13 Mai 2025
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydnabyddiaeth ddwywaith am ragoriaeth yng Ngwobrau Mae Brechu'n Achub Bywydau (VSL) 2025.
Dyfarnwyd Gwobr y Tîm i Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro am ei waith partneriaeth rhagorol gyda Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, tra bod Gwobr y Pencampwr wedi'i rhoi i Gynorthwyydd Gofal Iechyd BIPCAF, Julie Morgan.
Wedi’i cynnal ddydd Iau, 1 Mai, mae gwobrau blynyddol VSL yn cydnabod, yn gwobrwyo ac yn dathlu'r gwaith caled a'r ymroddiad sy'n mynd i mewn i raglenni imiwneiddio ledled Cymru.
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Rwy'n hynod falch o bawb ar draws y sefydliad y mae eu hymroddiad, eu cydweithrediad a'u gwaith caled wedi gwneud y gydnabyddiaeth hon yn bosibl yn y Gwobrau Mae Brechu'n Achub Bywydau."
“Mae’r cyflawniadau hyn yn dyst i’r gwaith tîm anhygoel sy’n sbarduno popeth a wnawn. Mae brechiadau yn un o'r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ac mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach."
Dyma’r holl enillwyr ar y noson:
Cynhaliwyd y gwobrau fel rhan o Gynhadledd Imiwneiddio Cymru y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Stadiwm Swansea.com.
Drwy gydol y dydd, cafodd y mynychwyr wledd o amrywiaeth o sgyrsiau craff gan siaradwyr, gan gynnwys yr Athro Helen Bedford o Sefydliad Iechyd Plant UCL Great Ormond Street, yr Athro Paul Heath o Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Prifysgol St George ac anerchiad fideo gan Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd archwilio agweddau tuag at y frech goch a'r brechlyn brech yr ieir, yn ogystal â sgwrs ddiddorol gan Georgia Chisnall o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, ar bwysigrwydd hygyrchedd brechlynnau.
Dywedodd Dr Chris Johnson, pennaeth VPDP a dirprwy gyfarwyddwr diogelu iechyd: “Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy ein rhaglenni brechu sydd wedi helpu i ddileu neu leihau effeithiau amrywiol afiechydon ac, yn bwysicaf oll, wedi achub bywydau.
“Mae’r gynhadledd hon yn atgof gwerthfawr o’r rôl hanfodol y mae ein gweithwyr proffesiynol yn ei chwarae. Ni fyddai'r un o'r cyflawniadau hyn yn bosibl heb ymroddiad ein gweithwyr gofal iechyd.”