua 48,000 o bobl yn colli eu bywydau,” esboniodd. “Mae sepsis yn lladd mwy o bobl bob blwyddyn yn y DU na chyfanswm cyfunol y marwolaethau o ganser y fron, canser y coluddyn a chanser y prostad.

“Tra bod llawer o’r marwolaethau hyn ymhlith y rhai sydd eisoes ar ddiwedd eu hoes, neu’n agosáu ato, mae yna lawer o rai eraill fel Rachel Day sy’n cael eu heffeithio yn drasig ar anterth eu bywyd. O’r rhai sy’n goroesi, mae llawer yn dioddef o broblemau corfforol a seicolegol sy’n newid bywydau, fel y cyn Aelod Seneddol, Craig McKinley.

“Mae BIP Caerdydd a’r Fro yn y broses o ddiweddaru ei brosesau sgrinio a thrin sepsis i adlewyrchu newidiadau diweddar mewn canllawiau cenedlaethol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ac Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol (AoMRC). Mae’r addysg ar sepsis yn cael ei ddiweddaru i ymgorffori’r newidiadau hyn.

“Rhagwelir hefyd y bydd datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd sy’n cael eu cyflwyno dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn gymorth mawr gyda hyn. Mae BIP Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu gofal o’r ansawdd uchaf posibl, gan ymchwilio pan nad yw hyn wedi digwydd a chymryd camau i osgoi gwneud unrhyw gamgymeriadau o’r fath yn y dyfodol.

Ar Ddiwrnod Sepsis y Byd ddydd Gwener, 13 Medi, bydd Dr Paul Morgan a Terence Canning o Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn cynnal stondin yn ardal y prif gyntedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn rhoi gwybodaeth am sepsis ac yn egluro’r newidiadau diweddaraf mewn prosesau. Bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhannu â staff y bwrdd iechyd ar dudalen Sharepoint bwrpasol sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Sepsis y Byd, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yma. I gael rhagor o wybodaeth am yr holl ymgyrchoedd codi arian er cof am Rachel, ewch yma.

Dilynwch ni