Mae camddefnyddio alcohol yn effeithio ar filiynau o bobl bob dydd, gan achosi i iechyd meddyliol a chorfforol waethygu. Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae marwolaethau yn ymwneud â chamddefnydd alcohol yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu’n sylweddol. Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau ar draws Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys Heddlu De Cymru, prifysgolion lleol, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, i ddarparu cymorth a lleihau niwed alcohol.
Marwolaethau yn ymwneud yn benodol ag alcohol ar gynnydd
Mae’r data arfaethedig ar gyfer Cymru a Lloegr wedi dangos bod marwolaethau yn ymwneud yn benodol ag alcohol wedi cynyddu o 20% yn ystod 2020, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019. Gydag 13.6 marwolaeth fesul 100,000, dyma’r gyfradd uchaf ers bron i ddau ddegawd. Mae’r ONS yn dweud bod y cynnydd hwn mewn marwolaethau yn fwy tebygol o fod yn briodoladwy i’r rhai hynny â hanes blaenorol o gamddefnydd neu ddibyniaeth ar alcohol.
Mae gwaith ar y gweill i ddeall pam fod y cynnydd mewn marwolaethau yn ymwneud yn benodol ag alcohol wedi bod mor amlwg. Mae’n bosibl bod pandemig COVID-19 yn ffactor perthnasol, gyda’r rhai hynny a oedd eisoes yn yfed yn drwm yn fwy tebygol o fod yn yfed mwy. Yn ystod y pandemig, mae’n bosibl nad yw’r rhai hynny sydd angen cymorth gyda’u hyfed a chyflyrau sy’n ymwneud ag alcohol wedi bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Faint yw gormod?
Er mwyn cadw lefel risg iechyd sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol yn isel, ni ddylai dynion a menywod fod yn yfed mwy nag 14 uned yr wythnos, ac fe’ch cynghorir i ledaenu eich yfed dros dri diwrnod neu fwy, a chael sawl diwrnod heb alcohol yn ystod yr wythnos.
Os ydych chi’n yfed dros y lefelau hyn yn gyson, gallai lleihau eich yfed wella eich cwsg a’ch hwyliau, rhoi mwy o egni i chi a lleihau eich risg o glefyd y galon, clefyd yr afu, strociau a rhai canserau.
Rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon ynghylch yfed alcohol i ofyn am gymorth gan ein gwasanaethau lleol neu i siarad â’ch meddyg teulu.
Ble gallwch ddod o hyd i gymorth?
Mynediad at Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol (EDAS) – pwynt mynediad unigol ar gyfer unrhyw un sy’n teimlo bod ganddo broblem gydag unrhyw fath o sylwedd, sy’n darparu mynediad syml ac effeithiol at yr ystod lawn o wasanaethau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Alcohol Change UK – elusen alcohol mwyaf blaenllaw’r DU sy’n darparu cefnogaeth, gwybodaeth ac ystod o adnoddau am ddim i helpu’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan niwed alcohol.
Dan 24/7 – llinell gymorth gyfrinachol, am ddim sy’n cynnig cefnogaeth gan gynnwys asesiad cychwynnol, atgyfeiriad at wasanaethau lleol, gwybodaeth am effeithiau alcohol a mwy. Ffoniwch Linell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN at 81066.
Lawrlwythwch adnoddau rhad ac am ddim er mwyn helpu i reoli eich yfed, sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg trwy glicio ar y dolenni isod: Managing your drinking (English) | Rheoli eich yfed (Cymraeg)
Ydych chi’n yfed yn gymedrol yn eich barn chi? Ddim yn siŵr? Gwiriwch pa mor iach yw eich arferion yfed gyda chwis cyflym rhad ac am ddim Alcohol Change UK, trwy glicio yma.
19/05/2021