05 Ebrill 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr Macro Gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu Rhaglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru, ledled Cymru.
Fel un o sefydliadau GIG mwyaf y DU, rydym yn falch iawn o fod yn lle gwych i hyfforddi a gweithio, gyda chynhwysiant, lles a datblygu wrth wraidd popeth a wnawn. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn cydweithwyr i gefnogi eu datblygiad trwy brentisiaethau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cefnogi prentisiaethau i gydweithwyr ers 2006 ac wedi sefydlu’r Academi Prentisiaeth yn ffurfiol ym mis Rhagfyr 2018. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cofrestru 864 o gydweithwyr ar raglenni prentisiaeth amrywiol.
Wrth sôn am ennill y wobr fawreddog, dywedodd Emma Bendle, Cydlynydd Prentisiaethau ac Ehangu Mynediad: “Mae hwn yn gyflawniad arbennig sy’n cydnabod y gwaith gwych sydd wedi’i gyflawni ers i ni sefydlu ein Hacademi yn 2018. Fel tîm, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y BIP i uwchsgilio ein staff a chreu cyfleoedd gwych i recriwtiaid newydd roi hwb i’w gyrfa yn y GIG."
Mae’n destun balchder i’r Bwrdd Iechyd ei fod yn sefydliad lle gall pawb archwilio cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad.
Wrth i ni gefnogi ein prentisiaid drwy’r addysg a’r hyfforddiant cywir, rydym nid yn unig yn adeiladu gweithlu galluog, ond un sy’n dod yn fwy cynhyrchiol ac sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau.
Drwy gyflwyno llwybrau prentisiaeth i’n haddysg a’n hyfforddiant, rydym yn gwella hygyrchedd ac yn ehangu mynediad i sectorau o’r gymuned lle gallai’r GIG fod wedi ymddangos allan o’u cyrraedd. Mae prentisiaethau’n cynnig dewis amgen, yn hytrach na’r llwybrau traddodiadol ar gyfer addysg uwch, ac mae llwybrau dilyniant clir yn galluogi pobl i lwyddo mewn ffordd hyblyg sy’n eu siwtio.
Dywedodd Olivia Headley-Grant, cyn-brentis o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Fe wnaeth fy mhrentisiaeth fy helpu i fagu hyder ac ehangu fy ngwybodaeth ar ôl gadael yr ysgol. Fe wnaeth y profiad a gefais fy helpu i sicrhau swydd barhaol fel cynorthwyydd gweinyddol yn y tîm a fy rôl ddiweddaraf fel Cynorthwyydd Gweithredol. Rwy’n teimlo na fyddwn i wedi cyrraedd y man hwn, yn gweithio gyda Swyddogion Gweithredol yn 18 oed, pe na bawn i wedi dewis gwneud y brentisiaeth hon.”
Wrth i rai meysydd o’r Gwasanaeth Iechyd wynebu’r her o weithlu sy’n heneiddio, mae’r Bwrdd Iechyd yn gweld prentisiaethau fel cyfle i wneud y mwyaf o botensial gweithlu iau, tra’n ymgysylltu â staff profiadol i’w galluogi i drosglwyddo eu sgiliau a’u profiadau i eraill.
Drwy weithio mewn partneriaeth, rydym wedi gallu cefnogi meddygon teulu sydd wedi bod yn cael trafferth denu pobl ifanc i ymuno â’u timau. Cafwyd llwyddiant nodedig hefyd i’n gweithlu yn y dyfodol, gyda llwybrau prentisiaeth wedi’u cyflawni o fod yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd i fod yn Nyrs Gofrestredig.
Mae prentisiaethau lefel mynediad wedi darparu amgylcheddau lle gall pobl ragori yn eu rôl a’u cymhwyster. Mae’r cyfle hwn i dyfu’r gweithlu wedi arwain at gyfradd llwyddo o 81% o ran sicrhau cyflogaeth barhaol ar ddiwedd y brentisiaeth.
Mae prentisiaethau ar gael o 16 oed, sy’n cefnogi’r rhai sy’n gadael addysg amser llawn a gellir eu defnyddio i gael mynediad at yrfaoedd sy’n gysylltiedig ag iechyd, heb adael y byd gwaith i fynd i’r brifysgol. Mae prentisiaid yn gallu ‘ennill wrth ddysgu’, adeiladu sylfaen gyrfa gadarn ac archwilio’r cyfleoedd eraill sydd ar gael iddynt.
Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n dymuno gwneud prentisiaeth yng Nghaerdydd, ac o fewn y Bwrdd Iechyd, yn dod o hyd i gyfleoedd yn y categorïau canlynol:
Darllenwch fwy am nodau’r Bwrdd Iechyd i ddenu a chadw’r bobl orau yn shapingourfuturewellbeing.com