Neidio i'r prif gynnwy

BIP Caerdydd a'r Fro yn dechrau cyflwyno prosiect newydd uchelgeisiol i wella Gofal Cefnogol

11 Mawrth 2026

Mae tîm Gofal Cefnogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dechrau cyflwyno'r Fenter Band Arddwrn, darn o waith trawsnewidiol sy'n helpu pobl â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd i reoli eu gofal.

Ar hyn o bryd, bydd 89% o bobl â chyflwr diwedd oes yn defnyddio gofal heb ei drefnu drwy Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a bydd 38% o'r rhain yn cael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae fel arfer yn well gan gleifion sy’n deall bod ganddyn nhw gyflwr diwedd oes fod gartref pan fyddan nhw'n marw.

Er bod yn well gan 80% o bobl farw yng nghysur eu cartref eu hunain, bydd tua 46% yn marw yn yr ysbyty.

Nod y Fenter Band Arddwrn yw helpu cleifion â'r cyflyrau hyn i gael y grym i fyw eu bywydau mor hyderus â phosibl gan wybod y bydd penderfyniadau am eu gofal yn cael eu cyfleu os byddant yn mynd yn sâl.

Ynglŷn â'r Fenter Band Arddwrn

Fel rhan o’r Fenter Band Arddwrn bydd cleifion addas yn gwisgo band arddwrn gyda chod QR er mwyn rhannu gwybodaeth feddygol bwysig â gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol a fydd yn gallu cael mynediad ati pan fydd ei hangen arnynt.

Mae'r band arddwrn yn cael ei wisgo fel oriawr, gyda'r cod QR yn mynd â phobl i dudalen we bersonol sy’n cynnwys gwybodaeth am y claf a fydd yn cael ei diweddaru gan y tîm gofal iechyd yn ôl yr angen.

Cedwir y wybodaeth hon yn breifat, a dim ond trwy ddefnyddio'r cod PIN, sydd hefyd i'w gael ar y band arddwrn, y gellir cael mynediad ati.

Dim ond gyda chaniatâd y claf y caiff gwybodaeth ei rhannu.

Gallai'r math o wybodaeth sy'n debygol o gael ei lanlwytho gynnwys:

  • Afiechydon meddygol pwysig presennol ac yn y gorffennol a manylion y triniaethau maent yn eu derbyn
  • Meddyginiaethau, gan gynnwys unrhyw alergeddau
  • Cysylltiadau brys ar gyfer anwyliaid a thîm gofal iechyd y claf
  • Gwybodaeth am beth i'w wneud os bydd y cyflwr yn gwaethygu
  • Gwybodaeth am ddymuniadau a dewisiadau'r claf - er enghraifft, nid yw rhai cleifion eisiau cael eu hail-dderbyn i'r ysbyty oni bai bod rheswm clir pam
  • Mae rhai cleifion yn dymuno cynnwys ffurflen Gorchymyn Peidio â Cheisio Adfywio Cardio-pwlmonaidd (DNACPR).

Pryd bynnag y bydd angen gwybodaeth gofal iechyd am y claf, yn enwedig mewn argyfwng, gall meddygon teulu, nyrsys neu barafeddygon sganio'r cod QR ar y band arddwrn a chysylltu â gwefan unigol y claf.

Fel arfer, caiff cleifion sy'n dirywio eu cyfeirio’n ddiofyn at ofal yn yr ysbyty, a gall y wybodaeth a ddarperir ar unwaith drwy’r band arddwrn helpu cydweithwyr gofal iechyd i barchu eu dymuniadau a darparu'r gofal mwyaf priodol.

Roedd y bandiau arddwrn wedi cael eu treialu gyda deg claf cychwynnol oedd angen gofal cefnogol ar gyfer methiant y galon, clefyd cynhenid y galon ymhlith oedolion a chlefyd interstitiaidd yr ysgyfaint.

Yn dilyn ei lwyddiant, mae 200 o fandiau arddwrn eraill wedi cael eu dosbarthu’n ychwanegol. Mae'r adborth rhagarweiniol hyd yn hyn wedi bod yn rhagorol.

Mae cleifion wedi nodi eu bod yn teimlo'n fwy hyderus i wneud y gorau o'u hamser sy'n weddill gan wybod y byddant yn cael gofal da a bod eu dymuniadau'n cael eu parchu.

“Rydw i wedi mynd ar fws oherwydd dw i’n gwybod y bydd ganddyn nhw fy ngwybodaeth os byddaf yn mynd yn sâl,” meddai un claf.

Dywedodd claf arall fod y parafeddygon yr oedd wedi dod i gysylltiad â nhw o’r farn ei fod yn ddefnyddiol iawn. 

Mae parchu dymuniadau'r claf yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn. Yn ei ddeg claf cyntaf, mae eisoes wedi arwain at lai o dderbyniadau i'r ysbyty, gwell cyswllt â thîm darparu gofal claf, ac wedi sicrhau bod claf arall yn ei le dewisol pan oedd ei gyflwr yn dirywio ac angen gofal diwedd oes.

Mae'r prosiect hwn wedi'i wireddu gan dîm Cod QR Cymru sy'n cynnwys cydweithwyr o BIP Caerdydd a'r Fro, Felindre a WAST; gan gynnwys Dr Clea Atkinson, yr Athro Nikki Pease, Dr Elin Harding, Dr Naomi Blowe, Ruth Gisbourne, Mr Ed O'Brian, Jo Sulman, Nina Amps a Molly Baker.

Dywedodd Clea Atkinson, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Liniarol: “Mae’r Fenter Band Arddwrn yn rhoi cysur i gleifion wybod, lle bynnag y bônt, y bydd gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanynt fynediad ar unwaith at y wybodaeth sydd bwysicaf. Mae'n grymuso pobl i aros gartref a theimlo'n fwy hyderus.”

Cronfa Buddsoddi Cymdeithasol Gofal Diwedd Oes Macmillan

Mae'r fenter hon wedi'i hariannu gan Gronfa Buddsoddi Cymdeithasol Gofal Diwedd Oes Macmillan a fydd yn gweld Cymorth Canser Macmillan yn buddsoddi £36m mewn gwasanaethau Gofal Diwedd Oes ledled y DU heb unrhyw elw ariannol. Mae Tîm Cronfa EOLC Macmillan yn darparu arbenigedd yn y meysydd rhaglenni, clinigol, ariannol a dadansoddeg data heb unrhyw gost i'r partneriaid.

Mae Macmillan yn darparu cyllid ymlaen llaw ar gyfer gwasanaethau ac mae'n ad-daladwy os cyflawnir canlyniadau y cytunwyd arnynt ar y cyd, gan amsugno'r risg felly. Mae'r gronfa ar gael nawr a bydd yn gweld Macmillan yn buddsoddi £36m mewn gwasanaethau Gofal Diwedd Oes ledled y DU heb unrhyw elw ariannol ychwanegol.

Y Tîm Profedigaeth

Gall sgyrsiau am ddiwedd oes fod yn heriol ac yn emosiynol. Mae gan y Bwrdd Iechyd Wasanaeth Cymorth Profedigaeth pwrpasol ar gael i'n cleifion mewnol, teuluoedd a staff.

Mae'r tîm yn cynnig y cyfle i siarad yn gyfrinachol â rhywun sy'n deall galar ac sy'n gallu cynnig arweiniad a chefnogaeth. Maent ar gael i gefnogi unrhyw un sydd wedi colli rhywun yn ardal Caerdydd a'r Fro, a'r rhai y mae eu perthynas neu ffrind yn marw yn un o'n hysbytai.

Nid yw'r Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth yn wasanaeth cwnsela ond gall gyflwyno atgyfeiriadau ar gyfer cwnsela penodol i alar yn dilyn adolygiad os oes angen.

Gellir cysylltu â'r tîm drwy'r manylion canlynol:

  • Rhif Ffôn: 029 2184 4949
  • Ffôn Symudol: 07812 495281 / 07812 495329
  • Ebost: cav.bereavementservices@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni