15 Hydref 2024
Gyda Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae astudiaeth newydd arloesol sy’n cael ei chynnal yng Nghymru yn anelu at sicrhau bod cleifion canser y prostad risg uchel yn cael y lefel orau o ofal.
ELIPSE (Gwerthuso Lymffadenectomi mewn Llawdriniaeth Canser y Prostad Risg Uchel) yw’r astudiaeth wroleg lawfeddygol fwyaf yn y DU ac un o'r rhai mwyaf yn y byd. Mae’r astudiaeth yn archwilio dau fath gwahanol o lawdriniaeth ar gyfer dynion â chanser y prostad lleol risg uchel – canser sydd heb ymledu i unrhyw le arall yn y corff ond mae risg y gallai wneud hynny.
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar ddau fath o lawdriniaeth ar gyfer dynion â chanser y prostad lleol risg uchel – tynnu’r prostad a’r nodau lymff o'i gymharu â thynnu’r prostad yn unig – ac yn gwerthuso’r canlyniadau.
Ar hyn o bryd, mae'r ddau fath o lawdriniaeth yn cael eu perfformio yn y DU, ond nid oes digon o dystiolaeth i roi arweiniad i gleifion, eu teuluoedd na'u clinigwyr ar y dull gorau.
Nod yr astudiaeth, sydd wedi’i harwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Choleg Imperial Llundain gyda chefnogaeth gan Brifysgol Aberdeen, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yw dod o hyd i dystiolaeth hanfodol i gefnogi penderfyniadau cleifion a chlinigwyr.
Dywedodd yr Athro Krishna Narahari, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae'r treial hwn yn garreg filltir bwysig i GIG Cymru. Hon yw'r astudiaeth NIHR Wroleg gyntaf gyda Phrif Ymchwilydd a safle yng Nghymru. Hon hefyd fydd yr astudiaeth gyntaf o'i math a fydd yn astudio triniaeth Prostadectomi Laparosgopig â Chymorth Robotig – RALP.
Mae'r astudiaeth hon yn bwysig oherwydd mae'n ein helpu ni i sicrhau bod cleifion ledled y GIG yn cael yr un lefel uchel o ofal. Rydyn ni eisiau darganfod manteision tynnu nodau lymff mewn dynion â chanser y prostad lleol, risg uchel. Bydd y canlyniadau'n helpu cleifion a'u teuluoedd i wneud dewisiadau triniaeth gwell a gwella gofal ledled y byd.”
Bydd un o bob wyth o ddynion yng Nghymru yn cael canser y prostad, sef y canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion ledled y wlad.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'r astudiaeth hon nid yn unig yn ceisio darparu tystiolaeth hanfodol i lywio penderfyniadau llawfeddygol ar gyfer trin canser y prostad, ond mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd ymdrechion cydweithredol ledled y DU i wella canlyniadau cleifion.
“Wrth arwain y treial arloesol hwn, mae Cymru ar flaen y gad o ran ymchwil feddygol ac yn sicrhau bod ein cleifion yn cael y gofal mwyaf effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”
Bydd cleifion sy'n cael llawdriniaeth ar gyfer canser y prostad lleol risg uchel yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael gwahoddiad i ystyried bod yn rhan o'r astudiaeth hon gan eu tîm clinigol.
Bydd pob un sy’n cymryd rhan yn y treial yn llenwi holiaduron cyn y llawdriniaeth a thri mis, 12 mis, 24 mis a 36 mis ar ôl y llawdriniaeth. Byddant hefyd yn cadw dyddiadur i dracio canlyniadau prawf gwaed antigen penodol ar y prostad sy’n cael ei ddefnyddio wrth roi diagnosis canser y prostad ac ar gamau dilynol.