Neidio i'r prif gynnwy

'Atebodd bob cwestiwn, aeth i'r afael â phob ofn' | Cwrdd ag Arwr Iechyd mis Medi

17 Medi 2025

Mae Dr Sacha Moore, Cofrestrydd Arbenigol mewn Arenneg (Meddygaeth Arennol), wedi cael ei enwi'n Arwr Iechyd mis Medi i gydnabod y caredigrwydd, y gofal a'r tosturi y mae'n eu dangos i gleifion, a'u teuluoedd, sy'n byw gyda chlefyd yr arennau.


Ymunodd Dr Moore â'r tîm Arenneg yn ei rôl bresennol ym mis Awst 2024, ar ôl gweithio ym maes Arenneg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gylchdro yn 2021.

Wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dechreuodd Dr Moore PhD y mis diwethaf yn ymchwilio i fath penodol o glefyd cardiofasgwlaidd, o'r enw calcheiddiad fasgwlaidd, sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl â Chlefyd Cronig yr Arennau (CKD). Nod gwaith Dr Moore yw nodi llwybrau newydd fel targedau ar gyfer triniaethau yn y dyfodol.

“Os gallwn wella ein dealltwriaeth o’r mecanweithiau sylfaenol,” meddai Sacha, “efallai y byddwn yn gallu creu therapïau gwell i bobl sy’n byw gyda CKD yn y dyfodol.” Y datblygiad mewn therapiwteg yw un o'r nifer o resymau pam y denwyd Dr Moore at arbenigedd Meddygaeth Arennol. Dywedodd: “Rwy’n credu y byddwn yn gweld mwy a mwy o driniaethau newydd ar gyfer clefydau’r arennau yn ymddangos dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'n wych gallu cynnig triniaethau mwy penodol i'n cleifion.

“Mae gennym opsiynau triniaeth pan fydd arennau’n methu – fel trawsblannu a dialysis – ond un o’r heriau go iawn yw y gall methiant yr arennau effeithio ar bobl o unrhyw oedran ac ymddangos yn annisgwyl, gan waethygu effaith enfawr y diagnosis hwn ar gleifion a’u teuluoedd.”

Gall fod yn anodd rhoi diagnosis o Glefyd Cronig yr Arennau tan iddo gyrraedd cam datblygedig. Dyma oedd profiad brawd Rhian Casey, a enwebodd Dr Moore am wobr yr Arwr Iechyd.

Dywedodd Rhian: “Gwnaeth Dr Moore roi’r newyddion i fy mam fod gan fy mrawd fethiant yr arennau cam olaf a byddai angen trawsblaniad aren arno. Fel y gallwch ddychmygu, fel teulu roedden ni'n bryderus iawn. Roedd hyn yn sioc enfawr o ystyried bod fy mrawd yn 24 oed, ac fel arall yn heini ac yn iach.

“Gofynnais i Dr Moore a fyddai’n fodlon egluro beth oedd ganddo i fy mam, gan ei bod hi’n ofidus iawn ac nad oedd wedi deall popeth. Treuliodd dros 30 munud yn trafod popeth gyda mi eto, gan roi cymaint o wybodaeth a sicrwydd am fywyd ar ôl trawsblaniad. Nid dim ond diagnosis a roddodd Dr Moore i ni, cymerodd amser, ni waeth pa mor hir, i egluro popeth gyda chymaint o ofal.

“Atebodd bob cwestiwn, aeth i’r afael â phob ofn, a gwnaeth yn siŵr ein bod ni’n deall yn iawn beth oedd yn digwydd a beth fyddai’n dod nesaf.

“Ni allaf ddiolch digon i Dr Moore, na’r holl staff yn yr uned arennol. Diolch o waelod ein calonnau, nid yn unig am fod yn feddyg eithriadol, ond am ddangos caredigrwydd a thrugaredd mewn cyfnod mor ofnadwy.”

Mewn ymateb i enwebiad Rhian, dywedodd Dr Moore: “Rwy’n teimlo’n ostyngedig iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Rwy'n hynod ddiolchgar i Rhian am gymryd yr amser i ysgrifennu'r enwebiad hwn, ac am ei geiriau emosiynol sy'n golygu cymaint. Rwy'n cofio'r amser a dreulion ni gyda'n gilydd y diwrnod hwnnw ac, er ei fod yn newyddion anodd iawn, mae'n golygu llawer iawn gwybod bod y wybodaeth a'r atebion a gynigiais wedi rhoi rhywfaint o gymorth a chysur.

“Mae enwebiad Rhian yn tynnu sylw at waith yr holl staff yn yr uned arennol, a hoffwn adleisio hynny. Mae meddygaeth arennol yn ymdrech tîm, ac rwy'n ffodus iawn i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ysbrydoledig mewn Arenneg a Thrawsblaniadau sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl bob dydd.

“I mi, mae’r wobr hon yn adlewyrchu’n fawr yr holl bobl anhygoel ym mhob grŵp proffesiynol sy’n gweithio’n ddiflino gyda charedigrwydd ac ymroddiad i gefnogi ein cleifion arennol bob dydd, a’r ethos cyfannol sy’n sail i bopeth yr ydym yn anelu at ei wneud mewn arenneg.”

Noddir Arwr Iechyd yn garedig gan Park Plaza Caerdydd a bydd Dr Sacha Moore yn derbyn llety gwely a brecwast i’w ddefnyddio ar unrhyw nos Sul.
 

Ydych chi'n adnabod aelod o staff sydd wedi mynd gam ymhellach i ddarparu gofal rhagorol? Dywedwch ddiolch trwy eu henwebu fel Arwr Iechyd!

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni