14 Tachwedd 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a'r Fro wedi helpu i ddatblygu technoleg arloesol sy'n gwneud y defnydd o 'nwy ac aer', a roddir i leddfu poen i fenywod sy'n esgor, yn ddiogel i'r amgylchedd. Mae gan y datblygiad cyffrous hwn y potensial i leihau allyriadau niweidiol yng Nghaerdydd a’r Fro, a thu hwnt.
Mae 'nwy ac aer', neu Entonox, yn gymysgedd o ocsid nitrus ac ocsigen ac fe'i defnyddir yn eang i leddfu poen menywod sy'n esgor. Pan gaiff ei anadlu allan, mae'r nwy tŷ gwydr hwn yn cyfrannu'n sylweddol at newid hinsawdd. Mae’n cynrychioli tua 75% o’r holl garbon deuocsid a’i gyfatebol (CO2e) o anestheteg a ddefnyddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae'r peiriant newydd, a elwir yn “gracer” ocsid nitrus”, yn torri'r ocsid nitrus yn nitrogen ac ocsigen diniwed, sef prif gydrannau aer arferol, ar ôl i'r nwy gael ei ddefnyddio. Mae'r wedi'i osod yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a chafwyd ymatebion cadarnhaol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion.
Daeth tîm amrywiol o glinigwyr, fferyllwyr, rheolwyr ystadau, a pheirianwyr ynghyd i fynd i’r afael â’r broblem dan anogaeth Academi Lledaeniad a Graddfa’r Bwrdd Iechyd, rhaglen a gynlluniwyd i hybu arloesedd ar draws sectorau amrywiol.
Gwnaeth Dr Charlotte Oliver, Anesthetydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a fu’n gyrru’r fenter hon, rhannu ei chyffro am y gamp dechnolegol hon: “Ein nod yn gyson fu lleihau gwastraff ac allyriadau. Nid peiriant yn unig yw'r cracer; mae'n symbol o'n hymrwymiad i arferion cynaliadwy ac mae'n gam hollbwysig ymlaen o ran lleihau allyriadau niweidiol.
“Roedd yr Academi Lledaeniad a Graddfa yn drawsnewidiol i ni. Cyn cymryd rhan, roedd meddwl am weithredu newid mor sylweddol yn frawychus. Rhoddodd yr Academi yr hyder a'r offer ymarferol angenrheidiol i ni ddod â'n gweledigaeth yn fyw. Roedd gen i ffydd lwyr y gallem gyflawni rhywbeth."
Cychwynnwyd y prosiect fel rhan o ymdrech ehangach gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a system ehangach GIG Cymru i wneud arferion gofal iechyd yn fwy cynaliadwy. Cafodd y prosiect gyllid gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) Llywodraeth Cymru ac yn dilyn proses ddethol gystadleuol gychwynnol dewiswyd E-Breathe, cwmni MedTech o Ogledd Iwerddon i ddatblygu’r prototeip. Roedd y ffocws ar weithgynhyrchu yn y DU nid yn unig yn ymwneud â budd economaidd, ond roedd yn tanlinellu ymrwymiad i arferion cynaliadwy.
Rhagwelir y bydd ei lwyddiant yn gosod y sylfaen ar gyfer cyflwyno mentrau masnachol ehangach a chydweithio y tu hwnt i Gaerdydd, gan alinio ag uchelgeisiau cynaliadwyedd cyffredinol y GIG a Llywodraeth Cymru.
Meddai Charlotte: “Mae’r prosiect hwn yn fwy na dim ond lleihau allyriadau; mae’n ymwneud â ffordd newydd o feddwl ym maes cynaliadwyedd gofal iechyd. Gallai llwyddiant y fenter hon ysbrydoli sefydliadau di-rif eraill i gymryd camau rhagweithiol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.”
Dywedodd Faye Williams, Rheolwr Prosiect SBRI, “Rwy’n falch iawn o fod wedi gallu cyflawni’r prosiect hwn ar ran Canolfan Ragoriaeth SBRI. Mae Charlotte a’i thîm yng Nghaerdydd wedi bod yn wych i weithio gyda nhw ac mae’r cydweithio unigryw gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghyd â chydweithwyr o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac wrth gwrs David yn E-Breathe wedi gweld y syniad hwn yn mynd o gysyniad i realiti. Mae’n wych gweld y prototeip terfynol yn cael ei ddefnyddio yng Nghaerdydd gan ei fod yn dangos yr hyn yr ydym wedi gallu ei gyflawni, a gobeithio y gall hyn gael effaith ehangach ledled Cymru a thu hwnt”.
Dywedodd David McLaughlin, Prif Swyddog Gweithredol E-breathe, “Mae’r cynnyrch arloesol hwn yn darparu ffordd gynaliadwy i famau gael y feddyginiaeth lleddfu poen sydd ei hangen arnynt yn ystod genedigaeth ac yn darparu amgylchedd gwaith mwy cyfforddus i fydwragedd – felly mae’n ticio llawer o flychau i ni yn E-breathe fel rhan annatod o'n gweledigaeth i ddarparu gofal iechyd mwy cynaliadwy. Mae gweithio gyda’r SBRI a thimau clinigol yn BIP wedi rhoi cyfle gwerthfawr iawn i ni gysylltu â defnyddwyr go iawn a allai helpu i lunio’r cynnyrch a hefyd darparu llwybr i dreialu’r cynnyrch. Mae’r cydweithio wedi bod yn bleser.”
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Rwy’n diolch yn ddiffuant i’n holl gydweithwyr am eu hymdrechion diflino i hyrwyddo gofal iechyd cynaliadwy. Mae eich ymroddiad i arloesi a chynaliadwyedd yn enghraifft o'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd. Trwy ledaenu a chyflwyno datblygiadau arloesol fel y cracer ocsid nitrus, rydym yn cymryd camau sylweddol tuag at leihau ein heffaith amgylcheddol tra'n cynnal safonau uchel o ofal cleifion. Mae’r ymrwymiad hwn i gynaliadwyedd nid yn unig o fudd i’n cymuned heddiw ond hefyd yn sicrhau yfory iachach i genedlaethau’r dyfodol.”
Llun: Aelodau o'r tîm mamolaeth (Kiah Best a Lauren Stafford) gyda’r peiriant 'cracer' ocsid nitrus