30 Mai 2025
Gall plant ysgolion uwchradd a gollodd y cyfle i dderbyn brechlyn sy’n cynnig amddiffyniad hanfodol yn erbyn sawl math o ganser fanteisio ar sesiynau ‘dal i fyny’ yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol Caerdydd a’r Fro yn dychwelyd i ysgolion ym mis Mehefin 2025 i roi’r brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) i bob plentyn ym Mlwyddyn 8, 9 a 10.
Mae’r brechlyn wedi bod yn hynod effeithiol o ran lleihau’r risg o gael HPV, grŵp o fwy na 100 o feirysau sy’n cael eu trosglwyddo’n hawdd drwy gysylltiad croen â chroen.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu heintio â HPV yn clirio'r feirws o'u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl, ond i eraill gall arwain at ganser ceg y groth, rhai mathau o ganser y geg a'r gwddf, canser yr anws a'r ardaloedd cenhedlu yn ogystal â dafadennau gwenerol.
Efallai y bydd rhai rhieni'n dal i feddwl bod y brechlyn HPV ar gyfer merched yn unig i'w amddiffyn rhag canser ceg y groth, ond ers 2019 mae'r brechlyn hefyd wedi cael ei gynnig i bob bachgen ym Mlwyddyn 8, gan amddiffyn y ddau ryw rhag sawl math o ganser a achosir gan y feirws HPV.
Fel arfer nid oes gan HPV unrhyw symptomau, a dyna pam ei bod mor hawdd ei drosglwyddo. Mae'n gyffredin iawn, a bydd 8 o bob 10 o bobl yn cael eu heintio rywbryd yn eu bywydau.
Ond hyd yma mae’r brechlyn wedi bod yn effeithiol iawn. Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au.
Y gwanwyn hwn, bu Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yn ymweld ag ysgolion ar draws y rhanbarth i roi’r brechlyn HPV i ddisgyblion Blwyddyn 8, ynghyd â’r rhai ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a fethodd eu brechlyn ym Mlwyddyn 8.
Fodd bynnag, bydd y tîm yn dychwelyd rhwng 3 Mehefin a 30 Mehefin i frechu’r rhai ym mlynyddoedd 8-10 na chafodd eu gweld yn ystod yr ymweliad cyntaf.
Os na dderbyniodd eich plentyn ei frechlyn HPV y tro cyntaf, cadwch lygad am ragor o wybodaeth gan yr ysgol ynghyd â dolen i’r ffurflen gydsyniad.
Rydym yn annog pobl ifanc a'u rhieni i sicrhau bod ffurflenni cydsyniad yn cael eu dychwelyd fel bod bechgyn a merched fel ei gilydd yn manteisio ar y brechlyn hwn a allai achub bywydau pan gaiff ei gynnig.
Gall plant Blwyddyn 11 dderbyn y brechlyn mewn clinig dal i fyny cymunedol - ffoniwch 02920 907661 i drefnu apwyntiad.
Bydd Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol Caerdydd a'r Fro yn ymweld â blynyddoedd 8-10 mewn ysgolion uwchradd i roi'r brechlyn HPV ar y dyddiadau canlynol:
3/6/25
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn
4/6/25
Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
5/6/25
Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant
Ysgol Eastern High
10/6/25
Ysgol Gyfun Radur
Ysgol Uwchradd Whitmore
11/6/25
Ysgol Stanwell
Ysgol St Cyres
12/6/25
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Ysgol Llanilltud Fawr
Ysgol Gyfun y Bont-faen
16/6/25
Ysgol Uwchradd Mary Immaculate
17/6/25
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
19/6/25
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
20/6/25
Ysgol Uwchradd Woodlands
23/6/25
Ysgol Uwchradd Cathays
24/6/25
Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant
Ysgol Uwchradd Cantonian
25/6/25
Ysgol Uwchradd Fitzalan
27/6/25
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
30/06/25
Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae'r rhaglen frechu HPV wedi cael ei chefnogi eleni gan Miss Cymru Mille-Mae Adams (stori lawn yma) a chan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn 2024 (stori lawn yma).