Y thema ar gyfer Wythnos y Gofalwyr yw 'gwneud i ofalwyr deimlo’n weladwy, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi'.
Mae 6,000 o bobl yn y DU yn dechrau gofalu am rywun sy'n agos atynt, yn ddi-dâl, bob dydd.
Efallai na fydd llawer o bobl sy'n gofalu am rywun annwyl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl ond gall cael y wybodaeth a'r cymorth iawn wneud gwahaniaeth mawr.
Gofalwr di-dâl yw unrhyw un sy'n darparu gofal di-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog sy'n sâl, yn fregus neu'n anabl ac sy'n methu ymdopi ar ei ben ei hun.
Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn oedrannus, yn anabl, ag anabledd dysgu, bod ganddynt broblem cyffuriau neu alcohol neu fod ganddynt salwch hirdymor.
Gall gofalu am rywun gymryd ychydig oriau bob wythnos neu gallai olygu gofalu am rywun am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae'r cymorth a ddarperir gan ofalwyr di-dâl yn amrywiol, ond gallai gynnwys:
Helpu rhywun i olchi a gwisgo ei hun a chyda gofal personol arall
Gwaith tŷ, siopa bwyd a chasglu a rhoi meddyginiaeth
Mynd â rhywun i'r ysbyty ac i apwyntiadau meddyg teulu
Darparu cwmni a chefnogaeth emosiynol.
Mae gofalwr ifanc yn rhywun sydd o dan 18 oed ac sy'n gyfrifol am ofalu am rywun sy'n sâl, yn fregus neu'n anabl ac sy'n methu ymdopi ar ei ben ei hun. Gallai hyn fod yn rhiant, yn fam-gu neu’n ddad-cu neu'n frawd neu'n chwaer.
Os credwch y gallech chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, fod yn ofalwr ifanc, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth eich Awdurdod Lleol am eich sefyllfa.
Os ydych yn byw yng Nghaerdydd, gallwch gysylltu â chydlynydd Gofalwyr Ifanc penodedig ar 02920 872 046 neu 07772 439767.
Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg, gallwch gysylltu â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar 0800 0327 322 neu familiesfirstadviceline@valeofglamorgan.gov.uk.
Bydd llawer o ofalwyr di-dâl yn credu bod eu rôl yn werth chweil, ond gall bod yn ofalwr di-dâl effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd.
Efallai y bydd rhai gofalwyr di-dâl yn teimlo bod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys cymorth gyda chyllid, ymarfer a chymorth emosiynol neu ofal amgen.
Darllenwch fwy am gymorth emosiynol ac ymarferol i ofalwyr di-dâl.
Gall gofalwyr di-dâl sy'n oedolion (y rhai dros 18 oed) gael asesiad gofalwyr gan y cyngor lleol.
Bydd gennych hawl i gael asesiad waeth faint o ofal rydych yn ei ddarparu neu’r math o ofal, eich sefyllfa ariannol neu lefel eich angen am gymorth.
Gall Awdurdodau Lleol ddarparu mwy o fanylion am y gwasanaethau sydd ar gael i Ofalwyr Di-dâl.
Cyngor Bro Morgannwg: Ffoniwch 01446 700111 neu ewch i wefan Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Caerdydd: Ffoniwch 029 2087 2087 neu ewch i wefan Cyngor Caerdydd.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am asesiadau gofalwyr.
Efallai y bydd gan ofalwyr di-dâl hawl i rai budd-daliadau hefyd.
Lwfans Gofalwr yw'r prif fudd-dal i ofalwyr. Os ydych yn gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos neu fwy, efallai y byddwch yn gymwys.
Darganfyddwch fwy am y Lwfans Gofalwr.
Os ydych yn ofalwr di-dâl ac yn gweithio, mae'n bwysig eich bod yn gwybod am eich hawliau.
Mae hawliau gofalwyr yn y gweithle yn cynnwys gofyn am oriau gweithio hyblyg a chymryd amser i ffwrdd ar gyfer argyfyngau sy'n cynnwys dibynyddion. Mae rhai cyflogwyr yn cynnig manteision a chymorth ychwanegol i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae gan CarersUK daflen ffeithiau ar hawliau gofalwyr mewn gwaith.
Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth lleol sydd ar gael, cysylltwch â Thîm Profiad y Claf ar 029 2184 5692 neu e-bostiwch pe.cav@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ehangach sydd ar gael, ewch i: